Patrwm newydd - croesawu amrywiaeth a diwylliant ym maes Adeiladu
Ar Fis Hanes Pobl Dduon, rydyn ni’n edrych ar amrywiaeth mewn pensaernïaeth a’r rhwydweithiau sy’n newid y sefyllfa ar gyfer pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn y gwaith o ddylunio ac adeiladu ein hamgylchedd adeiledig.
Rydyn ni wedi siarad o’r blaen ar y blog hwn am amrywiaeth ethnig ym maes adeiladu. Mi wnaethom ni hyd yn oed arddangos rhai o’r cyfraniadau gorau a mwyaf disglair gan bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i bensaernïaeth. Fodd bynnag, er ein bod yn gweld newidiadau cadarnhaol yn agwedd y diwydiannau adeiladu a pheirianneg tuag at wella amrywiaeth a chynhwysiant, mae cryn dipyn o waith i’w wneud o hyd wrth fwrdd lluniadu unrhyw waith adeiladu: pensaernïaeth.
Adeiladu ar gyfer pawb
Pan fyddwn ni’n siarad am ein hamgylchedd adeiledig, rydyn ni’n disgrifio’r mannau a wnaed gan ddyn lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn ail-greu o ddydd i ddydd. Mae hynny’n golygu adeiladau, parciau a gwasanaethau cludiant – y mannau cyhoeddus rydyn ni i gyd yn eu defnyddio bob dydd.
Oherwydd bod pob un ohonom yn defnyddio’r mannau hyn, mae’n gwneud synnwyr y dylai pawb ar draws cymdeithas gael y cyfle i siapio sut maen nhw’n cael eu dylunio, eu creu a’u cynnal. Ac eto, er bod lleiafrifoedd du ac ethnig yn cyfrif am 14% o boblogaeth y DU, dim ond 6% o benseiri sydd o’r cefndiroedd hyn.
Dyna pam y cafodd rhwydweithiau a grwpiau diwydiant fel Paradigm eu creu.
Beth yw ystyr y gair Saesneg Paradigm?
Enw – enghraifft neu batrwm nodweddiadol o rywbeth; patrwm neu fodel.
Mae’n cymryd sawl blwyddyn a miloedd o bunnoedd o ddechrau astudiaethau israddedig i fod yn bensaer. Felly, er mwyn llwyddo, rhaid i chi ganolbwyntio a bod yn benderfynol o fynd drwy’r drws i’ch swydd gyntaf fel pensaer.
Siaradodd Tara Gbolade o’r Paradigm Network, a gafodd ei ysbrydoli i astudio pensaernïaeth gan yr eiconig a’r arloesol Zaha Hadid, â ni am ble mae’r diwydiant arni hyn o bryd, ac i ble mae’n mynd:
Mae’n ymwneud yn bennaf ag amlygrwydd; pan fyddwch yn dechrau astudio pensaernïaeth, dydych chi ddim yn gweld llawer iawn o bobl sy’n edrych yn debyg i chi. Mae llawer o aelodau Paradigm yn tynnu sylw at yr heriau maen nhw’n eu hwynebu pan nad oes ganddyn nhw system gymorth yn y proffesiwn – a dyna pam mae cael rhwydwaith sy’n hyrwyddo cynrychiolaeth BAME yn hynod bwerus.
Erbyn hyn, a hithau bellach wedi cael rhyw ddeng mlynedd o brofiad ac wedi sefydlu ei phractis ei hun, mae Tara’n eistedd ar bwyllgor o benseiri BAME sy’n gyfrifol am newid wyneb pensaernïaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Newid wyneb pensaernïaeth
O gynnal digwyddiadau i roi aelodau mewn cysylltiad â mentoriaid a phobl sy’n recriwtio, i siarad mewn digwyddiadau yn y diwydiant am bwysigrwydd cynrychiolaeth ac amrywiaeth, mae Paradigm yn canolbwyntio ar agor llygaid unigolion dylanwadol i weld y doniau heb eu cydnabod y gallent fod yn eu cyflogi a’u meithrin.
Mae llawer iawn o ddarpar benseiri BAME talentog ar gael... Mae Paradigm yn caniatáu i ni greu’r cysylltiad hwnnw rhwng penseiri BAME a phractisiau mwy sy’n gefnogol iawn i’r weledigaeth.
Ar gyfer ei 300 o aelodau, mae cyfle i benseiri BAME, ar ddechrau eu teithiau proffesiynol, i weld wyneb tebyg i’w wynebau nhw, sy’n modelu gyrfa lwyddiannus a gwerth chweil. Ni ellir gorbwysleisio effaith y profiad hwnnw.
