Pa fathau o swyddi alla i eu gwneud gyda fy ngradd peirianneg fecanyddol?
Bydd gradd mewn peirianneg fecanyddol yn agor llawer o lwybrau gyrfa i chi. Os ydych chi'n beiriannydd mecanyddol sydd newydd raddio, bydd galw mawr arnoch chi gan ystod eang o ddiwydiannau, o foduron i awyrofod, ynni i weithgynhyrchu. Yn ôl UCAS, bydd twf o 3% mewn cyfleoedd swyddi peirianneg fecanyddol dros yr 8 mlynedd nesaf.
Mae’n debygol y byddwch wedi cwblhau rhywfaint o brofiad gwaith mewn peirianneg neu fod gennych rai syniadau ar y llwybr gyrfa yr hoffech ei ddilyn, ond dyma rai swyddi peirianneg fecanyddol ar gael i’ch ysbrydoli ymhellach.
Beth yw gradd peiriannydd mecanyddol?
Mae gradd mewn peirianneg fecanyddol yn rhoi dealltwriaeth eang o egwyddorion peirianneg fecanyddol - sut mae peiriannau, systemau a strwythurau yn gweithio. Mae myfyrwyr yn edrych ar ddeinameg hylif, thermodynameg a gwyddor defnyddiau, ac yn datblygu sgiliau datrys problemau, creadigrwydd a meddwl yn feirniadol.
Pam mae gradd peirianneg fecanyddol yn werthfawr yn y diwydiant adeiladu?
Mae pobl â swyddi peirianneg fecanyddol yn bwysig i'r diwydiant adeiladu oherwydd bod pob adeilad yn integreiddio systemau a strwythurau mecanyddol sy'n hanfodol i'w swyddogaeth. Er enghraifft, mae angen arbenigedd peirianwyr mecanyddol ar systemau HVAC a phlymio, prosesau amddiffyn rhag tân a seilwaith cynhyrchu ynni. Mae peirianwyr mecanyddol yn defnyddio eu sgiliau a’u profiad i sicrhau bod y systemau gwahanol hyn yn cael eu dylunio mewn ffyrdd sy’n bodloni anghenion deiliaid yr adeilad, yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu ac yn ddiogel, cost-effeithiol a chynaliadwy.
Swyddi peirianneg fecanyddol i raddedigion
Peiriannydd CAD
Mae peirianwyr neu weithredwyr dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD) yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i gynhyrchu lluniadau 2D a 3D ar gyfer prosiectau adeiladu a gweithgynhyrchu. Fel peiriannydd CAD, efallai eich bod yn dylunio adeiladau, peiriannau neu gydrannau, yn cymryd gwybodaeth gymhleth a'i defnyddio i gynhyrchu diagramau adeiladu technegol ar gyfer penseiri, peirianwyr a gweithwyr adeiladu eraill.
Peiriannydd sifil
Mae peirianwyr sifil yn cynllunio, dylunio a rheoli prosiectau adeiladu mawr. Gallai'r prosiectau hyn gynnwys pontydd, adeiladau, cysylltiadau trafnidiaeth a strwythurau mawr eraill. Mae peirianwyr sifil yn defnyddio meddalwedd modelu cyfrifiadurol a data o arolygon, profion a mapiau, ac yn cynghori contractwyr ar risgiau amgylcheddol.
Peiriannydd amgylcheddol
Mae peirianwyr amgylcheddol yn canolbwyntio ar warchod yr amgylchedd trwy leihau gwastraff a llygredd. Mae peirianneg amgylcheddol yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol, gan helpu i ddatblygu adnoddau ynni adnewyddadwy a gwneud y defnydd gorau o ddeunyddiau presennol. Mae peirianwyr amgylcheddol yn dylunio technolegau a phrosesau sy'n rheoli llygredd ac yn glanhau halogiad.
Peiriannydd gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC)
Mae peirianwyr HVAC yn gosod, cynnal ac atgyweirio'r systemau sy'n rheoli tymheredd ac ansawdd aer, gan weithio ar draws ystod eang o sectorau yn y diwydiant adeiladu. Mae rhai peirianwyr HVAC yn canolbwyntio eu gwaith ar un math o system, megis gwresogi neu aerdymheru, tra bod eraill yn ymdrin â phob dull o wresogi, awyru ac aerdymheru.
Peiriannydd diwydiannol
Mae peirianwyr diwydiannol yn defnyddio eu harbenigedd peirianneg fathemategol a mecanyddol i ddatrys problemau sy'n codi wrth gynhyrchu neu weithgynhyrchu cynhyrchion. Maent yn cynghori ar ddeunyddiau a gweithdrefnau profi i wneud yn siŵr bod tasgau'n cael eu cwblhau ar amser a chadw prosiectau i redeg yn esmwyth. Gallai'r rôl hon eich gweld yn gweithio ar draws pob math o feysydd o fewn adeiladu, megis gofal iechyd neu gludiant, ond y nod bob amser yw gwella effeithlonrwydd llif gwaith.
Peiriannydd prosesau niwclear
Mae peirianwyr prosesau niwclear yn gyfrifol am ddylunio a rheoli rhediad diogel a chynhyrchiol gorsafoedd ynni niwclear, sy'n cynhyrchu'r trydan a ddefnyddir gan gartrefi a busnesau. Mae gan beirianwyr prosesau niwclear gyfrifoldebau enfawr, gan gynnwys monitro a mesur lefelau ymbelydredd, cael gwared ar wastraff niwclear yn ddiogel a phrofi deunydd niwclear.
Peiriannydd mecanyddol a pheiriannau
Mae peirianwyr mecanyddol a pheiriannau yn archwilio, dylunio, gosod neu atgyweirio peiriannau a chyfarpar i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda, yn gweithio'n ddiogel ac yn rhedeg yn esmwyth. Efallai y bydd yn rhaid iddynt ymchwilio i broblemau gydag offer a dod o hyd i atebion, rheoli prosiectau, gwneud rhannau, gosod a phrofi peiriannau.
Cychwyn eich gyrfa mewn peirianneg fecanyddol
Sgiliau a chymwysterau
Bydd gan raddedigion sydd â gradd mewn peirianneg fecanyddol ystod eang o sgiliau caled a meddal, o ddeall priodweddau gwahanol ddeunyddiau ac agweddau ar theori rheoli i waith tîm, rheoli prosiect a datrys problemau.
Profiad gwaith
Mae llawer o ffyrdd y gallwch gael profiad gwaith fel rhan o astudio ar gyfer eich gradd mewn peirianneg fecanyddol. Gallwch ennill mantais gystadleuol dros fyfyrwyr peirianneg fecanyddol eraill trwy drefnu lleoliad profiad gwaith neu interniaeth yn ystod gwyliau prifysgol, yn enwedig gwyliau hir yr haf.
Darganfod mwy am yrfaoedd ym maes adeiladu
Gyda chymaint o yrfaoedd a chyfleoedd ym maes adeiladu, mae rhywbeth at ddant pawb. Darganfyddwch pa rolau adeiladu sy'n addas i'ch sgiliau a'ch diddordebau trwy ddefnyddio ein chwilotwr gyrfa.
Yn Am Adeiladu mae gennym hefyd dros 170 o broffiliau swyddi gwahanol, felly mae'n debyg y gallwch ddod o hyd i yrfa mewn adeiladu sy'n addas i chi. Mae gan bob proffil swydd ddigonedd o wybodaeth ddefnyddiol, fel cyflog, opsiynau hyfforddi, sgiliau allweddol ac astudiaethau achos gan bobl sydd eisoes yn gweithio ym maes adeiladu.