Dathlu amrywiaeth ethnig ym maes pensaernïaeth
Wrth i ni ddathlu Mis Hanes Pobl Ddu yn Am Adeiladu, rydyn ni’n tynnu sylw at rai o’r ffigurau o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol sydd wedi chwalu rhwystrau yn y diwydiant, ac wedi cael effaith ar bensaernïaeth y byd.
Robert P. Madison
Robert P. Madison, a ddathlodd ei ben-blwydd yn 100 oed yn 2023, yw un o’r penseiri mwyaf arloesol yn yr Unol Daleithiau. Mae ei stori yn wirioneddol ysbrydoledig. Bu’n gwasanaethu ym Myddin yr Unol Daleithiau yn yr Ail Ryfel Byd ac ar ôl dychwelyd i fywyd sifil, roedd yn awyddus i ailgydio yn ei astudiaethau pensaernïaeth yn y brifysgol yn Ohio. Gwrthodwyd mynediad iddo gan yr Ysgol Pensaernïaeth oherwydd ei fod yn ddu, felly dychwelodd y diwrnod canlynol mewn gwisg filwrol lawn, ynghyd â’i Galon Borffor, ac fe ildiodd y brifysgol.
Madison oedd y dyn Affricanaidd-Americanaidd cyntaf i raddio mewn pensaernïaeth yn nhalaith Ohio, a'r cyntaf i gael ei ddewis ar gyfer Ysgoloriaeth glodfawr Fulbright i astudio dramor. Hefyd, y cwmni a sefydlodd, Robert P. Madison International, oedd y practis pensaernïol cyntaf yng Ngorllewin Canol yr Unol Daleithiau i fod dan berchnogaeth pobl ddu. Wynebodd ei deulu a’i gwmni wahaniaethu hiliol, ond roedd ei bractis yn llwyddiant, gyda dyluniadau a oedd yn cynnwys Swyddfa Llysgenhadaeth UDA yn Dakar, Senegal, Llyfrgell Gyhoeddus Cleveland, y Rock and Roll Hall of Fame a stadiwm y Cleveland Browns. Dim ond yn 2016, pan oedd Madison yn 93 oed, y gwnaeth ymddeol yn llawn.
Francis Kéré
Yn ysbrydoliaeth i gynifer o’i gyd-weithwyr a’i gyd-wladwyr, ganed Francis Kéré yn Gando, pentref bach yn Burkina Faso, ac mae wedi dod yn bensaer o fri rhyngwladol. O’i ddyddiau cynnar iawn, mae Kéré wedi goresgyn heriau mawr. Ef oedd y plentyn cyntaf yn ei bentref i fynd i’r ysgol, ac wrth weithio fel saer enillodd ysgoloriaeth i ddilyn prentisiaeth yn yr Almaen. Yna astudiodd bensaernïaeth a graddiodd o Brifysgol Dechnegol Berlin yn 39 oed.
Yn yr un modd â Tabassum, mae Kéré wedi dylunio adeiladau sydd wedi gwella bywyd y bobl y mae’n eu hadnabod orau – yn Gando. Yn wir, adeiladodd y ddwy ysgol gyntaf yn y pentref, gan ddefnyddio deunyddiau a dulliau cynaliadwy sy’n helpu i awyru, ailgylchu dŵr glaw ac oeri. Yn 2022 Kéré oedd y pensaer du cyntaf, a’r cyntaf o Affrica, i ennill Gwobr Bensaernïaeth fawreddog Pritzker .
Marina Tabassum
Marina Tabassum yw un o'r penseiri mwyaf nodedig sy'n gweithio yn Bangladesh heddiw. Sefydlodd ei phractis, MTA, yn 2005 ac mae wedi dal swyddi academaidd mewn pensaernïaeth ym Mhrifysgolion Toronto, Delft a Harvard. Ochr yn ochr â chomisiynau fel Amgueddfa Annibyniaeth Bangladesh a Mosg Bait Ur Rouf, mae Tabassum wedi defnyddio ei doniau pensaernïol er budd pobl agored i niwed yn ei mamwlad. Mae’r strwythur modiwlaidd symudol o’r enw ‘Khudi Bari’ a ddyluniwyd ganddi yn 2020 wedi cael ei ddefnyddio i ddarparu cartrefi dros dro i bobl sydd wedi’u dadleoli yn Nelta’r Ganges a gwersyll ffoaduriaid Rohingya yn ne Bangladesh. Hefyd yn 2020, cafodd Tabassum ei rhestru gan gylchgrawn Prospect fel trydydd meddyliwr mwyaf cyfnod COVID-19.
