Cynaliadwyedd ym maes adeiladu
Mae’r diwydiant adeiladu yn un o’r defnyddwyr mwyaf o adnoddau byd-eang ac yn cyfrannu at lefelau llygredd. Yn y DU yn unig, mae’r amgylchedd adeiledig yn gyfrifol am 30% o allyriadau carbon y wlad. Gyda sero net erbyn 2050 yn darged Cytundeb Paris, mae galw enfawr ar adeiladu i ymarfer datblygu cynaliadwy. Ond beth yn union yw adeiladu cynaliadwy a beth yw ei fanteision?
Beth yw adeiladu cynaliadwy?
Mae adeiladu cynaliadwy yn golygu adeiladu ag adnoddau a deunyddiau adnewyddadwy ac ailgylchadwy. Yn ystod prosiectau adeiladu, rhaid cymryd gofal i leihau gwastraff a’r defnydd o ynni lle bo’n bosibl a diogelu’r amgylchedd naturiol o amgylch y safle. Mae cynaliadwyedd mewn adeiladu yn ceisio lleihau allyriadau corfforedig a gweithredol yn sylweddol. Mae ‘allyriadau ymgorfforedig’ yn cyfeirio ar y CO2 a gynhyrchir o’r deunyddiau a’r broses adeiladu, ac ‘allyriadau gweithredol’ yw’r allyriadau carbon a ryddheir o ganlyniad i fywyd dydd i ddydd yr adeilad wrth iddo gyflawni ei swyddogaeth, boed hynny fel cartref, swyddfa, gofod masnachol neu ddiwydiannol.
3 Piler Cynaliadwyedd
Mae adeiladu cynaliadwy yn dod â nifer o fanteision, sydd wedi cael eu galw’n ‘bileri cynaliadwyedd’. Ystyrir yn gyffredinol mai’r canlynol yw’r tri ysgogydd mwyaf arwyddocaol ar gyfer gweithgarwch adeiladu cynaliadwy.
Economaidd
Mae adeiladu cynaliadwy weithiau’n cael ei feirniadu am ddefnyddio deunyddiau drud, ond mae data wedi dangos bod adeiladau gwyrdd yn cyflawni cynnydd o 7% yn eu gwerth dros adeiladau traddodiadol. Hefyd mae arbedion ar filiau cyfleustodau i denantiaid neu aelwydydd hefyd yn fwy tebygol drwy brosiectau adeiladu cynaliadwy.
Amgylcheddol
Bydd defnyddio ynni adnewyddadwy a deunyddiau adeiladu cynaliadwy yn helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae adeiladau gwyrddach yn gwella rheolaeth gwastraff ac yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, nid yn unig trwy leihau neu ddileu effeithiau negyddol ar yr amgylchedd ond hefyd trwy gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ar lefel ehangach trwy gynhyrchu eu hynni eu hunain neu gynyddu bioamrywiaeth.
Cymdeithasol
Mae manteision cymdeithasol adeiladu cynaliadwy bellach yn dechrau cael eu gwerthfawrogi’n ehangach. Mae pobl sy’n byw mewn adeiladau ag allyriadau carbon isel yn debygol o weld eu hiechyd a’u llesiant yn gwella, ac mae manteision hyd yn oed i’r gweithwyr adeiladu eu hunain a’u cyflogwyr. Dangoswyd bod cynhyrchiant yn cynyddu wrth adeiladu adeiladau cynaliadwy oherwydd bod gwaith yn digwydd mewn amgylchedd mwy di-garbon.
Beth yw 7 Egwyddor Adeiladu Gynaliadwy?
Dylunio cynaliadwy
Mae dylunio cynaliadwy yn golygu dylunio adeiladau fel eu bod yn ystyried effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cynaliadwyedd, ac yn canolbwyntio’n benodol ar gyflawni targedau sero net.
Gwydnwch
Mae dewis deunyddiau a fydd yn para am amser hir yn gwneud synnwyr amgylcheddol ac economaidd. Mae gwydnwch yn dod yn arbennig o bwysig wrth i fwyfwy o adeiladau gael eu hôl-osod i’w gwneud yn fwy cynaliadwy.
Effeithlonrwydd ynni
Mae lleihau’r defnydd o ynni a gwneud adeiladau’n fwy ynni-effeithlon yn egwyddor a fydd yn dod yn bwysicach fyth wrth ddylunio adeiladau. Mae Safon Tai’r Dyfodol, sy’n dod i rym yn 2025, yn golygu bod pob tŷ newydd yn cael ei adeiladu i gynhyrchu allyriadau 75% yn is na’r safonau effeithlonrwydd ynni presennol.
