Cynaliadwyedd mewn Adeiladu: Y datblygiadau mewn deunyddiau adeiladu cynaliadwy
Beth yw deunyddiau adeiladu cynaliadwy?
Deunyddiau adeiladu cynaliadwy yw deunyddiau a ddefnyddir mewn adeiladu sy’n cael llai o effaith ar yr amgylched. Fel arfer mae gan ddeunyddiau adeiladu safonol rywfaint o allyriadau carbon ymgorfforedig - bydd y ffordd y cânt eu cyrchu, eu gweithgynhyrchu, eu cludo a'u defnyddio yn golygu bod CO2 yn cael ei ryddhau i'r atmosffer. Hefyd, ar ddiwedd oes yr adeilad, efallai na fydd modd ailddefnyddio neu ailgylchu’r deunyddiau.
Manteision a heriau adeiladu cynaliadwy
Bydd defnyddio deunyddiau adeiladu cynaliadwy yn cynyddu rhinweddau amgylcheddol adeilad. Bydd rhai adeiladau’n cyflawni cyfradd sero net o ganlyniad, neu bydd eu hallyriadau carbon ymgorfforedig mor isel fel y gellir defnyddio gwrthbwyso carbon i wthio’r adeilad i sero net.
Fodd bynnag, gall deunyddiau adeiladu cynaliadwy fod yn ddrutach oherwydd eu bod yn brinnach i'w cyrchu, ac nid yw'r diwydiant adeiladu wedi'i sefydlu i'w defnyddio ar raddfa fawr. Gall cleientiaid fod yn llai pryderus am gynaliadwyedd na'r contractwr, neu bydd yn rhaid ailgynllunio'r adeilad i gynnwys deunyddiau adeiladu cynaliadwy, gan gynyddu cost a hyd y prosiect.
Pwysigrwydd deunyddiau adeiladu cynaliadwy
Y ffaith, fodd bynnag, yw bod 30% o allyriadau carbon y DU yn dod o’r amgylchedd adeiledig, gyda 7% o’r ffigur hwnnw’n tarddu o allyriadau ymgorfforedig. Mae’r diwydiant adeiladu yn ymwneud â strategaeth sero net, ac mae angen iddo wneud mwy o ddefnydd o ddeunyddiau adeiladu ecogyfeillgar os yw am helpu’r DU i gyrraedd ei tharged sero net erbyn 2050.
Datblygiadau mewn deunyddiau cynaliadwy
Wrth symud y tu hwnt i goncrit, brics, carreg a deunyddiau adeiladu traddodiadol eraill ar gyfer dewisiadau amgen mwy cynaliadwy, mae'r diwydiant adeiladu mewn sawl ffordd yn mynd yn ôl mewn amser. Mae deunyddiau fel cob, bambŵ a gwellt wedi cael eu defnyddio gan ddynoliaeth i adeiladu tai am filoedd o flynyddoedd, ac maent wedi'u hategu gan ffyrdd arloesol a gwyrdd eraill o adeiladu.
Deunyddiau adeiladu naturiol a bioddiraddadwy
Gwlân defaid
Mae gwlân defaid yn ynysydd naturiol, felly mae’n ddelfrydol i’w ddefnyddio fel deunydd inswleiddio mewn adeiladau. Gellir defnyddio gwlân defaid mewn llofftydd, waliau a nenfydau yn lle ffelt inswleiddio gwydr ffibr.
Denim
Ie, y deunydd y mae jîns yn cael ei wneud ohono! Mae Denim yn ffynhonnell wych arall o inswleiddio, a phan gaiff ei leihau i’w gyflwr cotwm naturiol gellir ei ddefnyddio mewn adeiladau preswyl a masnachol.
Corc
Mae corc yn ysgafn, yn dal dŵr, yn elastig, yn wydn, yn gwrthsefyll tân ac yn ailddefnyddiadwy. Mae coed corc sy’n cael eu cynaeafu’n rheolaidd hefyd yn storio 3-5 gwaith yn fwy o garbon na’r rhai sy’n cael eu gadael heb eu cynaeafu.
Byrnau gwellt
Yn sgil-gynnyrch ffermio rhad, mae gwellt yn ddeunydd inswleiddio hynod effeithiol. Mae gwellt yn 100% ailgylchadwy a bioddiraddadwy.
Cob
Mae cob yn ddeunydd naturiol sy’n cynnwys isbridd, dŵr, deunydd organig ffibrog ac weithiau calch. Fe’i defnyddiwyd yn hanesyddol fel deunydd adeiladu a gallai ddod yn ôl fel ateb cynaliadwy.
Myseliwm
Mae myseliwm yn ffwng llystyfol - math annhebygol o ddeunydd adeiladu. Fodd bynnag, pan fyddant wedi'u sychu mae gan y strwythurau tebyg i wreiddiau gymhareb cryfder-i-bwysau uchel ac felly gellir eu defnyddio mewn brics, fel cyfrwng rhwymo ac ynysydd.
Bambŵ
Efallai’r deunydd adeiladu cynaliadwy mwyaf adnabyddus, ased mwyaf bambŵ yw ei hyblygrwydd, sy’n golygu y gellir ei gymhwyso i strwythur yn ogystal ag addurno. Mae adeiladau mawr yn ogystal ag anheddau bach wedi defnyddio bambŵ.
