Fel syrfëwr meintiau, rwy’n gyfrifol am reoli a chofnodi symudiadau ariannol ar brosiect adeiladu.
Rwy’n sicrhau bod costau’r prosiect yn cael eu monitro’n gywir a’n bod yn cwrdd â’r llif arian drwy gydol cam adeiladu unrhyw brosiect.
Rydw i hefyd yn ymwneud â rheoli isgontractwyr sy’n gweithio ar y prosiect, gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon gywir ac yn cael y swm cywir o dâl am y gwaith maen nhw’n ei gwblhau.
Rwy’n gallu gweld yr adeilad yn datblygu bob dydd, a chael profiad uniongyrchol o’r dechnoleg sy’n gysylltiedig â chyflawni prosiect llwyddiannus.
Category | Information |
---|---|
Lleoliad | Caeredin |
Cyflogwr | Laing O’Rourke |
Pa lwybr addysg wnaethoch chi ei ddilyn o’r ysgol uwchradd i’r lle rydych chi heddiw?
Ar ôl fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol uwchradd, es i Goleg Carnegie yn Dunfermline, gan astudio HNC mewn Technoleg Bensaernïol. Ar ôl i mi lwyddo yn fy HNC, cefais fy nerbyn ar ail flwyddyn y Radd BSc (Anrh) Syrfeo Meintiau ym Mhrifysgol Heriot-Watt yng Nghaeredin. Wedi graddio gyda 2:1, cefais fy nerbyn wedyn ar raglen ddatblygu graddedigion Laing O’Rourke: rhaglen ddwy flynedd sydd â’r nod o ddatblygu talent Laing O’Rourke. Rydw i bellach yn dechrau ar ail flwyddyn y rhaglen.
Rwy’n credu y gall y diwydiant adeiladu ddarparu ar gyfer pob unigolyn, beth bynnag fo’u cefndir neu lefel eu haddysg.
Beth yw eich hoff beth am eich swydd?
Gan fy mod yn gweithio ar y safle, rwy’n cael gweld cynnydd y gwaith adeiladu bob dydd, ac yn cael profiad uniongyrchol o’r dechnoleg a ddefnyddir i gyflawni prosiect llwyddiannus.
Beth yw uchafbwynt eich diwrnod?
Mae fy rôl yn amrywiol iawn felly mae pob diwrnod yn wahanol. Petai’n rhaid i mi ddewis hoff weithgaredd, y gweithgaredd hwnnw fyddai adolygu’r dogfennau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â chyflawni prosiect adeiladu.
Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried gyrfa ym maes adeiladu?
Mae’r diwydiant adeiladu yn cynnwys amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, o weithwyr ar y safle i reolwyr a pheirianwyr adeiladu. I lenwi’r swyddi hyn, mae angen grŵp amrywiol o bobl arnom. Felly, rwy’n credu y gall y diwydiant adeiladu ddarparu ar gyfer pob unigolyn, beth bynnag fo’u cefndir neu lefel eu haddysg.
A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu, a fyddai’n ysbrydoli eraill i ddilyn y llwybr gyrfa o’u dewis?
Doeddwn i ddim yn gallu cael y lefel iawn o addysg er mwyn mynd yn syth i’r brifysgol o’r ysgol uwchradd. Fodd bynnag, wnaeth hynny ddim fy nigalonni, ac fe wnes i ddod o hyd i ffordd arall o gyrraedd y swydd rydw i ynddi ar hyn o bryd. Pe bawn yn rhoi un darn o gyngor, y cyngor hwnnw fyddai bod llawer o lwybrau gwahanol yn arwain at yr un canlyniad.
Mwy o straeon
Darllenwch straeon eraill am ddiwrnod ym mywyd pobl sy'n gweithio ym maes adeiladu
Rhagor o wybodaeth...
Syrfëwr meintiau
Mae syrfëwr meintiau yn cyfrifo’n union faint yw cost codi adeilad ac mae’n gyfrifol am gadw llygad barcud ar gyllid, o’r gyllideb gyntaf i’r bil terfynol.