Sut mae’r maes adeiladu'n addasu ar gyfer y dyfodol?
Mae’r diwydiant adeiladu bob amser yn addasu i anghenion newidiol cymdeithas, datblygiad technoleg a phrosesau newydd, o wneud deunyddiau ecogyfeillgar i gynaliadwyedd. Dim ond un rheswm o blith nifer yw hwn pam ei fod yn ddiwydiant mor wych i weithio ynddo – mae bob amser rhywbeth ffres a newydd.
Gadewch i ni edrych ar rai o’r ffyrdd mae’r diwydiant adeiladu yn addasu ar gyfer y dyfodol, a rhai o’r rolau a’r llwybrau gyrfa sydd ar gael os ydych chi’n bwriadu dechrau gyrfa ym maes adeiladu.
Dyfodol adeiladu
Does dim amheuaeth bod y galw am brosiectau mwy cynaliadwy a thechnolegol datblygedig yn dylanwadu ar y diwydiant adeiladu, ond mae hefyd yn helpu i lunio’r gofynion hyn gyda phrosesau gweithgynhyrchu newydd, technoleg gyffrous a phobl sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant yn defnyddio profiad i wella prosiectau ar gyfer y dyfodol.
Adeiladu mewn byd rhithwir
Mae byd rhithwir o ran adeiladu yn golygu pethau fel modelu ac argraffu 3D, rhith-wirionedd (VR) a realiti estynedig (AR) yn cael eu defnyddio i gynllunio a dylunio prosiectau adeiladu.
Er enghraifft, drwy ddefnyddio technoleg a meddalwedd newydd, gellir cynhyrchu model rhithwir manwl o brosiect adeiladu, ac weithiau hyd yn oed osod y defnyddiwr yn uniongyrchol yn yr amgylchedd rhithwir, i’w drwytho'n llawn o fewn y gofod.
Gall creu model bach 3D o safle adeiladu fod yn broses ffisegol gymhleth sy’n gofyn am le, amser a deunyddiau. Gall y diwydiant adeiladu nawr fanteisio ar sawl dull i greu model VR o safle, gan ei gwneud yn bosibl cynhyrchu model manwl a chywir yn gyflymach ac yn rhatach, a hefyd ei gwneud yn haws i rannu’r modelau hynny ar draws timau.
Mae VR yn galluogi timau i ‘weld’ safle prosiect heb deithio yno, sy’n arbed amser ac arian. Gall timau gydweithio a gofyn cwestiynau am y dyluniad neu wneud newidiadau iddo heb fod angen ei ailadeiladu’n ffisegol fel y byddai angen ei wneud gyda model 3D go iawn.
Prosesau gweithgynhyrchu uwch
Mae gweithgynhyrchu traddodiadol yn cyfeirio at y broses o drosi deunyddiau crai yn gynnyrch gorffenedig sy’n barod i’w werthu gan ddefnyddio technegau llaw a/neu fecanyddol. Mae gweithgynhyrchu uwch fel arfer yn cynnwys prosesau gweithgynhyrchu sy’n defnyddio technegau ac offer datblygedig, er enghraifft ffatrïoedd sy’n defnyddio roboteg neu feddalwedd cyfrifiadurol i wneud offer neu ddeunyddiau adeiladu yn hytrach na gwaith llaw.
Dylai cwmnïau sy’n cynhyrchu cynnyrch gan ddefnyddio gweithgynhyrchu uwch groesawu’r nodweddion canlynol:
Mae cynnyrch sy’n cael eu cynhyrchu gyda thechnegau gweithgynhyrchu uwch yn aml yn cynnwys lefel uchel o ddylunio neu’n cael eu hystyried yn ‘arloesol’, sy’n golygu eu bod yn wahanol i gynnyrch blaenorol neu’n rhagori arnynt. Mae cwmnïau sy’n croesawu gweithgynhyrchu uwch yn aml yn dweud eu bod yn cynhyrchu cynnyrch sy’n fwy newydd, sy'n well ac sy’n fwy cyffrous at ddibenion adeiladu.