Ewyn anhyblyg polywrethan
Mae hwn yn ewyn wedi’i greu o blanhigion, o warch, lludwymon a bambŵ yn benodol, sydd â nodweddion inswleiddio a gwrthiant thermol rhagorol. Mae’n gallu gwrthsefyll lleithder a gwres.
Pridd cywasgedig
Gellir cywasgu pridd gyda'r meintiau cywir o dywod, graean, clai a silt tra'n llaith i ffurfwaith neu ffrâm. Ar ôl ei halltu, gellir defnyddio’r ‘pridd cywasgedig’ hwn ar gyfer sylfeini, waliau a lloriau cryf iawn.
Deunyddiau adeiladu wedi’u hadfer a’u hailgylchu
Pren
Efallai mai pren wedi'i adennill yw'r gorau o ddeunyddiau adeiladu cynaliadwy. Mae'n arbed ar gost amgylcheddol sylweddol cynaeafu pren newydd, mae'n amlbwrpas, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer strwythurau ategol, estyll a nodweddion mewnol.
Dur
Mae mwy o ddur yn cael ei ailgylchu na phapur, plastig, alwminiwm a gwydr gyda'i gilydd, oherwydd mwyngloddio yw un o'r gweithgareddau mwyaf niweidiol i'r amgylchedd. Fel deunydd adeiladu mae dur yn wydn ac yn hynod o gryf.
Plastig
Mae plastig yn cael ei ddefnyddio fwyfwy mewn adeiladu, ac yn anochel felly. Fel y gwyddom i gyd yn ôl pob tebyg, gall eitemau plastig gymryd canrifoedd i ddiraddio. Mae plastig wedi'i ailgylchu fel deunydd adeiladu yn cynhyrchu allyriadau 95% yn is na choncrit.
Rwber
Gellir ailgylchu rwber naturiol a synthetig a’i wneud yn arwynebau lloriau, yn enwedig ar gyfer amgylcheddau chwaraeon a hamdden.
Deunyddiau adeiladu uwch a newydd
Gwydr clyfar
Mae gwydr clyfar yn fath o wydr ynni-effeithlon. Gall adweithio i ynni’r haul ac mae’n rheoli’n effeithiol fain to wres a golau sy’n mynd i mewn i adeilad, yn ogystal â chael priodweddau tywyllu (gweithredu fel bleind)
Argraffu 3D a Rhagsaernïaeth
Mae argraffu 3D yn cael ei ddefnyddio fwyfwy yn y diwydiant adeiladu, ar gyfer adeiladau cyfan ac ar gyfer creu elfennau pwrpasol oddi ar y safle. Mae ganddo’r manteision mawr o gyflymder a’r gallu i newid maint gwrthrych yn unol â’r anghenion. Mae datblygiad tai 46 o gartrefi yn Swydd Gaerhirfryn yn cael ei argraffu'n gyfan gwbl 3D.
Paneli Solar
Mae’n teimlo fel petai baneli solar wedi bod o gwmpas ers amser maith. Gosodwyd paneli ffotofoltäig am y tro cyntaf ar eiddo preswyl yn y DU ym 1995, a dyma’r dechnoleg ynni adnewyddadwy o hyd sydd fwyaf cost-effeithiol i berchnogion tai.
Enviroboard
Mae Enviroboard yn fath o fwrdd gwrthsefyll tân sy’n cynnwys magnesiwm, blawd llif, a brethyn ffibr. Yn gryfach na deunydd byrddio confensiynol, defnyddir Enviroboard yn nodweddiadol ar gyfer leinin waliau, leinin to a systemau isgarth. Mae ganddo broses sychu a halltu naturiol, felly mae’n garbon niwtral.
Deunyddiau concrit amgen
- AshCrete – Wedi’i wneud o 97% o ddeunydd wedi’i ailgylchu, gan ddefnyddio lludw sy’n isgynnyrch yn lle concrit traddodiadol
- Hempcrete – cymysgedd o dywod, ffibrau cywarch a chalch. Mae blociau hempcrete yn ysgafn ac yn analadwy.
- Timbercrete – blawd llif wedi’i gymysgu â’r elfennau llai ynni-ddwys o goncrit. Dewis arall sy’n para’n hir ac sy’n gwrthsefyll tân yn wych.
Pa ddeunyddiau adeiladu fyddwn ni’n eu defnyddio yn 2050?
Erbyn 2050, sef y targed i’r DU ddod yn sero net, bydd y diwydiant adeiladu bron yn sicr yn defnyddio deunyddiau adeiladu sy’n fwy ecogyfeillgar nag a wnawn heddiw. Mae’n anodd dweud pa un fydd fwyaf cyffredin erbyn hynny, ond mae’n ddigon posibl y byddai’r dewisiadau concrit amgen wedi disodli concrit traddodiadol, a bydd mwy o waith adeiladu oddi ar y safle yn digwydd.
Eisiau canfod mwy am yrfaoedd cynaliadwy mewn dyfodol cynaliadwy?
Yn Am Adeiladu mae gennym dros 170 o broffiliau swyddi gwahanol, gan gynnwys llawer o rolau adeiladu mewn cynaliadwyedd. Dyma rai yn unig:
I gael gwybod mwy, cliciwch ar y dolenni uchod neu darllenwch ein crynodeb llawn o yrfaoedd adeiladu gwyrdd.