Mis Hanes Pobl Ddu mewn adeiladu: Meshi Taka
Ar gyfer Mis Hanes Pobl Ddu, buom yn siarad â Meshi Taka, peiriannydd sifil siartredig sy’n arbenigo mewn dŵr a chyfleustodau yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr. Mae Meshi yn ymwneud yn weithredol â gwella canlyniadau i bobl sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu, yn enwedig trwy ei gwaith yn Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE).
Yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn y cwmni peirianneg seilwaith Waterman Aspen, mae rolau eraill Meshi yn cynnwys gwasanaethu fel Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Tegwch, Cynhwysiant a Pharch ICE.
Wedi’i geni yn Llundain, magwyd Meshi yn Camerŵn ac mae’n frwd dros hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn peirianneg a’r amgylchedd adeiledig. Dywedodd Meshi wrthym sut y dechreuodd ymddiddori mewn peirianneg a beth mae amrywiaeth yn ei olygu yn y diwydiant adeiladu.
A allwch chi ddweud wrthym am eich cefndir a sut y gwnaethoch chi ddod i ymwneud â'r diwydiant adeiladu yn y lle cyntaf?
Meshi: “Cefais fy ngeni yn Llundain ond cefais fy magu yn Camerŵn. O oedran ifanc, roedd gen i ddiddordeb mawr mewn Gwyddoniaeth, mathemateg a datrys problemau. Chwaraeodd fy nhad, a oedd yn gweithio fel Peiriannydd Sifil a Strwythurol, ran arwyddocaol wrth feithrin y diddordeb hwn. Trwy fy mhlentyndod cyfan, treuliais oriau di-ri yn mynd trwy ei werslyfrau peirianneg, cyfrifiadau, a lluniadau gan danio fy awydd i ddod yn beiriannydd.
Cwblheais radd mewn Peirianneg Sifil a Strwythurol ym Mhrifysgol Bradford cyn ymuno â MWH (Stantec bellach) i ddechrau ar leoliad diwydiannol 12 mis ac yn ddiweddarach fel gweithiwr amser llawn gyda ffocws ar ddŵr a’r amgylchedd.”
Allwch chi rannu rhai enghreifftiau o brosiectau neu fentrau lle rydych chi wedi chwarae rhan arwyddocaol neu wedi cael effaith gadarnhaol ar eich tîm neu gwmni?
Meshi: “Un prosiect nodedig yr wyf yn ei arwain ar hyn o bryd yw Project Groundwater Northumbria. Mae hon yn fenter arloesol a ariennir gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Ei nod yw chwyldroi sut mae perygl llifogydd dŵr daear yn cael ei nodi, ei asesu a'i reoli yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr. Mae llifogydd yn achosi difrod i gymunedau ar draws y wlad bob blwyddyn gydag amcangyfrif o ddifrod o tua £700m ac yn codi. Mae perygl llifogydd dŵr daear yn broblem gynyddol ac nid yw'n cael ei deall yn dda o hyd.
Drwy'r prosiect hwn, rydym yn datblygu modelau rhanbarthol a chronfeydd data nad oeddent yn bodoli o'r blaen, gan rymuso cymunedau ac awdurdodau rheoli risg i ddod yn fwy gwydn a gwybodus am risgiau sy'n ymwneud â dŵr daear.
Yn eich barn chi, beth yw manteision cael gweithlu amrywiol yn y diwydiant adeiladu?
Meshi: “Mae cael gweithlu amrywiol yn dod â myrdd o fanteision. Un o’r manteision nodedig yw cronfa gynyddol o greadigrwydd ac arloesedd. Mae gwahanol gefndiroedd, profiadau a safbwyntiau yn meithrin syniadau a dulliau newydd o ddatrys problemau.”
Ydych chi wedi gweld unrhyw newidiadau neu welliannau cadarnhaol yn y diwydiant o ran amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod eich gyrfa?
Meshi: “Do, rwyf wedi gweld cynnydd calonogol yn y diwydiant ers i mi ymuno ag ef gyntaf. Mae cynnydd amlwg mewn cynrychiolaeth amrywiol o fewn y gweithle, ac mae mwy o unigolion bellach yn barodi i godi llais a mynd i’r afael â materion yn ymwneud ag anghydraddoldeb. Yn ogystal, mae presenoldeb cynyddol o gynghreiriaid sy’n cyfrannu’n weithredol at greu amgylchedd mwy cynhwysol i bawb.
Rwy’n ysgrifennu am themâu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Peirianneg, a’r dyfodol ar fy mlog. Mae’n ofod cyffrous lle rwy’n ymchwilio i’r croestoriad rhwng technoleg, arloesedd a sut maen nhw’n siapio ein byd.”
Sut gall cwmnïau a sefydliadau adeiladu ddenu a chadw talent o gefndiroedd ethnig amrywiol yn well?
Meshi: “Er mwyn denu a chadw talent o gefndiroedd ethnig amrywiol, gall cwmnïau a sefydliadau adeiladu gymryd sawl cam:
- Meithrin diwylliannau cynhwysol sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal.
- Gweithredu polisi dim goddefgarwch tuag at unrhyw fath o wahaniaethu neu ragfarn.
- Dileu systemau sy’n hwyluso ymddygiad gwahaniaethol, megis rhagfarn ar sail enwau neu gefndiroedd ethnig.
- Darparu rhaglenni hyfforddi cynhwysfawr i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o amrywiaeth a chynhwysiant.
- Ymgysylltu’n weithredol â chymunedau amrywiol a sefydlu partneriaethau i greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol.”
Wedi eich ysbrydoli? Rhannwch eich straeon am weithwyr adeiladu proffesiynol dylanwadol heddiw.
Os ydych chi eisiau tynnu sylw at rywun ym maes adeiladu sydd wedi eich ysbrydoli, neu i rannu eich profiad o amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant, cysylltwch ag Am Adeiladu.