Gyrfaoedd y dyfodol ym maes adeiladu
Mae bob amser yn gyffrous meddwl am yr hyn a allai fod yn bosibl yn y dyfodol, a dydi hynny ddim yn wahanol yn y diwydiant adeiladu, yn enwedig gan fod technolegau newydd yn caniatáu prosiectau mwy uchelgeisiol. Yma, rydym yn cael golwg ar rai swyddi posibl yn y diwydiant yn y dyfodol, yn ogystal â’r sgiliau fydd eu hangen ar eu cyfer.
Beth fydd gyrfaoedd adeiladu’r dyfodol?
Mae pobl yn aml yn meddwl fod y diwydiant adeiladu ond yn ymwneud â gwaith llaw, ond rhan o’r stori yn unig yw hynny. Mae swyddi fel pensaer, dylunydd, peiriannydd a thechnegydd BIM i gyd yn rhan o’r diwydiant hefyd, felly mae’r dyfodol yn llawn posibiliadau.
Bydd angen timau gyda sgiliau technegol a chreadigol ar gyfer prosiectau mwy, sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd, gan y bydd y diwydiant adeiladu’n debygol o barhau i weithio tuag at fod yn fwy gwyrdd, ac efallai y bydd rôl technoleg yn golygu bod angen swyddi newydd sbon nad ydynt hyd yn oed yn bodoli eto!
Y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi adeiladu’r dyfodol
Fel y sylwom wrth holi sut y mae’r maes adeiladu'n addasu ar gyfer y dyfodol, mae’r diwydiant adeiladu yn wynebu mwy o alw am brosiectau cynaliadwy a thechnolegol ddatblygedig, felly mae angen y sgiliau cywir ar ei weithlu. Mae’r rhan fwyaf yn y byd digidol. Os rhoddoch chi gynnig ar y cwis, a’i fod wedi darganfod bod gennych bersonoliaeth ‘dechnolegol’, gallai’r rolau hyn fod yn addas i chi yn sicr.
Sgiliau digidol
Mae angen sgiliau digidol ar gyfer modelu 3D, VR, ac AR (realiti rhithwir a realiti estynedig) O ddefnyddio meddalwedd a rhaglenni cyfrifiadurol i offer newydd, bydd deall y byd digidol yn allweddol i weithio mewn rhai meysydd adeiladu yn y dyfodol. Mae sgiliau digidol yn cynnwys rhaglenni a rheoli rhwydweithiau gwybodaeth cyfan hefyd, heb sôn am y gallu i gyfleu syniad yn ddigidol, yn ogystal â’n gorfforol.
Roboteg
Mae robotiaid yn dal i fod yn newydd i lawer o ddiwydiannau ond o ystyried pa mor gyflym y mae seinyddion clyfar wedi ymdreiddio i’n bywydau, mae’n amlwg y bydd deallusrwydd artiffisial yn rhan enfawr o’n dyfodol. Ym maes adeiladu, gall robotiaid helpu gyda thasgau gwaith llaw, neu brosesu data a dyluniadau i helpu cynllunio a datblygu prosiect. Gallai gweithio gyda’r dechnoleg y tu ôl i roboteg arwain at lawer o gyfleoedd.
Seiberddiogelwch
Mae bod yn ddiogel ar-lein yn bwysig mewn unrhyw ddiwydiant. Gallai data prosiect adeiladu gynnwys glasbrintiau ar gyfer adeiladau’r llywodraeth, neu godau diogelwch ar gyfer ardaloedd mewn adeilad lle mae gwybodaeth sensitif yn cael ei chadw. Os yw prosiect adeiladu yn ymwneud â’r sector iechyd, gallai beryglu data meddygol miloedd o bobl. Mae sgiliau seiberddiogelwch fel sefydlu a chynnal rhwydweithiau a systemau sy’n gwarchod adeiladau a seilwaith yn hanfodol i’r diwydiant.
Rolau a allai ddod yn gyffredin ym maes adeiladu
Er na allwn ni ragweld y dyfodol, dyma rai rolau sy’n debygol o ddod yn fwy cyffredin yn y dyfodol ym maes adeiladu.