Denu’r dalent orau
O ran y gwaith sydd dan sylw, mae’r gystadleuaeth am gontractau dylunio mawr yn mynd yn galetach bob blwyddyn. Wrth ymateb i gyllidebau tynnach a mwy o reoleiddio, mae cwmnïau pensaernïaeth yn cymryd EDI (Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth) yn fwy o ddifrif nag erioed yn y gobaith o ddenu a chadw’r talentau gorau.
“Mae mwy o bractisiau mwy o faint yn ymgysylltu ac yn cysylltu’n benodol â Paradigm am gyfleoedd gwaith neu i gymryd rhan yn ein digwyddiadau... mae llawer ohonyn nhw’n cysylltu â ni os bydd swydd yn mynd. Byddwn yn cael e-bost yn dweud y bydden nhw wrth eu bodd pe bai pobl o Paradigm yn gwneud cais am y swydd hon. Mae’n bwysig nodi bod y berthynas yn tueddu i weithio’r ddwy ffordd hefyd; oherwydd efallai bod gan ein haelodau gysylltiadau â gwledydd y tu allan i’r UE. Maen nhw’n aml yn dod â phrosiectau mwy, a phrosiectau eithaf diddorol i gwmni maen nhw’n teimlo’n gyfforddus ynddo a gydag ef.”
Mae Paradigm eisoes wedi creu cysylltiadau cadarnhaol â phractisiau mawr a/neu bractsiau sydd wedi hen ennill eu plwyf yn Llundain, fel Stiff + Trevillion, Sarah Wigglesworth Architects a Jestico & Whiles, sydd wedi bod yn arbennig o gefnogol i’r rhwydwaith a’i ddatblygiad. Mae Paradigm hefyd yn edrych ymlaen at ehangu i ardaloedd eraill yn y DU, lle mae cyfoeth o dalentau BAME heb eu darganfod yn chwilio am y cyfle iawn.
Ail-lunio ein tirwedd
Mae aelodau Pwyllgor Rhwydwaith Paradigm yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb i fodelu’r arferion pensaernïaeth y maent am eu gweld yn y dyfodol; nid yn unig fel aelodau o’r gymuned BAME, ond fel unigolion sydd ag ymwybyddiaeth gymdeithasol ac amgylcheddol.
Ymhell o ddyddiau traddodiadol y proffesiwn, pan mai dyletswydd syml pensaer oedd dylunio adeilad o fewn ffiniau llinell goch benodol, bydd galwad fwy gan weithwyr proffesiynol y dyfodol i ymateb iddi:
Mae ein hinsawdd mewn argyfwng a’n cyfrifoldeb ni a’n rôl fel penseiri yw bod yn gyfannol o ran sut rydym yn ymdrin â phensaernïaeth... mae angen i ni ymwneud llawer mwy ag iechyd a lles defnyddwyr ein hadeiladau a chreu lleoedd y mae pobl yn ffynnu ynddynt, nid dim ond goroesi.
Mae’n dasg enfawr, ac nid yw’n un i’w gadael i un rhan o gymdeithas. Bydd ymarfer pensaer yn y dyfodol wedi dysgu o gamgymeriadau’r gorffennol i adeiladu prosiectau sy’n ddiogel ac yn gynaliadwy i bawb sy’n eu defnyddio. I wneud hynny, rhaid iddynt groesawu amrywiaeth neu wynebu’r perygl o gael eu gadael ar ôl.
O ran Tara, mae hi’n obeithiol am ddyfodol ei chornel fach o’r byd: “Rwy’n cael fy ysbrydoli gymaint gan y genhedlaeth iau, eu hegni, eu hangerdd a’u hymgysylltiad... rwy’n teimlo ein bod mewn tirwedd sy’n newid, ac rwy’n credu bod newid ar ei ffordd – rhywsut neu’i gilydd!”
Sut mae diwylliant adeiladu yn newid?
Gallwch weld sut beth yw gweithio ym maes adeiladu gan y rheini sydd eisoes yn y diwydiant ar ein cyfrif Instagram!
Ac, edrychwch i weld sut mae gweithlu ethnig amrywiol yn well i bawb.
Ydych chi’n cael eich ysbrydoli i fod yn bensaer?
Dysgwch fwy am rôl pensaer.
Neu, rhowch gynnig ar ein Chwilotwr Gyrfa i ddod o hyd i rôl sy’n addas i chi!