Ffeithiau adeiladu am adeiladau enwog
Mae prosiectau adeiladu cyffrous yn digwydd drwy’r amser, ym mhob cwr o’r byd, ac rydyn ni ar fin edrych ar rai o’r adeiladau mwyaf diddorol ac enwog ledled y byd. O gadeirlannau a mosgiau, i adeiladau seneddol a thyrau swyddfa, mae amrywiaeth eang o siapiau a meintiau yn perthyn i adeiladau! Darllenwch ymlaen i gael gwybod am yr adeiladau anhygoel hyn yn ogystal â’r penseiri.
TŴR TAIPEI 101, TAIPEI, TAIWAN
Mae Taipei 101 yn nendwr ôl-fodernaidd a ddyluniwyd gan C.Y Lee a C.P Wang yn Xinyi, Taipei, Taiwan. Hyd at 2004, hwn oedd yr adeilad talaf yn y byd, tan 2010, pan gwblhawyd y Burj Khalifa yn Dubai. Mae’r tŵr yn adnabyddus am ei estheteg bensaernïol unigryw – sydd wedi’i hysbrydoli gan bagodâu a choesynnau bambŵ – yn ogystal â’r bêl enfawr o ddur sy’n hongian rhwng y 92ain llawr a’r 87fed llawr. Mae’r pendil 660 tunnell yn edrych fel rhywbeth allan o ffilm ffugwyddonol, ond nid edrych yn ddel yw ei unig bwrpas. Pan fydd yr adeilad yn dioddef tywydd eithafol, fel teiffwnau, mae’r pendil yn dechrau gweithredu, gan siglo i glustogi symudiad y tŵr. Ffaith ddifyr - ym mis Awst 2015, ysgubodd Teiffŵn Soudelor ar draws Taiwan ar 170 km yr awr, ond ni wnaeth beri unrhyw ddifrod i dŵr Taipei 101.
PRIF FOSG SHEIKH ZAYED, ABU DABI, UEA
Mae’r mosg hwn yn ffenomen weledol, ac fe’i hadeiladwyd ar ddwy adeg wahanol rhwng 1996 a 2007. Mae’n un o’r mosgiau mwyaf yn y byd, ac mae’n ymestyn dros ardal sy'n cyfateb i bum cae pêl-droed. Yn 2017, roedd cyfranwyr Tripadvisor wedi ei ddewis fel yr 2il dirnod gorau yn y byd. Dechreuodd gwaith adeiladu’r mosg yn ystod llywyddiaeth y diweddar HH Sheikh Zayed bin Sultan Al Nahyan, a oedd yn rhagweld y byddai’r adeilad hwn yn cynrychioli’r undeb rhwng amrywiaeth ddiwylliannol, a gwerthoedd hanesyddol a modern pensaernïaeth a chelf y byd Islamaidd. Roedd tair mil o weithwyr a 38 o gwmnïau is-gontractio wedi cyfrannu at y gwaith o godi’r adeilad hwn. Mae ganddo 82 o gromenni, dros 1000 o golofnau, siandelïers aur, a’i garped o waith llaw yw’r mwyaf yn y byd, a gymerodd ddwy flynedd i 1200 o ferched ei gwblhau.