Rheolwr gwybodaeth
Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) yn amcangyfrif bod economi ddigidol y DU werth dros £200 biliwn, sy’n golygu bod rolau yn y maes digidol yn debygol o barhau i dyfu a newid. Yn y bôn, bydd rheolwr gwybodaeth yn sicrhau bod yr holl wybodaeth sy’n ymwneud â phrosiect yn gywir, yn cael ei storio’n ddiogel, ac yn hygyrch i’r bobl iawn ar yr adeg iawn. Bydd hyn yn gwneud i brosiectau redeg yn llyfn, sydd hefyd yn fwy effeithlon.
Rheolwr adnoddau Robotiaid
Gall robotiaid gyfrannu tuag at argraffu a modelu 3D, cynhyrchu ar linellau cydosod, a chael eu defnyddio i wneud rolau gwaith llaw yn fwy diogel. Y diwydiant adeiladu yw un o’r sectorau mwyaf peryglus i weithio ynddo, felly gall robotiaid helpu i leihau’r perygl, a lleihau damweiniau. Fodd bynnag, bydd swyddi’n cael eu creu i helpu i ganfod a rheoli’r robotiaid. Gall hyd yn oed robotiaid wneud camgymeriadau, felly bydd angen elfen ddynol o sicrhau ansawdd a rheoli eu heffeithlonrwydd bob amser.
Ymgynghorydd seiberddiogelwch
Wrth i fwy o wybodaeth am brosiectau a chynhyrchion adeiladu fynd ar-lein, bydd y diwydiant yn wynebu brwydr barhaus yn erbyn hacwyr neu droseddwyr seiber. Bydd arbenigwyr diogelwch ar gyfer rhaglenni a meddalwedd digidol yn hanfodol. Bydd ymgynghorydd seiberddiogelwch hefyd yn ymwneud â’r ddeddfwriaeth ynghylch seiberddiogelwch, yn debyg iawn i reolau a rheoliadau GDPR.
Pensaer deallusrwydd artiffisial
Wrth i’r diwydiant adeiladu ganolbwyntio mwy ar y byd digidol, bydd angen i elfen ddylunio prosiect adlewyrchu hynny hefyd. Mae’n bosib y bydd penseiri deallusrwydd artiffisial yn dylunio mewn amser real neu hyd yn oed yn delweddu eu gwaith gyda phenset realiti rhithwir. Efallai y byddan nhw hyd yn oed yn gweithio ochr yn ochr â roboteg ar y safle er mwyn i’w dyluniadau ddod yn fyw.
Technegydd cydosod gwaith adeiladu
Mae technegydd cydosod gwaith adeiladu yn dehongli’r holl luniadau, manylebau a gwybodaeth arall am brosiect ac yn eu defnyddio i gydosod elfennau o’r prosiect, weithiau oddi ar y safle. Byddant yn defnyddio rhaglenni a meddalwedd unigryw i wneud yn siŵr bod popeth yn cael ei adeiladu gan gadw at y fanyleb, y gyllideb, ac yn brydlon.
Gweithredwyr dronau adeiladu
Mae dronau yn dod yn fwy cyffredin ar safleoedd adeiladu i roi trosolwg o agweddau ar y gwaith adeiladu, gan dynnu lluniau a fideos o ansawdd uchel sy’n gallu helpu i ddatblygu’r prosiect neu ddarparu gwybodaeth i gleientiaid. Bydd yn rhaid i bob gweithredwr dronau sicrhau bod y dronau’n gweithio’n iawn ac yn ddiogel bob amser.
Rhagor o wybodaeth am sut mae’r maes adeiladu’n addasu ar gyfer y dyfodol
O’r cynnydd mewn deunyddiau eco-gyfeillgar, i weithio gyda realiti estynedig, mae’r diwydiant adeiladu yn addasu ac arloesi drwy’r amser.
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o ddyfodol cyffrous y maes adeiladu, rydyn ni yma i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r rôl iawn i chi, porwch drwy’r cyfan yma er mwyn dysgu mwy.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ni ar Facebook, Twitter, Instagram, ac YouTube.