Pa Swydd Ddylwn I’w Gwneud?!
Mae rhai yn gwybod o oedran ifanc beth maen nhw eisiau ei wneud fel swydd pan fyddent yn gadael yr ysgol, ond i eraill, gall fod yn anoddach penderfynu. Os ydych chi ar fin gadael yr ysgol, newydd gymryd eich TGAU neu’n ystyried pa gwrs i’w ddilyn yn y coleg, dyma rai syniadau a allai eich helpu i ddod o hyd i’r swydd gywir ar gyfer eich personoliaeth, cryfderau a diddordebau.
Sut ydw i'n gwybod pa swydd sy'n iawn i mi?
Beth yw fy nghryfderau a sgiliau?
Ydych chi’n berson ymarferol, yn dda â’ch dwylo, sy’n mwynhau trwsio pethau? Neu a ydych chi’n fwy academaidd, yn dda â rhifau neu eiriau, ac yn meddwl y byddech chi’n gweithio’n well mewn swyddfa, efallai’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar sut mae busnes yn gweithredu? Ydych chi’n chwaraewr tîm da, neu’n well gennych weithio’n annibynnol? Ydych chi’n hoff o ddatrys problemau, neu arwain trafodaethau?
Os ydych chi’n gwybod beth yw eich cryfderau a’ch sgiliau penodol, yna bydd gennych chi syniad gwell o’ch opsiynau gyrfa a pha swydd sydd yn briodol i chi.
Beth yw fy niddordebau? Beth ydw i'n angerddol dros?
Oes gennych chi unrhyw ddiddordebau rydych chi’n meddwl y gallech chi eu harchwilio’n fwy yn eich gyrfa? Efallai eich bod yn dda â chyfrifiaduron neu dechnoleg, yn mwynhau chwarae chwaraeon neu ofalu am anifeiliaid? Efallai eich bod yn hoffi creu pethau, chwarae ag injans ceir neu fod yn greadigol mewn rhyw ffordd – ysgrifennu, arlunio neu dynnu lluniau. Gall unrhyw un sy’n gallu dilyn angerdd neu ddiddordeb a’i droi’n swydd neu yrfa fwynhau eu swydd yn fwy na phobl eraill.
Beth yw fy nghynlluniau a blaenoriaethau?
Os ydych chi’n gwybod beth yw eich nodau hirdymor – ac os ydych chi newydd adael yr ysgol, peidiwch â phoeni, efallai nad ydych chi’n gwybod – yna gallai hynny eich helpu i ddewis gyrfa. A ydych yn cael eich ysgogi gan wobrau ariannol neu foddhad swydd? Ydych chi eisiau gweithio dramor, neu’n bwriadu dechrau teulu ar ryw adeg? Efallai eich bod am ddechrau eich busnes eich hun rhyw ddydd.
Dylid cynnwys yr holl bethau hyn yn eich dewisiadau gyrfa, gan ei bod yn bwysig dod o hyd i swydd sy’n cyfateb i’ch targedau proffesiynol, eich cynlluniau neu’ch blaenoriaethau personol.
Beth am fy nghymwysterau ac addysg?
Os oes gennych chi rai cymwysterau eisoes, fel TGAU, yna gall y rhain fod yn ddangosydd da o’r hyn rydych chi’n rhagori arno. Gallai unrhyw un sydd â graddau uchel mewn Mathemateg neu Wyddoniaeth fod yn addas ar gyfer swydd sydd yn fwy technegol, fel peirianneg, tra gallai rhywun sydd wedi gwneud yn dda yn Saesneg fod yn well mewn swydd fwy gweinyddol. Fodd bynnag, mae pasio TGAU mewn Mathemateg a Saesneg yn aml yn cael eu hystyried yn ofyniad sylfaenol ar gyfer rhai swyddi a phrentisiaethau. Os oes gennych chi NVQ Lefel 1 neu 2, yna rydych chi eisoes wedi arbenigo i ryw raddau mewn maes swydd.
Mae yna bethau eraill i’w hystyried hefyd, megis pa fath o amgylchedd yr hoffech chi weithio ynddo fwyaf – y tu mewn, mewn swyddfa neu weithdai, neu’r tu allan, efallai ar safle adeiladu? Neu efallai eich bod chi awydd deithio ar y ffyrdd a gweld gwahanol rannau o’r wlad fel rhan o’ch swydd?
Mae gan Am Adeiladu chwilotwr gyrfa defnyddiol sy’n dod o hyd i rolau adeiladu sydd fwyaf addas i’ch diddordebau, sgiliau a chymwysterau.
Pa swyddi y mae galw amdanynt yn y DU?
Mae prinder sgiliau mewn rhai meysydd gwaith, ac mae byd y gwaith yn newid o hyd. Er enghraifft, mae mwy o gyfleoedd gwaith ym maes cynaliadwyedd bellach nag oedd ar gael 5 neu 10 mlynedd yn ôl. Mae galw mawr am y mathau canlynol o swyddi yn y DU ar hyn o bryd:
- Datblygwyr meddalwedd
- Penseiri
- Gweithwyr iechyd
- Seiberddiogelwch
- Gwyddonwyr ffisegol
Pa swyddi adeiladu sy'n cŵl?
Cliciwch ar y proffiliau swyddi isod i gael gwybod mwy am rai gyrfaoedd cŵl ym maes adeiladu.
- Cydlynydd BIM
- Gweithredwr Craen
- Ecolegydd
- Peiriannydd Geo-Dechnegol
- Dylunydd Mewnol
- Pensaer Tirlunio
- Gosodwr Paneli Solar
- Rheolwr Cynaliadwyedd
Os yw un o’r rhain yn apelio atoch, yna efallai y byddwch chi’n gallu cael profiad gwaith â chyflogwyr i ganfod mwy am yr hyn mae’r swydd yn ei olygu.
Wedi'ch ysbrydoli i adeiladu gyrfa mewn adeiladwaith?
Yn Am Adeiladu mae gennym lawer o wybodaeth ddefnyddiol am yrfaoedd ym maes adeiladu a sut i ddechrau arni yn y diwydiant, yn ogystal â thros 170 o broffiliau swyddi.