Greenheart: Sut gall y maes adeiladu fod yn fwy gwyrdd
Greenheart yw un o brif ddylunwyr ac adeiladwyr cartrefi cynaliadwy'r DU.
Ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd, gofynnom iddyn nhw sut y gall y maes adeiladu goleddu dyfodol gwirioneddol gynaliadwy.
Mae’r bobl sy’n gyfrifol am Greenheart, cwmni o Fryste sy’n arbenigo mewn cartrefi cynaliadwy, yn griw amrywiol, ond maen nhw’n rhannu’r un weledigaeth.
Maen nhw’n dweud bod Greenheart yn rhan o rywbeth llawer mwy na’ch diwrnod 9 tan 5 arferol. Mae’n tynnu ynghyd syniadau cydweithwyr sy’n rhannu’r nod cyffredin o drawsnewid safonau yn y diwydiant adeiladu er mwyn sicrhau dyfodol gwell i bawb.
“Adeiladwyr yw pob un ohonom yn bennaf,” meddai Tom Morris, rheolwr safle ac uwch saer coed gyda Greenheart. “Nid arian sy’n ein hysgogi, ac nid oes yr un ohonom yn dod o gefndir busnes. Rydyn ni’n ceisio gwneud rhywbeth cadarnhaol.”
Cynaliadwyedd wrth galon adeiladu
“Mae cynaliadwyedd wrth galon popeth rydym yn ei wneud,” meddai Henry Duncan, cyfarwyddwr a rheolwr dylunio yn y cwmni.
“Mae i’w weld yn y ffordd rydyn ni’n dylunio ein cartrefi, y deunyddiau rydyn ni’n eu dewis, a’r ffordd rydyn ni’n adeiladu. Dyma pam rydyn ni bob amser yn chwilio am syniadau newydd i fod yn well fyth, er mwyn gwneud ein hadeiladau’n fwy effeithlon gan ddefnyddio llai o adnoddau.
“Ac yr un mor bwysig, mae i’w weld yn y ffordd rydym yn trin pobl, ein gilydd, ein cleientiaid, hyd yn oed ein cystadleuwyr. Mae’n ymwneud â bod yn rhan werthfawr o’r gymuned.”
Amser glanhau
Nid oes angen llosgi unrhyw danwydd ffosil i wresogi cartref sydd wedi’i adeiladu’n dda.
Mae’r argyfwng hinsawdd yn her i’r diwydiant adeiladu.
Yn fyd-eang, mae adeiladu yn llygrydd mawr. Mae’n gyfrifol am hyd at 40% o allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynhyrchiant gwastraff solid. Mae’n defnyddio hyd at 40% o gyfanswm ynni a 30% o ddeunyddiau crai’r blaned. Ond does dim rhaid i bethau fod fel hyn.
“O gael ei ddylunio’n dda, gall cartref aerglos sydd wedi’i inswleiddio’n dda fod yn rhyfeddol o effeithlon, a dim ond ychydig iawn o ynni sydd ei angen ar gyfer gwres a golau, a allai gael ei gynhyrchu’n lân ac yn ddomestig drwy ynni’r haul neu bympiau gwres ffynhonnell aer,” meddai Henry.
“Rydyn ni’n aml yn defnyddio systemau Awyru ac Adfer Gwres Mecanyddol (MVRR) hefyd. Maen nhw’n trosglwyddo’r gwres o hen aer cynnes y tu mewn i gartref i’r aer ffres sy’n cael ei dynnu i mewn i adeilad. Mae cymaint ag 80% o’r gwres yn cael ei arbed. Nid oes angen llosgi unrhyw danwydd ffosil i wresogi cartref sydd wedi’i adeiladu’n dda.”
Na wastraffer...
Mae’r deunyddiau a ddefnyddir yn hollbwysig hefyd. “Rydyn ni eisiau dal carbon yn strwythur yr adeilad, nid cynhyrchu mwy o garbon a mwy o lygredd,” meddai Alastair Scott, cyfarwyddwr a rheolwr prosiectau Greenheart.
“Mae hyn yn golygu canolbwyntio ar ddeunyddiau naturiol, yn enwedig pren a chynnyrch gwastraff, lle bynnag y gallwn ni.
“Mae coed hŷn yn storio mwy o garbon na choed iau, ond mae llawer o adeiladwyr yn aml yn defnyddio pinwydd sy’n tyfu’n gyflym, sydd â lefel cymharol uchel o garbon.
“Mae’n well gennym ni dorbren, sglodion, ac OSB (bwrdd edefion wedi’u cyfeiriadu), sydd wedi’u gwneud o ddeunyddiau gwastraff. Daw ein deunydd inswleiddio o bapur newydd wedi’i ailgylchu a ffibrau pren.
“Ein nod yw mynd y tu hwnt i fod yn garbon niwtral, a chreu cartrefi sy’n cael gwared ar fwy o garbon nag y maent yn ei gynhyrchu.
“Rydyn ni hefyd yn ystyried cylch oes cyfan adeilad. Dydyn ni ddim am greu problemau fydd yn cael eu gadael i genedlaethau’r dyfodol. Mae cynaliadwyedd yn gofyn am gyfrifoldeb o ddechrau oes adeilad hyd ddiwedd ei oes.”
Lledaenu’r neges
“Efallai eich bod wedi meddwl am y dyluniadau gorau ar gyfer cartref cynaliadwy,” meddai Richard Hatfield, cyfarwyddwr a rheolwr prosiect. “Ond os nad yw eich adeiladwyr yn gweld llygad yn llygad, os nad ydyn nhw’n fodlon defnyddio deunyddiau newydd, neu os nad oes ganddynt y sgiliau i godi adeilad ynni isel, yna nid yw’n mynd i weithio.”
