Ffeithiau Hwyl: Yr adeilad gwyrddaf yn y byd
Mae adeiladu a’r amgylchedd adeiledig yn cyfrif am tua 40% o allyriadau CO2 y byd – mae hyn yn cynnwys adeiladu adeiladau a seilwaith, yn ogystal â’r ynni a ddefnyddir i’w pweru.
Wrth i’r byd ymateb i newid hinsawdd â thargedau llym ar leihau allyriadau carbon, mae adeiladu mwy cynaliadwy wedi dod yn flaenoriaeth. Un o’r ffyrdd gorau o gyflawni hyn yw adeiladu mwy o adeiladau gwyrdd.
Beth yw 'adeilad gwyrdd'?
Adeilad gwyrdd yw adeilad sydd, yn ei ddyluniad, gweithrediad neu ei adeiladwaith, yn lleihau neu’n dileu effeithiau negyddol – ac yn gallu creu effeithiau cadarnhaol – ar ein hinsawdd a’n amgylchedd naturiol ac yn gwella ansawdd ein bywyd yn gyffredinol.
Yn syml, adeiladu gwyrdd neu bensaernïaeth gynaliadwy yw creu a defnyddio adeiladau i fod mor gyfeillgar i’r amgylchedd naturiol â phosibl. Mae hyn yn cynnwys defnyddio deunyddiau adeiladu naturiol, gwydn, wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio dulliau adeiladu cynaliadwy. Mae adeiladu gwyrdd yn dod â manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol enfawr.
Dysgwch fwy am sut mae'r diwydiant adeiladu yn mynd yn wyrdd.
Beth sy'n gwneud adeilad 'y gwyrddaf'?
Mae’n anodd dweud pa adeilad sy’n wyrddach nag unrhyw adeilad arall, gan fod cymaint o ffactorau i’w hystyried – effaith ei adeiladu ar yr amgylchedd naturiol, y cydbwysedd rhwng yr allyriadau gweithredol y mae’n eu cynhyrchu â’r adnoddau y mae’n eu harbed ac yn eu rhoi yn ôl. Gall fod yn anodd asesu rhinweddau gwyrdd adeilad newydd neu adeilad sydd wedi cael addasiadau cynaliadwy yn ddiweddar. Gall manylebau adeilad edrych yn drawiadol, ond dylid eu mesur yn erbyn data caled gweithrediad yr adeilad o ddydd i ddydd. Mae cynlluniau ardystio fel BREEAM yn uchel eu parch, fodd bynnag, ac yn rhoi arwydd da iawn o rinweddau cynaliadwy adeilad.
The Edge, Amsterdam, yr Iseldiroedd
Mae The Edge yn Amsterdam yn aml yn cael ei ystyried yn adeilad swyddfa gwyrddaf y byd. Yn cael ei hadnabod ar lafar fel ‘cyfrifiadur â tho’, mae swyddfa Deloitte ym mhrifddinas yr Iseldiroedd yn eithriadol o glyfar a gwyrdd. Cesglir symiau helaeth o ddata i fonitro holl systemau’r adeilad, gan addasu’n barhaus i leihau ei ôl troed carbon.
Mae’r adeilad 430,000 troedfedd sgwâr yn defnyddio 70% yn llai o ynni nag adeilad swyddfa tebyg. Wedi’i agor yn 2014, mae’r adeilad nid yn unig yn sero net, ond yn ynni net positif, sy’n golygu ei fod yn cynhyrchu mwy o drydan nag y mae’n ei ddefnyddio, â’r ynni ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i bweru’r brifysgol gyfagos.
Dysgwch fwy am adeiladau sero net nodedig arall.
Technoleg werdd
Mae’r Edge wedi’i gyfeirio ar hyd llwybr yr haul i gyflawni mwy o effeithlonrwydd ar gyfer ei 65,000 troedfedd sgwâr o baneli solar sy’n gorchuddio’r to a’r ffasadau.