Lleihau gwastraff
Nid yw lleihau gwastraff yn golygu defnyddio deunyddiau ailgylchadwy yn unig a chyfyngu ar faint o wastraff y mae prosiect adeiladu yn ei gynhyrchu; mae hefyd yn blaenoriaethu ôl-osod dros adeiladu o’r newydd. Mae dymchwel fel arfer yn llwer mwy gwastraffus nag addasu adeilad sy’n dal i sefyll.
Ansawdd aer dan do
Mae gwella awyru naturiol adeiladau yn un o amcanion dylunio cynaliadwy. Gellir ei gyflawni trwy ddefnyddio simneiau solar, tyrau gwynt a fentiau crib, sy’n gwella ansawdd aer dan do a llif aer.
Cadwraeth dŵr
Gellir lleihau’r defnydd o ddŵr mewn prosiectau adeiladu trwy nifer o fesurau, megis systemau cynaeafu dŵr glaw, gosodiadau llif isel, dyfrhau effeithlon a chynnal a chadw rheolaidd a chanfod gollyngiadau.
Deunyddiau adeiladu cynaliadwy
Byddwn yn archwilio deunyddiau adeiladu cynaliadwy yn ddiweddarach yn yr erthygl hon, ond mae rhai o’r enghreifftiau mwyaf cyffredin o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu sy’n cael eu defnyddio mewn adeiladu yn cynnwys concrit wedi’i wneud o ffibrau naturiol a phren cymeradwy.
Yr heriau sy’n wynebu adeiladu cynaliadwy
- Cost – y brif her. Mae’n ddrud o hyd i symud diwydiant o un model busnes i un arall, yn enwedig un mor gymhleth ag adeiladu. Mae deunyddiau adeiladu cynaliadwy yn eu dyddiau cynnar o hyd, ac mae cyflenwad yn gyfyngedig. Ond, fel gydag unrhyw dechnoleg adnewyddadwy, mae costau gweithredol yn is ac mae arian yn cael ei arbed yn yr hirdymor.
- Gwybodaeth – mae’n bwysig i’r diwydiant adeiladu uwchsgilio ei hun, fel bod penseiri, peirianwyr sifil, rheolwyr safle a chleientiaid yn gwybod am fanteision arferion a deunyddiau cynaliadwy.
- Rheoliadau – mae angen gwneud gwaith i wneud rheoliadau adeiladu yn fwy llym pan ddaw’n fater o gynaliadwyedd. Cynaliadwyedd ddylai fod y safon ac nid yr eithriad.
Sut mae’r diwydiant adeiladu’n dod yn fwy cynaliadwy?
Mae llywodraeth y DU wedi amlinellu ei hymrwymiad i wneud y DU yn sero net erbyn 2050. Mae adeiladu yn chwarae ei ran yn hyn o beth drwy’r mentrau a ganlyn:
Strategaeth Adeiladu Gynaliadwy’r Llywodraeth
Daeth strategaeth adeiladu wreiddiol llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd yn 2014, yn Adeiladu 2025 – gan ddarparu llwybr clir ar gyfer gwella cynaliadwyedd ym maes adeiladu. Mae’r strategaeth hon yn cynnwys manylion am fasnach dramor, technolegau clyfar, ac adeiladu gwyrdd ac mae’n rhan o strategaeth ddiwydiannol y llywodraeth. Wrth inni agosáu at 2025 ei hun, byddwn yn gallu gweld a yw nodau’r strategaeth wedi’u cyflawni.
BREEAM
Mae BREEAM (BRE Environmental Assessment Method), yn safon cynaliadwyedd fyd-eang sy’n helpu i wella perfformiad amgylcheddol adeiladau. Mae’r Canllaw Gwyrdd hefyd yn asesu effaith amgylcheddol deunyddiau yn ystod eu cylch bywyd.
Ardystiad ISO14001
Mae Rheolaeth Amgylcheddol ISO 14001 yn safon ar gyfer Systemau Rheoli Amgylcheddol cwmni. Ei nod yw lleihau costau rheoli gwastraff ac mae’n dangos ymrwymiad i warchod yr amgylchedd. Mae hefyd yn helpu i ddefnyddio adnoddau’n effeithlon, sy’n berthnasol iawn ym maes adeiladu o ran y deunyddiau a ddefnyddir. Rhagor o wybodaeth yma.
Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol
Gall adeiladu cynaliadwy helpu enw da eich sefydliad drwy ddangos eich ymdeimlad o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, sef y ffordd mae busnesau’n ymddwyn er mwyn cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas. Mae ystyriaethau moesegol a dewisiadau gwyrdd yn ddwy ffordd y gall y diwydiant adeiladu ddangos Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.
