Sut i ysgrifennu llythyr eglurhaol ar gyfer prentisiaeth?
Llythyrau eglurhaol yw’r rheiny rydych chi’n eu cynnwys gyda’ch CV wrth wneud cais am brentisiaeth. Meddyliwch amdanyn nhw fel stori eich CV – byddwch chi’n ymhelaethu ar y pwyntiau byrrach a’r rhestrau bwledi o’ch sgiliau ac yn dangos sut mae eich profiad yn eich gwneud chi’n berffaith ar gyfer y swydd.
Os nad ydych chi erioed wedi ysgrifennu un o’r blaen, gall llythyr eglurhaol deimlo fel tasg anodd. Ond cyn belled â'ch bod yn cadw at ychydig o reolau syml, does dim rheswm pam na allwch chi ysgrifennu llythyr eglurhaol cryf sydd wir yn eich gwerthu i ddarpar gyflogwr.
Pa mor hir ddylai llythyr eglurhaol ar gyfer prentisiaeth fod?
Hyd delfrydol llythyr eglurhaol yw dim mwy nag un ochr i dudalen A4 – mae perygl y byddwch chi’n dechrau malu awyr os bydd yn hirach. Os bydd yn fyrrach na hynny, ni fyddwch chi’n ymdrin â digon o’ch sgiliau a’ch profiad nac wedi egluro pam y dylech chi gael y swydd. Mae pedwar paragraff yn hyd da.
Yr hanfodion mewn llythyr eglurhaol
Ysgrifennwch lythyr newydd ar gyfer pob cais
Gall fod yn demtasiwn copïo a gludo er mwyn cwblhau nifer o geisiadau, ond dylai pob llythyr fod yn unigryw. Wedi’r cyfan, mae pob swydd yn wahanol, ac felly hefyd pob cwmni rydych chi’n gwneud cais iddo. Mae’n iawn cael pwyntiau ac esboniadau tebyg am eich sgiliau, ond dylai pob llythyr rydych chi’n ei ysgrifennu deimlo’n wahanol i’w gilydd.
Mae’n iawn defnyddio templed fel man cychwyn
Mae nifer o dempledi ar gael ar-lein i helpu rhoi arweiniad i chi. Cyn belled nad ydych chi’n copïo gwaith rhywun arall, mae’n iawn defnyddio un. Mae manylion fel ble i gynnwys y dyddiad, at bwy rydych chi’n anfon y llythyr a’ch manylion cyswllt i gyd yn bwysig, a bydd templed yn dangos hyn i chi. Mae llawer o amrywiaeth ar gael, felly gwnewch yn siŵr bod pa bynnag un rydych chi’n ei ddewis yn glir ac yn hawdd ei ddarllen – nid yn un bloc mawr o destun.
Cyfeiriwch y llythyr at berson a enwir
Un o’r ffyrdd y gallwch chi wneud argraff dda yw drwy gyfeirio eich llythyr at unigolyn a enwir. Mae’n dangos eich bod wedi gwneud rhywfaint o ymchwil am y cwmni, a’ch bod chi o ddifrif ynghylch y cais. Mae’n hawdd dod o hyd i enw’r person y mae angen i chi ysgrifennu ato neu ati drwy edrych ar wefan y cwmni, anfon e-bost neu ffonio’r cwmni.
Paragraff 1: ‘Pam’
Rydych chi’n hawlio sylw’r darllenydd yn eich paragraff agoriadol. Esboniwch PAM eich bod yn ysgrifennu at y cwmni a PHAM eich bod yn gwneud cais am y swydd. Gallwch gynnwys gwybodaeth yma sy’n ymwneud â lle gwelsoch chi’r cyfle am swydd e.e. ‘Rwy’n ysgrifennu ynghlŷn â’ch hysbyseb am brentis adeiladu ar wefan Talentview’.
Paragraff 2: Gwerthwch eich hun
Gwerthwch, gwerthwch, gwerthwch! Dyma'ch cyfle i ddweud wrth y darpar gyflogwr pam y dylech chi gael y swydd. Beth amdanoch chi – eich profiad, eich sgiliau neu eich diddordebau – sy’n eich gwneud chi’n ymgeisydd perffaith? Beth allwch chi ei gynnig iddyn nhw? Gallwch gyfeirio at eich CV yma, drwy ddewis ychydig o’r cryfderau neu’r cyflawniadau a grybwyllwyd ac ymhelaethu arnynt.
Paragraff 3: Beth rydych chi’n ei wybod am y cwmni
Dangoswch eich bod wedi gwneud eich ymchwil am y cwmni – ei hanes, ei werthoedd a’r gwaith mae’n ei wneud. Os yw’n gwmni adeiladu, gallech chi gyfeirio at rai o’r prosiectau y mae’r cwmni wedi bod yn ymwneud â nhw, a’r hyn sy’n eich cyffroi neu sydd o ddiddordeb i chi am weithio i’r cwmni.
Paragraff 4: Galwad i weithredu
Dyma’r paragraff olaf a’ch cyfle olaf i greu argraff, felly mae’n bwysig gwneud hynny’n iawn.
Diwedd y llythyr yw eich cyfle i grynhoi’r hyn y byddech yn ei gyfrannu i’r swydd. Gallwch orffen drwy ddiolch i’r sawl a dderbyniodd y llythyr am roi o’i amser i’w ddarllen, ac yna darparu ‘galwad i weithredu’. Gallai hyn fod drwy ofyn am gyfarfod neu alwad ffôn i drafod y swydd ymhellach. Llofnodwch eich llythyr yn ffurfiol. Mae’n arfer da defnyddio ‘yr eiddoch yn gywir’ os ydych chi wedi cyfeirio’r llythyr at berson a enwir, ac ‘yn gywir’ os ydych chi wedi cyfeirio’r llythyr at ‘Syr/Madam’.
Gwiriwch eich llythyr
Darllenwch eich llythyr eto ymhen ychydig oriau neu’r diwrnod canlynol. Byddwch am wneud rhai newidiadau. Ewch yn ôl ato ychydig o weithiau nes eich bod yn hapus ag ef.
Gofynnwch i fwy nag un person edrych ar eich llythyr eglurhaol os oes modd. Yn ddelfrydol, gallech chi ofyn i rywun sy’n gweithio mewn diwydiant tebyg, ond mae ffrind neu berthynas a fydd yn rhoi adborth gonest i chi hefyd yn ddefnyddiol. Darllenwch y testun yn uchel hefyd, oherwydd bydd hyn yn eich helpu i glywed brawddegau clogyrnaidd neu letchwith, neu dynnu sylw at eiriau coll a gwallau sillafu.