Cynaliadwyedd mewn Adeiladu: Adeiladau sero net enwog
Mae 40% o allyriadau carbon byd-eang yn dod o adeiladau, felly er mwyn i’r DU a’r byd gyrraedd targedau sero net mae’n rhaid i’r diwydiant adeiladu ganfod ffyrdd o leihau allyriadau’n sylweddol. Mae’n dasg heriol, oherwydd bod 80% o’r adeiladau y bydd eu hangen arnom erbyn 2050 – terfyn amser sero net y DU – eisoes yn cael ei defnyddio neu yn y broses gynllunio.
Ond mae’n bosibl adeiladu a gweithredu adeiladau sero net, ac maent yn cynnig cyfleoedd enfawr ar gyfer gyrfaoedd adeiladu cynaliadwy – fel y bydd y canllaw hwn i bensaernïaeth werdd yn ei ddangos.
Beth yw adeilad sero net?
Mae adeilad carbon niwtral neu adeilad sero net yn un nad yw, wrth iddo gael ei adeiladu neu fod mewn gweithrediad, wedi cael effaith negyddol ar ei amgylchedd. Os yw adeilad sero net wedi cynhyrchu allyriadau carbon, yna mae’r rhain wedi bod yn llai na faint o garbon y mae’r adeilad wedi’i dynnu o’r atmosffer.
Nodweddion adeiladau sero net
Mae nodweddion mwyaf cyffredin adeiladau sero net yn cynnwys y canlynol:
- Gostyngiad yn y defnydd o ddeunyddiau adeiladu ag effeithiau allyriadau uchel
- Ymgorffori technegau adeiladu ag allyriadau isel, megis adeiladu oddi ar y safle
- Gwneud adeiladau’n ynni hunangynhaliol trwy ffynonellau a systemau ynni adnewyddadwy
Allyriadau ymgorfforedig a gweithredol
Allyriadau carbon ymgorfforedig yw’r rhai a gynhyrchir drwy weithgarwch adeiladu. Mae’n cynnwys y ffordd y caiff deunyddiau adeiladu eu cyrchu a’u cludo, a’r hyn sy’n digwydd ar y safle adeiladu ei hun. Gellir defnyddio gwrthbwyso carbon i leihau effaith allyriadau ymgorfforedig, gan ei bod yn anoddach ar hyn o bryd i gyflawni sero net yn ystod y cyfnod adeiladu.
Mae allyriadau gweithredol yn ymwneud â’r carbon sy’n cael ei ryddhau gan adeilad yn ystod ei fywyd o ddydd i ddydd. Mewn geiriau eraill, faint o ynni y mae’n ei ddefnyddio, yn enwedig o ffynonellau anadnewyddadwy, o’i gymharu â’r hyn y mae’n ei gynhyrchu? Er ei fod yn dal yn heriol, mae cyfyngu ar allyriadau gweithredol yn dod yn nodwedd o ddyluniad adeiladau ac yn un na fydd ond yn cynyddu yn y dyfodol.
Ardystiaeth o gynaliadwyedd
Mae sawl cynllun ardystio yn asesu rhinweddau gwyrdd adeiladau newydd neu’r rhai sydd wedi’u hôl-ffitio â systemau cynaliadwy. Mae tystysgrifau cynaliadwyedd yn gosod safonau i ddylunwyr a datblygwyr adeiladau anelu atynt, ac yn gwobrwyo cwmnïau sy’n bodloni safonau adeiladu carbon-niwtral.
Manteision a heriau adeiladau sero net
Mae gan adeiladu carbon sero net fanteision clir, i’r bobl sy’n meddiannu’r adeiladau hyn ac i’r amgylchedd ehangach:
- Â phob adeilad sero net, mae allyriadau carbon yn gostwng
- Mae adeiladau ynni-effeithlon yn costio llai i’w gwresogi
- Mae adeiladau cynaliadwy fel arfer yn lleoedd mwy cyfforddus i fyw a gweithio ynddynt
- Maent yn dal eu gwerth dros adeiladau llai effeithlon
Mae’r heriau’n glir hefyd, fodd bynnag:
- Mae adeiladu carbon sero net yn ddrytach nag adeiladu safonol
- Gall costau ymlaen llaw atal datblygwyr rhag gwneud hynny
- Bydd yn cymryd degawdau i ôl-ffitio adeiladau gael effaith ar gynaliadwyedd
- Mae allyriadau ymgorfforedig yn anos i’w rheoli nag allyriadau gweithredol
Adeiladau sero net enwog ledled y byd
The Forge, Llundain, DU
The Forge, datblygiad swyddfa naw llawr, 13,000m2 yn Bankside, Llundain, yw’r adeilad masnachol cyntaf yn y DU i gael ei ddylunio yn unol â diffiniad Cyngor Adeiladu Gwyrdd y DU o adeilad sero net. Fe’i hadeiladwyd ar ffurf cit, gan ddefnyddio P-DfMA (ymagwedd platfform at ddylunio ar gyfer gweithgynhyrchu a chydosod). Gwelodd y dechneg adeiladu hon ostyngiad o 25% mewn allyriadau ymgorfforedig ac arbedwyd 178 tunnell o ddur hefyd yn ystod y gwaith adeiladu. Fe’i hadeiladwyd gan Syr Robert McAlpine ar gyfer Landsec.