Technolegau cynaliadwy
Mae’r diwydiant adeiladu'n gweithio'n galed i wella cynaliadwyedd ym mhob cam o brosiect. Dyma rai o’r technolegau sy'n cael eu defnyddio i wneud hynny:
Deunyddiau bioddiraddiadwy
Er mwyn rhoi’r gorau i daflu deunyddiau mewn safleoedd tirlenwi, mae prosiectau’n dod o hyd i ddeunyddiau bioddiraddiadwy, fel bambŵ o ffynonellau cynaliadwy, pren, myseliwm (math o ffwng) a phaent organig. Mae'r rhain yn pydru’n hawdd, heb ryddhau tocsinau, ac yn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
Mae adeiladau’n cael eu codi gyda solar pensaernïol (cydran yn hytrach na phanel solar nodweddiadol) i wneud yn siŵr eu bod yn gallu cynhyrchu digon o bŵer i fodloni eu gofynion o ran ynni.
Datblygwyd Passive House neu Passivhaus yn yr Almaen ac mae’n cael ei ystyried yn eang fel y math mwyaf datblygedig o adeiladu gwyrdd. Nid yw’n defnyddio unrhyw ddyfeisiau mecanyddol na thrydanol, ond mae'n defnyddio’r ffordd mae’r adeilad wedi’i ddylunio i reoli ei ddefnydd o ynni a’i ôl-troed ecolegol.
Technolegau sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon
Mae’r technolegau hyn yn cynnwys ailddefnyddio a defnyddio systemau cyflenwi dŵr effeithlon, gan gynnwys defnyddio plymio deuol, ailddefnyddio dŵr llwyd, casglu dŵr glaw a gosodion arbed dŵr.
Gwydr clyfar electronig
Mae gwydr clyfar electronig yn cau allan gwres ymbelydredd solar gan ddefnyddio signalau trydanol bach i wefru’r ffenestri ychydig, sy’n addasu faint o ymbelydredd solar mae’n ei adlewyrchu. Mae’r gwydr hwn yn lleihau’r baich gwresogi ac oeri mewn adeiladau, ac felly hefyd yn lleihau faint o ynni a ddefnyddir.
Inswleiddio gwyrdd
Ffordd gynaliadwy o inswleiddio’r waliau mewn adeiladau ydy hon - mae inswleiddio gwyrdd yn defnyddio hen ddeunyddiau a/neu ddeunyddiau ail-dro fel denim a phapur newydd.
Offer clyfar
Drwy osod offer clyfar mewn adeiladau, maen nhw’n defnyddio llai o ynni ac yn fwy effeithlon. Gellir datblygu popeth o boptai a rhewgelloedd i beiriannau golchi llestri a gwres canolog i fod yn rhai ‘clyfar’ er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf o’r dechnoleg hon mewn un prosiect.
Denu talent newydd ac uwchsgilio
Yn Am Adeiladu rydym yn gwybod pa mor bwysig yw annog pobl i ymuno â’r diwydiant adeiladu – i sicrhau ei fod yn parhau i ffynnu. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnig cyngor arbenigol ar brentisiaethau a chwalu’r mythau am y diwydiant i bobl nad ydynt efallai wedi sylweddoli bod swydd berffaith iddynt ym maes adeiladu.
Mae’r diwydiant hefyd yn annog y rheini sydd eisoes yn gweithio ynddo i ddatblygu eu sgiliau yn unol â dulliau a thechnoleg newydd. Gelwir hynny yn uwchsgilio, ac mae hyfforddiant ar gael drwy gyrsiau a phrentisiaethau i ddysgu sgiliau newydd, neu i integreiddio technolegau a meddalwedd newydd i’r rôl.
