Ein canllaw i daro’r nod gyda’ch cais, eich cyfweliad a’ch swydd!
20 Rhagfyr 2016
Mae llawer i'w ystyried wrth wneud cais am swydd newydd.
Yn gyntaf oll, rhaid i chi feddwl pa fath o swydd rydych am geisio amdani, yna gwneud y cais, cael cyfweliad a bod mor wych yn y cyfweliad fel eu bod yn rhoi'r swydd i chi!
Ac mae hynny i gyd yn digwydd cyn i chi ddechrau yn y swydd hyd yn oed. Felly dyma 20 o gynghorion i’ch helpu i gael y swydd ddelfrydol honno.
- Dewch o hyd i gymaint o wybodaeth ag y gallwch chi am y swydd rydych chi’n chwilio amdani – dysgwch beth sydd ei angen ar gyfer y rôl o ran cymwysterau a sgiliau, gan y bydd hyn yn bwysig i’r cyflogwr. Gallwch ddefnyddio ein rhestr A – Y o yrfaoedd, sy’n nodi’r holl hyfforddiant a chymwysterau fydd eu hagen arnoch chi, a chyfrifoldebau’r rôl.
- Nodwch yr holl bethau perthnasol rydych wedi’u gwneud, neu’r pethau y gallwch eu cynnwys yn eich cais – bydd ysgrifennu hyn yn rhywle yn eich helpu pan fyddwch yn ysgrifennu eich CV, gan y gallwch osod y drefn ac ychwanegu unrhyw fanylion a allai fod yn berthnasol.
- Dewiswch y templed CV cywir i chi – ni ddylai fod dros ben llestri, na gyda rhyw ffont gwallgof. Dyma’r argraff gyntaf y bydd eich cyflogwyr yn ei chael ohonoch chi a’r hyn y gallwch chi ei gynnig iddyn nhw fel cwmni, felly mae’n bwysig ceisio cyflwyno’r fersiwn gorau ohonoch chi iddyn nhw.
- Gwnewch ymchwil ar y cwmni – os ydych chi’n gwybod rhywfaint o wybodaeth berthnasol am y cwmni, fel prosiectau blaenorol neu rai sydd ar y gweill, gallwch grybwyll hyn ac wedyn cyfeirio at eich diddordeb chi yn y gwaith penodol hwnnw, neu sut y gallai eich sgiliau penodol chi fod o fudd iddyn nhw.
- Gwnewch yn siŵr bod strwythur i’ch CV – mae llawer o wefannau a gwasanaethau sy’n gallu eich helpu i lunio CVs, ond mae’n bwysig cofio bod angen i chi fod yn glir ac yn drefnus gyda pha wybodaeth rydych chi’n ei rhoi. Os ydych chi’n dechrau arni, nodwch eich addysg a thynnu sylw at y pynciau sy’n berthnasol i’r rôl honno, yna gallwch nodi eich sgiliau a’ch profiad perthnasol, ac yna eich diddordebau.
- Meddyliwch am yr hyn sydd ar eich cyfryngau cymdeithasol – mae’n dod yn fwy cyffredin i ddarpar gyflogwyr edrych ar eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol i weld sut berson ydych chi go iawn. Felly mae angen i chi ystyried yn ofalus pa fath o bethau y gallai pobl eu gweld.
- Sefydlwch rai cyfrifon cyfryngau cymdeithasol proffesiynol – Mae llwyfannau fel LinkedIn a Twitter yn wych ar gyfer hyn, oherwydd gallwch feithrin rhwydweithiau a pherthnasoedd â phobl mewn rolau tebyg, neu rolau yr hoffech eu cael, a byddan nhw’n gallu cynnig cyngor, arweiniad, a phwy a ŵyr, cyfle am swydd hyd yn oed!
- Cael rhywfaint o brofiad – os nad ydych chi wedi cael unrhyw brofiad gwaith eto, dydy hi byth yn rhy hwyr i ddechrau! Mae ymweld ag un o’r safleoedd sydd ar gael drwy Drysau Agored yn ffordd wych arall o weld drosoch eich hun sut beth yw adeiladu.
- Gwiriwch bopeth! Does dim y fath beth a gwirio gormod ar eich CV, eich llythyr eglurhaol a’ch cais – gwnewch yn siŵr nad oes camgymeriadau sillafu a bod y gramadeg yn gwneud synnwyr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Help i wneud cais, a gofynnwch i rywun arall edrych arno hefyd; i wneud yn siŵr eich bod wedi cynnwys popeth sydd ei angen arnoch.
- Darllenwch y cwestiynau – os oes rhaid i chi lenwi ffurflen gais, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y cwestiynau’n ofalus iawn, gan y bydd y wybodaeth sydd eisoes yn y cwestiwn yn eich helpu i lunio ateb.