Mae elfennau gwyrdd eraill yr adeilad yn cynnwys goleuadau LED ynni isel wedi’u pweru gan Ethernet, casglu dŵr glaw ar gyfer dyfrhau ac i fflysio’r toiledau, a system ynni thermol dyfrhaen i gynhesu ac oeri’r adeilad. Mae’r ffynonellau dŵr daearol hyn 130 metr o dan y ddaear, ac yn pwmpio dŵr cynnes neu oer i mewn neu allan o’r adeilad, yn dibynnu ar y tymheredd y tu allan.
Deunyddiau adeiladu cynaliadwy
Un o’r prif ddeunyddiau cynaliadwy a ddefnyddir yn The Edge yw gwydr. Mae 70% o’r ffasâd sy’n wynebu’r gogledd wedi’i wneud o wydr ac mae 45% o ffasâd y de a 40% o ffasâd y dwyrain a’r gorllewin wedi’i wneud ohono. Mae gwydr wedi bod o gwmpas ers miloedd o flynyddoedd – ond mae’n ddeunydd hynod effeithlon o ran adnoddau; mae’n gwbl ailgylchadwy a gellir ei ailgylchu dro ar ôl tro. Mae ffasâd y de hefyd yn cynnwys waliau sy’n cynnal llwythi trymion, sy’n darparu más thermol effeithiol trwy fagu gwres – gan wresogi’r swyddfa yn naturiol.
Fel y rhan fwyaf o adeiladau, roedd angen brics a morter o hyd – ond fel llawer o ddeunyddiau The Edge, cawsant eu cyrchu’n lleol i leihau’r effaith amgylcheddol. Defnyddiodd yr adeilad ddigonedd o bren hefyd drwy gydol ei gylchred adeiladu, ac amcangyfrifir y bydd y deunyddiau a ddefnyddir yn arbed 42 miliwn kg o CO2 mewn deng mlynedd, o gymharu ag adeilad swyddfa safonol.
Mae am chwarae rhan hanfodol yn y diwydiant adeiladu dros yr 20-30 mlynedd nesaf, gan y bydd eu defnydd yn hollbwysig i helpu’r DU i gyrraedd sero net erbyn 2050.
Ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni
Mae The Edge yn cynnwys llawer o enghreifftiau arloesol o ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys:
- Storio ynni thermol – mae dwy ffynnon 129 metr o ddyfnder yn ymestyn i lawr i ddyfrhaen, ganiatáu i ynni thermol gael ei storio o dan y ddaear a’i ddefnyddio pryd bynnag y bydd ei angen
- Ailddefnyddio ynni – mae gormodedd o aer awyru yn cael ei awyru yn ôl allan drwy atriwm yr adeilad, gan basio trwy gyfnewidydd gwres i ailddefnyddio ac ailgynhesu’r aer – gan greu cylch o awyru naturiol.
- Goleuadau clyfar – caiff system golau LED yr adeilad ei monitro gan dros 30,000 o synwyryddion, gan fesur deiliadaeth, symudiad, lefelau goleuo, lleithder a thymheredd, gan addasu’n awtomatig i wneud y defnydd gorau o ynni a’i arbed.
Dyluniad sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt
Mae The Edge yn enghraifft dda o adeilad sy’n annog bywyd gwyllt. Mae’r tirluniad ar y teras sy’n wynebu’r gogledd yn cynnwys tai adar a blychau ystlumod, a thyrau sy’n annog gwenyn a chwilod. Gall adeiladau cynaliadwy wella bioamrywiaeth yn hytrach na’i lleihau, trwy nodweddion fel toeau gwyrdd a waliau byw.
Dyluniad sy'n canolbwyntio ar les
Mae The Edge yn adeilad sy’n gwneud i bobl deimlo’n dawel ei ysbryd, yn gyfforddus ac wedi ymlacio. Mae’n gwneud hyn drwy dechnoleg glyfar a’r ffordd y mae wedi’i ddylunio, gan ymdrochi’r tu mewn â golau naturiol, y profwyd ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl. Gall unrhyw un y tu mewn iddo reoli’r awyru clyfar y tu mewn i’r adeilad trwy ddefnyddio ap, ynghyd â lefelau golau a’r tymheredd. Yng nghanol The Edge mae’r atriwm anferth, sy’n annog rhyngweithio cymdeithasol ac yn lleihau’r teimlad o unigrwydd.