Mabwysiadu technolegau uwch
Mae technolegau digidol wedi bod yn treiddio'n raddol i mewn i’r diwydiant adeiladu dros y blynyddoedd, gan newid sut mae seilwaith, eiddo tirol ac adeiladau neu brosiectau eraill yn cael eu dylunio, eu hadeiladu, eu gweithredu a’u cynnal a chadw. O fodelu gwybodaeth adeiladu (BIM) a rhagffurfio i synwyryddion di-wifr ac offer awtomataidd/robotig, mae mewnbwn digidol wedi symleiddio prosesau, ac wedi gwneud prosiectau cynllunio yn fwy cydweithredol ac yn fwy cynaliadwy.
Mae technoleg newydd hefyd yn creu swyddi newydd i’r rheini sy’n dymuno gweithio ym maes adeiladu, ond heb waith llaw fel rhan o’r gwaith.
Rhagfynegiadau ar gyfer dyfodol y diwydiant adeiladu
Er ei bod yn amhosibl gwybod beth fydd y dyfodol, mae’n siŵr y bydd yr holl addasiadau uchod yn parhau i gael eu cyfuno â rhai dulliau adeiladu traddodiadol neu hyd yn oed yn eu disodli.
Cynnydd mewn deunyddiau ecogyfeillgar
Wrth i ni weithio i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, bydd mwy o gwmnïau’n ystyried defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar. Bydd deunyddiau naturiol o ffynonellau cynaliadwy yn lleihau gwastraff a faint o ynni sy’n cael ei ddefnyddio. Mae busnesau adeiladu fel Greenheart eisoes yn gwneud defnydd rhagorol o ddeunyddiau ecogyfeillgar, yn ogystal â phentwr o ddulliau eraill i’w helpu i adeiladu’n gynaliadwy.
Argraffu 3D
Gallai argraffu 3D newid y sefyllfa ar gyfer creu strwythurau dylunio cymhleth neu bwrpasol, gan leihau costau deunyddiau a llafur yn ogystal â chynhyrchu llai o wastraff. Gallai hefyd ganiatáu i waith adeiladu gael ei wneud mewn amgylcheddau anodd neu fwy peryglus nad ydynt yn addas i bobl weithio ynddynt neu eu defnyddio i leihau damweiniau.
Rhith-wirionedd a realiti estynedig
Gallai datblygiadau VR ac AR olygu bod modd cynllunio prosiectau adeiladu’n fwy effeithlon oherwydd bod dylunwyr a defnyddwyr yn gallu ‘gweld’ y prosiect gorffenedig neu agweddau arbennig o gymhleth cyn i’r gwaith ddechrau. Fel hyn, gellir datrys problemau cyn i unrhyw ddeunyddiau neu lafur gael eu gwastraffu.
Rhagor o wybodaeth am y rolau ym maes adeiladu sy'n addas ar gyfer pobl dechnegol
Os ydych chi wedi gwneud ein cwis mathau o bersonoliaeth, efallai bod eich canlyniad wedi dangos eich bod yn rhywun technegol. Mae’r rhain yn bobl sy’n croesawu technoleg newydd a chyffrous, yn ogystal â defnyddio eu harbenigedd mewn meddalwedd, rhaglenni a datblygiadau presennol er budd eu gwaith ac i helpu eu cydweithwyr. Gall y brwdfrydedd hwn arwain at nifer o rolau ym maes adeiladu, gan gynnwys pob un o’r canlynol:
Rheolwr modelu gwybodaeth am adeiladu
Ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu
Mae gyrfa adeiladu yn gwbl unigryw, edrychwch ar straeon pobl go iawn yn y diwydiant i weld beth sy’n bosibl.
Cysylltwch â ni ar ein cyfryngau cymdeithasol os oes gennych unrhyw ymholiadau:
Instagram - @goconstructuk
Facebook - @GoConstructUK
Twitter - @GoConstructUK