Er mwyn cael eu gwerthfawrogi’n wirioneddol, nid oes rhaid i bontydd fod yn uwch-strwythurau lle mae ceir yn taranu ar draws aberoedd enfawr ac yn rhoi’r gallu i bobl fynd o A i B yn gynt nag oedd yn bosibl o’r blaen. Gallant fod yn bontydd ar raddfa lai sy’n darparu cysylltiadau hanfodol i bobl ac yn helpu i hybu llesiant, mynediad i gefn gwlad, cyfleusterau cymunedol neu fannau agored.
Un bont o’r fath yw Pont y Werin yng Nghymru.
Y nendwr 828-metr, Burj Khalifa, yn Dubai yw adeilad talaf y byd. Yn cynnwys 160 llawr, dyma hefyd y strwythur annibynnol talaf yn y byd. Canfyddwch sut y cafodd y strwythur anhygoel hwn ei adeiladu, faint o amser a gymerodd a pha heriau a wynebodd y penseiri a'r tîm adeiladu.
Mae mynd â rheilffyrdd ar draws tir heriol wedi golygu campau peirianneg anhygoel ac wedi cynhyrchu rhai o’r teithiau rheilffordd gorau yn y byd. Dysgwch fwy am sut y cawsant eu hadeiladu a beth oedd y prosiectau hyn yn ei olygu isod.
Y byd o’n cwmpas, y trefi a’r dinasoedd yr ydym yn byw ynddynt, ein pontydd, ein ffyrdd a’n cyflenwadau dŵr – mae bron popeth mewn gwirionedd, yn yr amgylchedd adeiledig modern, yn waith peirianwyr sifil. Gwnânt yn siŵr bod pethau sydd wedi'u hadeiladu yn gweithio'n gywir, mewn termau damcaniaethol ac ymarferol. Felly, mae gyrfa fel peiriannydd sifil yn un gwerth chweil iawn.
Rheolaeth yw un o rannau pwysicaf prosiect adeiladu. Mae rheolwyr adeiladu yn sicrhau bod prosiectau’n cael eu cwblhau ar amser, o fewn y gyllideb ac i safon uchel. Mae ganddynt ystod eang o sgiliau a dylent allu dangos gwybodaeth a phrofiad sylweddol o’r diwydiant adeiladu.
Mae Stadiwm Wembley yn nodwedd eiconig ar orwel Llundain, ac yn un o’r lleoliadau chwaraeon mwyaf trawiadol yn y byd. 100 mlynedd ar ôl agor y stadiwm wreiddiol, canfyddwch fwy am hanes ‘The Home of Football’, sut y cafodd ei adeiladu a rhai o’i nodweddion mwyaf trawiadol.
Mae dronau wir wedi poblogeiddio yn y diwydiant adeiladu yn y blynyddoedd diwethaf, a bydd eu defnydd ond yn ehangu yn y dyfodol. Maent yn arf gwerthfawr ar gyfer rheolwyr safle, arolygwyr safle, cynghorwyr iechyd a diogelwch, syrfewyr a gweithwyr adeiladu proffesiynol eraill.
Ydych chi wedi sylwi bod toeau yn fwy serth mewn gwledydd Alpaidd? A bod llai o adeiladau uchel mewn gwledydd chwilboeth, lle mae gan adeiladau yn tueddu i gael ffenestri bach eu maint a llai ohonynt?
Dyma’r math o nodweddion sy’n gwahaniaethu adeiladau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer amgylcheddau eithafol. Dysgwch fwy am dechnegau adeiladu a heriau adeiladu mewn hinsawdd chwilboeth ac oer iawn.
Os ydych chi wir eisiau symud ymlaen yn eich gyrfa, gallai prentisiaeth gradd fod yn ddewis iawn i chi. Bydd angen i chi feddu ar y cymwysterau cywir, a gall cyrsiau gymryd hyd at chwe blynedd. Ond bydd gennych chi'r gorau o ddau fyd - swydd gyflogedig, profiad gwaith hynod berthnasol a'r cyfle i astudio ar gyfer cymhwyster lefel gradd.
Oes gennych chi 2 funud i ateb rhai cwestiynau am eich ymweliad heddiw?
Diolch! Rydym yn gwerthfawrogi'ch adborth yn fawr.