Balkrishna Doshi (1927- 2023)
Balkrishna Doshi oedd un o benseiri enwocaf India. Mae’n fwyaf adnabyddus am fod yn arloeswr mewn adeiladau Briwtalaidd yn India ac mae wedi gweithio ar gomisiynau sy’n amrywio o brifysgolion i ddatblygiadau tai cymdeithasol. Hyfforddodd dan Le Corbusier yn Paris ac roedd yn allweddol yn natblygiad pensaernïaeth fel pwnc academaidd yn India. Ymysg y sefydliadau a gyd-sefydlodd mae’r Ysgol Bensaernïaeth a'r Ysgol Gynllunio yn Ahmedabad. Yn 2018, Doshi oedd y person cyntaf o India i ennill Gwobr Bensaernïaeth Pritzker, sef 'Gwobr Nobel pensaernïaeth'.
Mazharul Islam (1923-2012)
Mazharul Islam oedd sylfaenydd pensaernïaeth Fengalaidd fodernaidd. Dyluniodd lawer o adeiladau cyhoeddus Dhaka, gan gynnwys Adeilad y Cynulliad Cenedlaethol, Archifau a Llyfrgell Cenedlaethol Bangladesh, adeiladau ym Mhrifysgol Jahangirnagar, Prifysgol Chittagong a Chyfadran y Celfyddydau Cain yn Sefydliad Charukala. Daeth Islam yn ddylanwadol iawn dros sawl cenhedlaeth o benseiri Bengalaidd a chafodd nifer enfawr o wobrau ac anrhydeddau, gan gynnwys Gwobr Diwrnod Annibyniaeth, anrhydedd gwladwriaeth uchaf Bangladesh.
Carolyn Armenta Davis
Mae Carolyn Armenta Davis, awdur pensaernïol, curadur a hanesydd pobl Ddu uchel ei pharch wedi gwneud cymaint i dynnu sylw ehangach at waith penseiri Affricanaidd a Du sydd ar wasgar. Roedd yr arddangosfa a gafodd ei churadu ganddi, ‘Design Diaspora: Black Architects and International Architecture 1970-1990’, wedi cael canmoliaeth enfawr ac aeth ar daith o amgylch y byd am saith mlynedd. Mae Davis wedi darlithio'n eang ar benseiri Du cyfoes ac wedi ysgrifennu'n helaeth ar y pwnc, gan gynnwys proffiliau ar gyfer Gwobr Bensaernïaeth Pritzker, a llyfr sy'n seiliedig ar ei harddangosfa glodfawr. Ar wahân i bensaernïaeth, mae Davis wedi adrodd straeon am bobl ar wasgar – y Diaspora – drwy gydol ei gyrfa. Cafodd ei rhaglenni radio ar gyfansoddwyr Du eu darlledu yn ystod y 1970au ac roedd cyfres radio arall, ‘Feminine Footprints’, yn proffilio 65 o ferched Americanaidd Du blaengar.
Gair o glod: unigolion yn helpu i greu amrywiaeth ethnig ym maes pensaernïaeth
Jeanne Gang
Mae Jeanne Gang yn bensaer gwyn o America, ond mae hi’n arwain yr ymgyrch dros ragor o gydraddoldeb ac amrywiaeth ethnig yn ei diwydiant. Caeodd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ei phractis pensaernïol, Studio Gang, yn 2018, ac mae’n credu y gall gwneud hynny arwain at weithlu mwy amrywiol hefyd. Fel yr ysgrifennodd ar y pryd: “Mae anghydraddoldeb cyflog yn arwydd o ddiffyg parch a gwerthfawrogiad sylfaenol am gyfraniadau merched, a merched o liw yn benodol ... mewn meysydd sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau creadigol, mae’n hanfodol dod â phobl a syniadau amrywiol i’r bwrdd a chreu amgylchedd cefnogol lle gall sgiliau a lleisiau amrywiol ddatblygu.” Mae Gang yn credu bod pensaernïaeth yn sbardun ar gyfer newid cymdeithasol, ac mae nifer o’i phrosiectau wedi cael manteision cymdeithasol ac economaidd fel eu hamcan.
Dysgwch fwy am sut mae’r diwydiant adeiladu’n dod yn fwy amrywiol
Dysgwch fwy am yr hyn y mae’r diwydiant adeiladu yn ei wneud i gynyddu amrywiaeth ethnig yn y diwydiant, darllenwch am ferched llwyddiannus sy’n amrywiol o ran ethnigrwydd ym maes adeiladu, a sut mae hanes pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig amrywiol yn amlwg mewn adeiladau hanesyddol.