CADEIRLAN SANTA MARIA DEL FIORE, FLORENCE, YR EIDAL
Filippo Brunelleschi aeth ati ei hun i greu un o’r cromennau mwyaf enwog ym mhensaernïaeth y Dadeni yn Florence, gan chwyldroi’r diwydiant adeiladu yn y broses. Erbyn cyfnod Brunelleschi, roedd gwaith ar y gadeirlan wedi dechrau, a pharhaodd am fwy na 100 mlynedd. Dechreuodd y gwaith adeiladu yn 1296 yn unol â dyluniad Arnolfo di Cambio a chafodd ei gwblhau’n strwythurol erbyn 1436. Fodd bynnag, ychydig o ystyriaeth a roddwyd i sut y gellid gosod cromen, ar yr hyn ydoedd bryd hynny, yn dwll 42m. Cafodd Brunelleschi ei fagu’n agos at y safle adeiladu ac fel bachgen ifanc gwnaeth addewid i ddarparu cromen i’r gadeirlan. Yn 1420 dechreuodd y gwaith ar y gromen, gan ddefnyddio syniad unigryw Brunelleschi y gwrthododd ei ddatgelu, a pharhaodd y gwaith adeiladu tan 1436, gan ddefnyddio dros 5,000 o frics. Hwn oedd un o brosiectau mwyaf trawiadol y Dadeni a’r gromen wythonglog gyntaf mewn hanes
TŶ’R SENEDD, BUCHAREST, RWMANIA
Wedi’i leoli yn Bucharest, Rwmania, Palas y Senedd, sy'n cael ei adnabod yn eang fel Tŷ’r Bobl, yw’r adeilad trymaf yn y byd, sy’n pwyso 4.10m tunnell, gydag uchder o 84m ac arwynebedd llawr o 365,000m2. Cafodd yr adeilad ei ddylunio a’i oruchwylio gan y pensaer Anca Petrescu, gyda thîm o tua 700 o benseiri, a’i adeiladu dros 13 blynedd, rhwng 1984 a 1997, mewn arddull realaeth sosialaidd. Mae digon o straeon a mythau yn gysylltiedig â’r adeilad hwn a’r broses o’i adeiladu, fel ystafelloedd cudd, twneli cudd neu hyd yn oed gweithwyr ar y safle yn diflannu dan amgylchiadau rhyfedd. Fodd bynnag, er mwyn gwneud lle i strwythur ‘pharaonig’ o’r fath, fel y'i gelwir gan rai ffynonellau, roedd yn rhaid dymchwel ardal gyfan. Roedd ardal Wranws yn lleoliad yr Archifau Cenedlaethol, mynachlog, ysbyty a 37 o ffatrïoedd a gweithdai yn flaenorol. Yn ystod y gwaith adeiladu, bu rhwng 20,000 a 100,000 o bobl yn gweithio ar y safle a’r prosiect, gan gynnwys 5,000 o filwyr a nifer fawr o wirfoddolwyr. Mae gan Balas y Senedd wyth lefel o dan y ddaear, gyda byncer niwclear ar y lefel olaf. Mae wedi’i gysylltu â phrif sefydliadau’r ardal gyda 20km o gatacwmau.
CANOLFAN POMPIDOU, PARIS, FFRAINC
Mae ei chymeriad arloesol a chwyldroadol yn gosod Canolfan Pompidou fel un o adeiladau mwyaf cynrychioliadol yr 20fed ganrif, ac yn un sydd wedi etifeddu iwtopiâu pensaernïol y 60au. Fe’i dyluniwyd gan Renzo Piano a Richard Rogers, a’r ‘tegan trefol mawr’ hwn fel y’i disgrifiwyd gan Piano yw’r amgueddfa fwyaf ar gyfer celf fodern yn Ewrop. Mae ei uwchstrwythur agored wedi’i adeiladu gyda mwy na 16,000 tunnell o ddarnau dur parod.
Mae ffasadau’r ganolfan wedi’u gorchuddio â gwasanaethau adeiladu â chod lliw: melyn ar gyfer trydan, glas ar gyfer aerdymheru, gwyrdd ar gyfer pibellau dŵr, ac uchafbwyntiau coch yn amlygu grisiau symudol tiwbaidd a lifftiau ar gyfer symud pobl o gwmpas y ganolfan. Roedd newydd-deb y dyluniad hwn yn golygu bod modd aildrefnu’r gofodau mewnol yn hawdd, gan roi rhyddid mynegiant a lefelau addasu uchel. Fodd bynnag, ers i’r ganolfan ailagor yn 2000, ar ôl iddi gael ei hailwampio dros gyfnod o ddwy flynedd, does dim modd defnyddio’r grisiau symudol, sydd, yn anffodus, yn difetha eu prif rôl o ran gwneud y strwythur yn debyg i theatr a’i gysylltu â bywyd y ddinas.