Gyrfaoedd Adeiladu Gwyrdd: Sam Hurst
Fel rhan o'n cyfres i ddathlu Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd, buom yn siarad â Sam Hurst, Peiriannydd Cynaliadwyedd â blynyddoedd lawer o brofiad. Fel peiriannydd sifil siartredig, mae wedi gweithio ar ystod o brosiectau amrywiol, o safleoedd niwclear i bontydd, mewn gwledydd amrywiol o Dubai i Awstralia. Mae Sam hefyd yn Llysgennad STEM Am Adeiladu, sy’n angerddol am gynaliadwyedd ac addysgu pobl ifanc am yr hyn y gallant ei wneud i adeiladu byd gwell.
Dywedwch wrthym am brosiect adeiladu gwyrdd sy'n gwneud gwahaniaeth
Sam: “Yng Nghernyw, mae prosiectau cyffrous yn digwydd ar hyd ffordd yr A30. Nod y prosiectau hyn yn gwneud yr ardal yn well i bawb. Mae un rhan o’r gwaith yn ymwneud â gwella diogelwch a helpu pobl yn y gymuned i ddefnyddio beiciau’n haws. Nod pwysig arall yw gwneud natur a’r amgylchedd o amgylch y ffordd yn iachach ac yn fwy prydferth. Maen nhw wedi creu rhywbeth o’r enw ‘asennau gwyrdd’, sydd yn llwybrau natur yn ymestyn o’r ffordd.
Mae’r llwybrau hyn yn cysylltu gwahanol ardaloedd naturiol ac yn ei gwneud hi’n haws i anifeiliaid a phlanhigion symud yn ddiogel. Mae’r prosiect hefyd yn ymwneud â phlannu coed, creu dolydd, adfer pyllau, a gwneud cloddiau’n well. Mae rhai sefydliadau arbennig yn helpu drwy adfer coetiroedd a glaswelltiroedd, gwneud cartrefi i anifeiliaid a gwella’r amgylchedd. Mae’r holl waith hwn yn helpu’r bywyd gwyllt, yr amgylchedd, a’r bobl sy’n byw gerllaw.”
Sut mae'r agwedd at gynaliadwyedd mewn adeiladu wedi esblygu?
Sam: “Dros y blynyddoedd, mae’r ffordd rydyn ni’n meddwl am greu adeiladau a strwythurau wedi newid llawer i helpu ein planed. Ar y dechrau, roedd pobl yn canolbwyntio’n bennaf ar ddilyn rheolau a lleihau newid uniongyrchol i’r amgylchedd. Ond wrth i ni ddysgu mwy am newid hinsawdd a sut mae’n niweidio ein byd, dechreuodd arbenigwyr adeiladu edrych ar y darlun ehangach.
Nawr, pan fyddwn yn sôn am gynaliadwyedd, rydym yn golygu llawer o bethau, fel defnyddio ynni’n ddoeth, defnyddio deunyddiau nad ydynt yn niweidio natur, gwneud llai o wastraff, a bod yn garedig i gymunedau. Y dyddiau hyn, pan fyddwn yn adeiladu rhywbeth, rydym yn meddwl sut y bydd yn effeithio ar yr amgylchedd a phobl ar bob cam, o gynllunio i’w dymchwel. Hefyd, mae dyfeisiadau clyfar fel deunyddiau ecogyfeillgar a dulliau adeiladu newydd yn ein helpu i adeiladu strwythurau mawr wrth fod yn garedig i’r Ddaear.”
Pa dueddiadau adeiladu gwyrdd ydych chi'n rhagweld fydd yn dod yn boblogaidd yn y blynyddoedd i ddod?
Sam: “Yn y dyfodol, bydd peirianwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth wneud penderfyniadau sydd o fudd i’r boblogaeth ddynol. Mae hyn yn golygu y bydd angen iddynt ddeall nid yn unig sut y caiff pethau eu hadeiladu ond hefyd sut maent yn effeithio ar natur. Nid yw cynaliadwyedd yn ymwneud â rheoli carbon yn unig; mae’n ymwneud â sicrhau bod ein planed yn aros yn iach i ni a phob peth byw. Ar hyn o bryd, mae pobl yn meddwl yn bennaf am leihau allyriadau carbon, ond mae’r un mor bwysig meddwl am ddiogeli sawl fath o blanhigyn ac anifail, yr hwn yr ydym yn ei alw’n fioamrywiaeth.
Mae bioamrywiaeth yn hanfodol oherwydd ei fod yn rhoi bwyd a meddyginiaeth i ni, yn helpu i reoli’r tywydd, a hyd yn oed yn atal llifogydd pan fydd anifeiliaid fel afancod yn adeiladu argaeau. Yn y DU, mae rheolau newydd yn dod yn fuan sy’n dweud pan fydd y gwaith adeiladu’n digwydd, mae’n rhaid gadael y safle mewn cyflwr gwell nag o’r blaen. Mae’r newid hwn yn golygu y bydd peirianwyr yn ymuno â gwyddonwyr sy’n astudio byd natur (ecolegwyr) i sicrhau bod ein prosiectau adeiladu yn dda i bobl a’r amgylchedd.”
Wedi'ch ysbrydoli? Canfyddwch fwy am gynaliadwyedd mewn adeiladu a gyrfaoedd adeiladu gwyrdd heddiw…
Os ydych chi eisiau dysgu mwy am gynaliadwyedd mewn adeiladu neu ganfod y gwahanol yrfaoedd adeiladu gwyrdd, cysylltwch ag Am Adeiladu.