Prentisiaethau yng Ngogledd Orllewin Lloegr
Gogledd Orllewin Lloegr yw un o’r ardaloedd sy’n tyfu’r cyflymaf yn y DU, â Manceinion yn arbennig yn ganolfan bwysig ar gyfer y diwydiannau digidol a thechnoleg. Mae adeiladu yn ffynnu ar draws y rhanbarth, ac mae rhai cyfleoedd gwych i brentisiaid ddechrau gyrfa newydd.
Chwiliwch ar Talentview am y swyddi gweigion diweddaraf a chanfyddwch fwy isod am yr hyn sy’n gwneud y Gogledd Orllewin yn wych i brentisiaid.
Y lleoliadau gorau yn y Gogledd Orllewin
Mae gan y Gogledd Orllewin hanes balch o gerddoriaeth, chwaraeon a diwylliant, ond a yw’n ddeniadol i brentisiaid sydd am ennill cymhwyster a dechrau gyrfa newydd? Wrth gwrs ei fod e!
Lerpwl
Â’i hanes morwrol cyfoethog, ei cherddoriaeth a'i threftadaeth gelfyddydol, mae Lerpwl wedi dod yn ddinas twf mawr, nid yn unig yn y Gogledd Orllewin ond yn y DU gyfan. Mae gan brentisiaid yng Nglannau Mersi fynediad at ystod wych o gyfleoedd hyfforddi yn y gwaith, o sefydliadau fel Prifysgol John Moores Lerpwl, Coleg Dinas Lerpwl a Choleg Hugh Baird. Mae prentisiaethau adeiladu yn boblogaidd yn Lerpwl, wedi’u hysgogi gan brosiectau adfywio sylweddol fel Liverpool Waters a’r Knowledge Quarter.
Manceinion
Manceinion yw un o’r dinasoedd mwyaf diwylliannol amrywiol yn y DU, ac un sydd wedi gweld ffyniant adeiladu rhyfeddol dros y 10-15 mlynedd diwethaf. Mae’n lle gwych i wneud prentisiaeth, astudio neu hyfforddi, ac mae’n gartref i 100,000 o fyfyrwyr. Bydd unrhyw brentis sy’n treulio amser yn astudio, yn hyfforddi neu’n cael profiad gwaith yn y ddinas yn gwerthfawrogi amrywiaeth a blas rhyngwladol bywyd ym Manceinion, boed hynny yn ei fwyd, ei fywyd nos neu ei ddiwylliant.
Preston
Mae dinas Preston yn cynnig nifer enfawr o gyfleoedd i brentisiaid, â Choleg Preston a Phrifysgol Canolbarth Swydd Caerhirfryn yn darparu hyfforddiant a phrentisiaethau o ansawdd uchel. Mae BAE Systems yn un o’r prif gyflogwyr yn y rhanbarth, yn gweithio’n agos â cholegau galwedigaethol a phrifysgolion yn yr ardal i ddatblygu rhaglenni prentisiaeth arbenigol, gan gynnwys rhai yn y diwydiant adeiladu.
Caer
Efallai bod Caer yn un o'r dinasoedd llai yn y Gogledd Orllewin ond mae'n llawn dop o ran ennill arian wrth ddysgu. Mae’n denu ymadawyr ysgol a phrentisiaid o bob oed, gan gynnig digonedd o gyfleoedd i ddechrau gyrfa newydd. Mae Coleg Swydd Gaer yn gweithio gyda dros 500 o gyflogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan ddarparu prentisiaethau ar draws sectorau gan gynnwys Peirianneg a Gweithgynhyrchu, Gwasanaethau Adeiladwaith ac Adeiladu, Manwerthu a TG. Mae Prifysgol Caer yn cynnig prentisiaethau gradd mewn meysydd fel nyrsio, plismona a gofal cymdeithasol.
Pa fathau o brentisiaethau sydd ar gael yn y Gogledd Orllewin?
Prentisiaethau gradd
Mae prentisiaethau gradd yn gymwysterau a ddatblygwyd gan gyflogwyr mewn partneriaeth â phrifysgolion a cholegau. Byddant yn gofyn bod gennych gymwysterau presennol yn y maes pwnc perthnasol.
Gall prentisiaethau gradd gymryd hyd at chwe blynedd i’w cwblhau, ond bydd gennych y gorau o’r ddau fyd – swydd â thâl wrth astudio am radd mewn prifysgol. Cynigir prentisiaethau gradd gan Brifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, Prifysgol John Moores Lerpwl, Prifysgol Caer, Prifysgol Fetropolitan Manceinion, Prifysgol Manceinion a Phrifysgol Salford.
Prentisiaethau adeiladu
Mae trefi a dinasoedd yng Ngogledd Orllewin Lloegr yn lleoedd gwych i adeiladu gyrfa mewn adeiladu. Gallech fod yn gweithio â chyflogwr mawr fel WSP neu Balfour Beatty ar un o'r prosiectau adfywio dinasoedd mawr nesaf, neu'n dysgu eich crefft dan arweiniad arbenigol gweithiwr proffesiynol yn un o golegau arbenigol yr ardal. Chwiliwch ar Talentview am y prentisiaethau adeiladu diweddaraf yn y Gogledd Orllewin.
Prentisiaethau i oedolion
Nid yw prentisiaethau ar gyfer y rhai sy’n gadael yr ysgol neu bobl ifanc yn unig. Os ydych o oedran gweithio, gallwch gymryd prentisiaeth, oherwydd mae prentisiaethau ar gyfer unrhyw un sy’n dysgu sgiliau newydd ac yn dilyn rhaglen astudio ffurfiol fel rhan o yrfa sy’n newydd iddynt. Mae llawer o bobl yn ailhyfforddi yn ddiweddarach mewn bywyd ac yn cymryd newid gyrfa. Mae prentisiaethau i oedolion o amrywiaeth o lefelau ar gael ar draws Gogledd Orllewin Lloegr, gan roi cyfle i bobl ddysgu sgiliau galwedigaethol wrth gael eu talu ar yr un pryd.
Canfod mwy am brentisiaethau adeiladu
Mae cannoedd o brentisiaethau ar gael yn y diwydiant adeiladu. Enillwch wrth ddysgu a magwch y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnoch ar gyfer rôl yn y sector adeiladu.
Explore apprenticeship opportunities in the North West
Pa bynnag adran o’r diwydiant adeiladu y mae gennych ddiddordeb ynddo, mae yna swyddi a rhaglenni prentisiaeth ar draws Gogledd orllewinn y wlad sy’n ddelfrydol i chi. Chwiliwch ar Talentview ac fe welwch gyfleoedd i fod yn Syrfëwr Meintiau, mewn Peirianneg Sifil, Gosod Dur, Gosod Toi a Phlymio.