“Felly rydyn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i ledaenu’r neges. Rydym yn gweithio gyda’r Gofrestr Werdd i ddarparu hyfforddiant addas ar gyfer y dyfodol i adeiladwyr. Rydym yn rhannu ein gwybodaeth i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar adeiladwyr lleol i fod yn fwy cynaliadwy.”
Gwneud pethau’n iawn
“Roeddwn i’n osodwr brics ac yn saer maen yn wreiddiol, cyn i mi ymuno â Greenheart” meddai Finn Storhaug, cyfarwyddwr a rheolwr adeiladu. “Gall llawer o wastraff gael ei greu ar safle arferol, yn enwedig wrth ddefnyddio concrit.
“Gallai’r cyfan fod ychydig yn rywsut rywsut. Os nad yw gwaith adeiladu’n digwydd yn ofalus, nid yn unig mae yna wastraff – dydi’r adeilad ddim yn gweithio cystal ag y dylai.
“Mae gwneud pethau i safon uchel yn golygu llai o wastraff ac effeithlonrwydd uwch. Mae angen gwaith o ansawdd uchel i sicrhau cynaliadwyedd.”
Dydyn ni ddim yn cadw cyfrinach ynghylch sut i adeiladu’n gynaliadwy. Po fwyaf sy’n gwybod sut, y gorau.
Tai gwell, cymunedau hapusach
“Mae’r ffaith bod rhai pobl yn dal i ystyried ein gwaith yn arbenigol yn rhwystredig,” meddai Alastair.
“Dydy perfformiad llawer o gartrefi newydd sy’n cael eu hadeiladu yn y DU ddim yn dda, ac nid ydynt yn addas ar gyfer economi di-garbon.
“Mae’n golygu mai’r rhai lleiaf cefnog fydd â’r biliau mwyaf i’w talu oherwydd adeiladwaith ac ansawdd gwael eu cartrefi.”
Amser gwych i ddechrau arni yn y maes adeiladu
“Rydyn ni ar drothwy newid enfawr yn y diwydiant,” meddai Richard.
“Mae pobl yn dod yn fwy ymwybodol o’r hyn sy’n bosibl. Maen nhw am gael adeiladau gwell, mwy gwyrdd a mwy cynaliadwy.
“Rydyn ni’n cael ymholiadau bob wythnos i adeiladu cartrefi newydd. Fel cwmni bach rhanbarthol, rydyn ni’n adeiladu rhwng 4 a 5 cartref newydd y flwyddyn ar hyn o bryd, felly mae’n amlwg bod lle i ehangu.
“Mae llawer o bobl eisiau adeiladwyr da sy’n gallu codi ein math ni o adeiladau. Mae’r galw yno; y cyfan sydd ei angen arnom yw adeiladwyr sydd â’r sgiliau a’r wybodaeth iawn. Dyna pam ein bod yn ceisio lledaenu ein gwybodaeth.
“Mae hefyd angen mwy o gwmnïau ar y DU sy’n gwneud cynnyrch ar gyfer adeiladau cynaliadwy. Rydyn ni ar ei hôl hi ar hyn mewn cymhariaeth â gwledydd eraill, ac mae’n ddrud mewnforio pethau o dramor. Mae bwlch ar gyfer cynnyrch cartref – ac mae hefyd yn fwy cynaliadwy i ddefnyddio cynnyrch lleol.”
Rydyn ni’n hyrwyddo technegau a deunyddiau cynaliadwy, oherwydd bod angen tai o ansawdd da ar y DU, ac mae angen adeiladu cynaliadwy ar yr amgylchedd.
Ewch ati i adeiladu’n gynaliadwy!
Mae’n amlwg yn gyfnod cyffrous i’r genhedlaeth nesaf fynd â chynaliadwyedd yn y diwydiant adeiladu i’r lefel nesaf.
“Dangoswch ddiddordeb, byddwch yn frwdfrydig, ac ymfalchïwch ym mha bynnag grefft rydych yn ei gwneud” meddai Henry, ac mae Richard yn ychwanegu, “Dangoswch flaengarwch ac awch, ac fe ewch chi’n bell!”
“Roeddwn i’n labrwr am ychydig, yna dechreuais gaffi, a oedd yn heriol i mi redeg ar fy mhen fy hun,” meddai Tom. “Dychwelais at adeiladu a datblygu amrywiaeth o sgiliau, gan gynnwys gwaith coed a sgiliau trydanol.
“Roedd hi’n wych ymuno â Greenheart, i fod gyda phobl o’r un anian, sy’n rhannu’r un gwerthoedd. Rydyn ni’n gofalu am ein gilydd ac yn helpu ein gilydd i gyflawni nodau cyffredin.
“Mae pob un ohonom wrth ein bodd â’r hyn rydyn ni’n ei wneud ac rydyn ni eisiau ei wneud cystal ag y gallwn ni. Rydyn ni’n trosglwyddo’r hapusrwydd hwnnw i bawb rydyn ni’n gweithio gyda nhw ac ar eu rhan!”
Beth am weld a allwch chi hefyd ledaenu rhywfaint o hapusrwydd yn y maes adeiladu?
Llun gan: Aaron Davies
Allech chi weithio ym maes adeiladu?
Gyda chymaint o yrfaoedd a chyfleoedd ym maes adeiladu, mae rhywbeth i bawb. Darganfyddwch beth allai weithio i chi.