Ardystiaeth a gwobrau
Rhoddodd yr asiantaeth graddio BREEAM sy’n sgorio adeiladau ar sail eu cynaliadwyedd, eu hail sgôr uchaf erioed i The Edge: 98.4%. Derbyniodd y penseiri, PLP, gydnabyddiaeth eang i The Edge – roedd ar restr fer nifer o wobrau ac enillodd Wobrau Rhagoriaeth Byd-eang y Sefydliad Tir Trefol yn 2016.
Ydy'r adeilad gwyrddaf yn adeilad sy'n bodoli?
Er y gall The Edge honni mai hwn yw adeilad newydd gwyrddaf y byd, mae’r adeilad gwyrddaf mewn gwirionedd yn un sydd eisoes yn sefyll ac sydd wedi bod ers blynyddoedd. Oherwydd bod cymaint o ôl troed carbon adeilad yn cael ei gynhyrchu yn ystod ei adeiladu, dylai addasu adeilad i fod yn wyrddach fod yn ateb mwy cynaliadwy na’i ddymchwel ac adeiladu o’r newydd – ta waeth mor gynaliadwy y caiff yr un newydd ei adeiladu. Dyna’r her sy’n wynebu’r diwydiant adeiladu, oherwydd mae 80% o’r adeiladau y bydd eu hangen erbyn 2050 eisoes yn bodoli.
Dywedodd adroddiad yn 2016 gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Unol Daleithiau dros Gadwraeth Hanesyddol mai ‘ailddefnyddio adeilad presennol a’i uwchraddio i fod mor effeithlon â phosibl yw’r dewis gorau bron bob amser, waeth beth fo’r math o adeilad a’r hinsawdd’. Dyma’r ffurf eithaf o ailgylchu!
Beth yw dyfodol adeiladau gwyrdd?
Mae adeiladu gwyrdd wedi dod yn bell, ond mae mwy i’w wneud.
Mae effeithlonrwydd ynni mewn adeiladu wedi ennill llawer o sylw yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd cyfran sylweddol adeiladau o ddefnydd ynni byd-eang. Mae costau gostyngol, ynghyd â chymorth y llywodraeth a’r angen i gyrraedd targedau sero net, yn ogystal â pherchnogion a defnyddwyr adeiladau sy’n fwy ymwybodol o’r amgylchedd, yn helpu i ysgogi newid.
Mae mabwysiadu technolegau mwy effeithlon megis pympiau gwres, systemau awyru gwell a chymwysiadau adeiladu clyfar yn ysgogi mwy a mwy o adeiladu gwyrdd. Mae’r technolegau hyn yn hanfodol ar gyfer datgarboneiddio adeiladau ac i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae mentrau fel Ysgol Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi yn annog adeiladwyr i roi cynaliadwyedd wrth galon eu prosiectau.
Mae The Edge yn enghraifft arloesol o’r hyn y gall adeiladau gwyrdd ei gyflawni – yn glyfar, yn effeithlon ac yn dda i’r amgylchedd.
Dyma ddyfodol y diwydiant adeiladu.
Eisiau canfod mwy am yrfaoedd cynaliadwy mewn adeiladu?
Gan fod gan y diwydiant adeiladu ffocws mor glir ar adeiladu gwyrdd, mae cyfleoedd gwych ar gael ar gyfer gyrfaoedd adeiladu cynaliadwy. Yn Am Adeiladu mae gennym dros 170 o broffiliau swyddi gwahanol, gan gynnwys llawer o rolau mewn cynaliadwyedd:
Dim ond rhai yn unig yw’r rhain- mae yna hefyd . Dyma ein o yrfaoedd adeiladu gwyrdd.