- Byddwch yn hyderus ar y ffôn! Yn aml, un o gamau cyntaf proses ymgeisio yw cyfweliad dros y ffôn, gan fod hyn yn helpu cyflogwyr i ostwng nifer y dewisiadau ar gyfer cyfweliadau wyneb yn wyneb. Mae’n bwysig cynllunio’r alwad, gan wneud yn siŵr bod gennych chi’r rhif cywir, a’ch bod wedi ysgrifennu pwyntiau bwled o’r hyn yr hoffech chi ei ddweud. Mae hefyd yn bwysig meddwl ble byddwch chi’n cymryd yr alwad, felly ceisiwch fynd i rywle tawel, lle mae cryfder y signal yn dda – a chofiwch siarad yn glir ac yn hyderus.
- Peidiwch â bod ofn – gall fod yn frawychus siarad â chyflogwr posibl, ond byddwch yn hyderus ac yn gadarnhaol pan fyddwch chi’n siarad â nhw. Mae hefyd yn iawn i ofyn iddyn nhw ailadrodd neu ymhelaethu ar gwestiwn os nad oeddech chi’n ei ddeall. Byddant yn gwerthfawrogi eich gonestrwydd a gall eich helpu i gael mwy o amser i ateb gyda gwybodaeth berthnasol.
- Cynlluniwch eich cyfweliad – os ydych chi wedi cael gwahoddiad i gyfweliad wyneb yn wyneb, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y disgrifiad swydd yn drylwyr eto ac yn meddwl am y math o gwestiynau y gallent eu gofyn i chi, boed nhw’n rhai penodol am eich sgiliau neu pa gryfderau neu wendidau sydd gennych yn eich barn chi.
- Meddyliwch beth i’w wisgo – rydych chi eisiau creu argraff dda pan fyddwch chi’n cwrdd â chyflogwr posibl, felly meddyliwch am beth rydych chi’n mynd i’w wisgo. Gwnewch yn siŵr bod eich dillad yn lân ac yn gyfforddus. Rydych chi eisiau ymddangos yn broffesiynol ond hefyd eisiau gadael i’ch personoliaeth ddisgleirio hefyd. Gallech wneud hynny drwy ddangos ychydig o liw, defnyddio ategolion, drwy eich gwallt a cholur neu hyd yn oed wisgo sanau doniol!
- Gofynnwch am adborth – os cewch wybod nad ydych wedi cael y swydd, gofynnwch am adborth i weld sut gallwch chi wella ar gyfer eich cyfweliad nesaf. A chofiwch ddiolch iddyn nhw am eu hamser. Bydd hyn yn gadael argraff hir a pharhaus ar y cyflogwr a, phwy a ŵyr, gallai hynny fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol.
- Peidiwch â bod yn hwyr! Pan fyddwch chi’n cael y swydd, bydd angen i chi greu argraff gyntaf dda pan fyddwch chi’n dechrau, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cyrraedd ar amser ar eich diwrnod cyntaf, a gadewch ddigon o amser rhag ofn y bydd traffig neu oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus.
- Gofynnwch gwestiynau – rydych chi eisiau dod i adnabod y bobl a’r lle rydych chi’n gweithio, felly gofynnwch ddigon o gwestiynau a fydd yn cael pobl i siarad â chi. Os ydych chi’n dangos diddordeb yn y gwaith mae rhywun yn ei wneud, byddwch chi’n gallu deall mwy am yr hyn maen nhw’n ei wneud a dechrau meithrin perthnasoedd gwaith gwych.
- Gwnewch nodiadau – os oes gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei gwybod, fel unrhyw wybodaeth ddiogelwch neu bethau y mae angen i chi eu llofnodi, gwnewch nodyn o hynny er mwyn cofio’n ddiweddarach.
- Peidiwch â gadael i bethau dynnu eich sylw – mae’n gallu bod yn demtasiwn mawr i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch ffrindiau a’ch teulu drwy gydol y dydd, ond gwnewch yn siŵr mai dim ond yn ystod eich egwyl a’ch cinio y byddwch chi’n defnyddio’ch ffôn.
- Mwynhewch! Gwnewch yn siŵr eich bod yn mwynhau eich diwrnod cyntaf, mae dechrau swydd newydd yn gallu bod yn frawychus, ond bydd pawb o’ch cwmpas eisiau gwneud i chi deimlo mor gartrefol â phosib, felly mwynhewch a manteisiwch i’r eithaf ar hynny!
Felly, nawr eich bod chi’n gwybod sut i daro’r nod gyda’ch ceisiadau, sut i greu argraff yn y cyfweliad a chael diwrnod cyntaf gwych – pam oedi mwy?
Dolenni defnyddiol
Os nad ydych chi’n siŵr pa rôl allai fod yn addas i chi, rhowch gynnig ar ein Cwis Personoliaeth, neu edrychwch ar rai o’r dolenni defnyddiol isod: