Roedd gen i lawer o opsiynau wrth wneud cais am le yn y brifysgol.

Peirianneg, peirianneg bensaernïol, y gyfraith – ymgeisiais hefyd am hanes celf. Yn y diwedd, penderfynais ar hanes celf ac yn fy nhrydedd flwyddyn fe wnes i gadwraeth pensaernïaeth yr Alban.

Gan fy mod wedi symud o Dde Affrica i’r Alban, gwnaeth hynny i mi werthfawrogi’r dreftadaeth yma gymaint mwy.

Mae’r tŷ rwy’n byw ynddo ar hyn o bryd dros 200 mlwydd oed – mae hynny’n hŷn na rhai o’r henebion cenedlaethol sydd yno.

Gwnaeth adeiladau trawiadol Caeredin a’r gwrthgyferbyniad rhwng y dref newydd a’r hen dref argraff fawr arnaf.

Byddai fy ffrindiau’n chwerthin pan fyddwn i’n dweud “mae gennych chi gastell go iawn ar y bryn!” Doeddwn i ddim yn gallu mynd heibio i gastell heb syllu.

Yr ochr ymarferol

Pan oeddwn yn gadael yr ysgol cefais fy ngwthio i’r brifysgol a chafodd yr opsiynau eraill ddim eu trafod mewn gwirionedd.

Rydw i wrth fy modd yn dysgu, a wnes i fwynhau fy mhynciau, ond doedd yr amgylchedd academaidd ddim yn taro deuddeg i mi.

Gyda thraethodau, roeddwn weithiau’n ei chael yn anodd gweld beth oedd y pwrpas yn y pen draw, ar wahân i brofi fy mod i’n gallu dadansoddi a thrin gwybodaeth i ateb cwestiwn.

Pan fyddwch chi’n torri darn o garreg ac yn rhoi pren mesur neu ymyl syth arno i’w wirio, gallwch ddweud a oes unrhyw beth y gallech fod wedi’i wneud yn well. Allwch chi ddim ei feirniadu pan mae’r ffeithiau’n dangos fel arall.

“Roedd yn anodd ar y dechrau”

Doeddwn i ddim yn chwilio am brentisiaeth, ond dyna oedd y fformat iawn i mi. Roeddwn i’n adnabod pobl oedd wedi gwneud MA ym maes cadwraeth ond yn dweud eu bod nhw’n brin ar yr ochr ymarferol a dyna roeddwn i wir eisiau canolbwyntio arno.

Roedd y garreg gyntaf i mi ei thorri ar gyfer pen gorllewinol Eglwys Gadeiriol Glasgow. Roedd yn eithaf syml, ond roedd yn gyffrous iawn i weld y broses o’r dechrau, i fod ar y sgaffaldiau, i dorri’r garreg newydd a’i gosod yn yr adeilad.

Roeddwn i’n teimlo’n dda iawn ar ôl ei rhoi yn ei lle. Os ydw i’n gwneud gwaith cynnal a chadw o amgylch yr eglwys gadeiriol nawr, byddaf yn dal i edrych i fyny i weld lle mae’r garreg.

Rydw i wedi bod yn dilyn y brentisiaeth ers 3 blynedd bellach ac mae gen i ychydig mwy o gerrig yn yr eglwys gadeiriol yn ogystal â’n henebion eraill.

Mae’n anhygoel meddwl y gallen nhw fod yno am y 100 mlynedd nesaf a dim ond y gwaith rydw i wedi’i wneud fel prentis yw hynny.

Roedd yn anodd ar y dechrau ac roeddwn i’n teimlo’n eithaf ofnus. Roeddwn i’n cael trafferth gyda’r rhythm i ddechrau – yn dod o gefndir cerflunio rydych chi’n tapio drwy’r amser wrth dorri, ond mewn gwaith maen, rydych chi’n bendant yn taro taro taro

Weithiau, roeddwn i’n cwestiynu fy hun a pham roeddwn i’n ei wneud o gwbl. Mae’n cymryd amser i ddeall sut mae pethau’n gweithio a sut mae bod yn effeithlon, hyd yn oed gyda’r pethau syml.

Braint

Nawr, rwy’n cael cyfrifoldeb am dasgau amrywiol a briffio’r prentisiaid sy’n dod i mewn. Rwy’n gwybod beth fydd y camau nesaf ac yn deall sut i ddatrys problemau. Fyddwn i ddim wedi teimlo mor hyderus â hynny, hyd yn oed flwyddyn yn ôl.

Roeddwn i’n lwcus o gael swydd yma, mae pawb mor wybodus, ac mae fy mentor wedi bod yn torri cerrig ers bron i 30 mlynedd.

Dydi hynny ddim ar gael ym mhobman. Mae’n anhygoel gallu gweithio gyda’r bobl hyn.

Yr hyn sy’n dod i’m mhen bob amser yw, “byddet ti wedi gwirfoddoli i wneud y gwaith yma, i ddysgu’r pethau hyn, a dyma ti’n cael dy dalu i wneud hynny”.

Mae hynny’n fraint, ac allwn i ddim bod wedi gwneud yr hyn rydw i’n ei wneud nawr heb ddilyn prentisiaeth.