Sero net mewn adeiladu
Er mwyn helpu’r diwydiant adeiladu i gyfrannu at nod llywodraeth y DU o ddod yn sero net erbyn 2050, mae nifer o reoliadau newydd wedi’u cyflwyno:
- Safonau Cartrefi’r Dyfodol ac Adeiladau’r Dyfodol sy’n sicrhau bod pob adeilad domestig a masnachol newydd erbyn 2025 yn ‘sero net’. Mae hyn yn golygu nad oes angen unrhyw fesurau ôl-osod arnynt i gydymffurfio â dim carbon
- Rhoi'r gorau i osod boeleri nwy naturiol newydd yn raddol o 2035
- Cyflwyno cynllun graddio ar sail perfformiad ar gyfer adeiladau mawr annomestig
Datblygiadau mewn deunyddiau adeiladu cynaliadwy
Daw 7% o allyriadau carbon y DU o’r allyriadau ymgorfforedig ym maes adeiladu – gyda chyfran fawr o’r ffigur hwn yn dod o ddefnyddio deunyddiau adeiladu traddodiadol fel brics, carreg a choncrit. Mae'r diwydiant adeiladu yn defnyddio mwy a mwy o ddeunyddiau adeiladu cynaliadwy nad ydynt yn effeithio ar yr amgylchedd, o ddeunyddiau naturiol a bioddiraddadwy fel bambŵ, cob a gwellt, i bren, dur a phlastig wedi'u hadfer a'u hailgylchu. Dysgwch fwy am y datblygiadau diweddaraf mewn deunyddiau adeiladu cynaliadwy.
Dulliau adeiladu cynaliadwy
Yn ogystal â deunyddiau mwy cynaliadwy, gall adeiladu wneud newidiadau i'r ffordd y mae'n gweithredu ac yn cyflawni ei weithgareddau. Mae dulliau adeiladu cynaliadwy yn cynnwys:
- Cyfyngu ar y deunyddiau a ddefnyddir i leihau gwastraff
- Rheoli rheoli gwastraff, megis gwahanu ac ailgylchu gwastraff
- Rheoli safleoedd adeiladu i wella ymdrechion cadwraeth
- Arbed ynni
Swyddi cynaliadwyedd ym maes adeiladu
Mae mwy a mwy o gyfleoedd yn dod ar gael ar gyfer gyrfaoedd cynaliadwy ym maes adeiladu, sy’n addas ar gyfer ystod eang o sgiliau a diddordebau. Dyma rhai yn unig:
Ymgynghorydd amgylcheddol
Mae ymgynghorwyr amgylcheddol yn sicrhau bod prosiectau adeiladu yn cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol ac yn cwrdd â thargedau gosodedig. Maent yn gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys rheoli gwaredu gwastraff a lleihau llygredd aer a dŵr.
Peiriannydd amgylcheddol
Mae peirianneg amgylcheddol yn ymwneud â gwarchod yr amgylchedd drwy leihau gwastraff a llygredd yn ystod y gwaith adeiladu. Mae peirianwyr amgylcheddol yn gweithio i ddatblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy i wneud yn siŵr bod deunyddiau’n cael eu defnyddio yn y ffordd orau bosibl, ac maen nhw’n dylunio ac yn rheoli technolegau rheoli llygredd.
Peiriannydd tyrbinau gwynt
Mae peirianwyr tyrbinau gwynt yn ymchwilio, dylunio a goruchwylio adeiladu a chynnal a chadw ffermydd gwynt a gweithfeydd pŵer ar y tir ac ar y môr.
Rheolwr cynaliadwyedd
Mae rheolwyr cynaliadwyedd yn goruchwylio’r gwaith o sicrhau bod y cwmni’n gweithio tuag at (ac yn aros) yn wyrdd. Maen nhw’n datblygu, yn gweithredu ac yn monitro strategaethau amgylcheddol. Darllenwch stori Alex Roberts am hyfforddi a dod yn Rheolwr Cynaliadwyedd.
Dadansoddwr ynni gwynt
Mae dadansoddwr ynni gwynt yn profi gwahanol fathau o dechnoleg gwynt, gan gynnwys tyrbinau gwynt, i fesur eu heffeithlonrwydd a gwella cynhyrchiant ynni. Gan weithio ar draws prosiectau adeiladu cenedlaethol a rhyngwladol, mae dadansoddwyr ynni gwynt yn gwneud defnydd ymarferol o’u gwybodaeth ynni adnewyddadwy.
Chwilio Talentview am swyddi cynaliadwyedd
Gweld y swyddi adeiladu cynaliadwy gwag diweddaraf ar Talentview.
Canfod mwy am adeiladu cynaliadwy
Mae gan Am Adeiladu gyfoeth o wybodaeth a chyngor am adeiladu cynaliadwy.
-
- Adeiladau sero-net enwog
- Prosiectau cynaliadwy y mae Llysgenhadon STEM Am Adeiladu wedi gweithio arnynt
- Rôl technoleg mewn adeiladu cynaliadwy
- Archwilio mwy am yrfaoedd ym maes adeiladu gwyrdd