Tai Cyngor Passivhaus, Efrog, DU
Mae Passivhaus yn safon tai sy’n seiliedig ar yr egwyddor o effeithlonrwydd ynni a lleihau ôl troed ecolegol adeilad. Mae adeiladau Passivhaus wedi’u dylunio fel bod cyn lleied â phosibl o wres yn cael ei golli, a’u bod yn bodloni eu hanghenion ynni drwy gyfuniad o lefelau uchel o inswleiddio, deunyddiau adeiladu aerglos a ffynonellau gwres goddefol. Mae’r cynlluniau tai cyngor sy’n cael eu datblygu yn Efrog yn ennill ardystiad Passivhaus trwy ddefnyddio pympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli solar ffotofoltäig.
The Edge, Amsterdam, yr Iseldiroedd
Mae The Edge, pencadlys Deloitte yn Amsterdam, yn un o’r adeiladau mwyaf clyfar a mwyaf cysylltiedig yn y byd (cyfrifiadur â tho). Cyflawnodd hefyd sgôr o 98.4% gan BREEAM, sef methodoleg achredu amgylcheddol y DU, y sgôr uchaf a roddwyd erioed. Mae’r paneli solar ar ochr ddeheuol yr adeilad yn darparu mwy o ynni nag y mae’r adeilad yn ei ddefnyddio, ac mae’r Edge yn cael ei gynhesu gan ffynonellau dŵr daearol sy’n cadw’r adeilad wedi’i gynhesu neu’n oer yn dibynnu ar y tymor.
Canolfan Bullitt, Washington, UDA
Wedi’i hagor ar Ddiwrnod y Ddaear yn 2013, bwriadwyd Canolfan Bullitt yn Seattle erioed i fod yr adeilad masnachol gwyrddaf yn y byd. Mae ganddi hyd oes o 250 mlynedd (yn hytrach na 40 mlynedd y rhan fwyaf o adeiladau swyddfa), felly mae’n ymgorffori cynaliadwyedd hirdymor yn ei ddyluniad. O ganlyniad i’w fesurau arbed ynni, systemau ailgylchu dŵr ac araeau solar, lleihaodd Canolfan Bullitt ei defnydd o drydan i 15% o adeilad masnachol safonol o faint tebyg. Mae ganddo raciau beiciau yn lle mannau parcio a thros ei 10 mlynedd gyntaf cynhyrchodd 30% yn fwy o ynni nag a ddefnyddiwyd.
Yr Unisphere, Maryland, UDA
Mae United Therapeutics ar flaen y gad ym maes biotechnoleg, ac roeddent am i’w hadeilad yn Silver Spring, Maryland fod yr un mor arloesol o ran ei nodweddion gwyrdd. Adeilad Unisphere yw adeilad masnachol sero net mwyaf y byd ar adeg ei gyhoeddi, ac mae’n 135,000 troedfedd sgwâr. Ymhlith ei ddatblygiadau arloesol mae bron i 3,000 o baneli solar, 52 o ffynhonnau geothermol, cynhaeafu golau dydd, pwll thermol a ffenestri sy’n agor neu’n cau’n awtomatig i gynorthwyo awyru naturiol yr adeilad.
Adeilad Pixel, Melbourne, Awstralia
Adeilad Pixel ym maestref Melbourne yn Carlton oedd datblygiad swyddfa carbon niwtral cyntaf Awstralia. Mae’n fach o’i gymharu â’r lleill ar y rhestr hon, ond mae ei nodweddion cynaliadwy yn eithaf trawiadol. Mae Adeilad Pixel yn cynhyrchu ei gyflenwad dŵr â phroses casglu to gwyrdd a dŵr llwyd, ac mae tyrbin gwynt yn cynhyrchu pŵer ar gyfer yr adeilad. Defnyddiwyd concrit carbon isel, Pixelcrete, yn y gwaith adeiladu. Wedi’i agor yn 2011, derbyniodd Adeilad Pixel y sgôr uchaf erioed gan Gyngor Adeiladu Gwyrdd Awstralia.
Y Venus, Manceinion, DU
Wedi’i adeiladu gan Peel L&P, cwmni adeiladu sydd â phortffolio newydd o adeiladau sero net, mae’r Venus yn ddatblygiad swyddfa â blaen gwydr yn ardal Talfford ym Manceinion. Roedd yn un o nifer o adeiladau yng Ngogledd Orllewin Lloegr i gael eu gwirio’n annibynnol fel sero net yn ôl diffiniad Cyngor Adeiladu Gwyrdd y DU. Mae 100% o’i wastraff naill ai’n cael ei ailgylchu neu ei ddefnyddio i adennill ynni, ac mae ganddo sgôr BREEAM o ‘dda iawn’.
The Floating Office, Rotterdam, yr Iseldiroedd
Dyna’n union yw’r Floating Office – adeilad tri llawr wedi’i adeilad ar gychod concrid a fydd yn caniatáu iddo arnofio yn y Rijnhaven, cyn ardal ddiwydiannol o afon Maas, Rotterdam. Fe’i lluniwyd fel Pencadlys y Ganolfan Fyd-eang ar Addasu, er mwyn dangos sut y gallai pensaernïaeth addasu i newid yn yr hinsawdd. Os bydd lefel y môr yn codi gall y Floating Office symud â hyn, ac mae’r adeilad yn darparu ei gyflenwad trydan a dŵr ei hun. Un o’i brif ddeunyddiau yw pren wedi’i draws-lamineiddio, sy’n ysgafn, yn arnofio ac yn cadw CO2. Fe’i hagorwyd yn 2021.
Powerhouse Telemark, Porsgrunn, Norwy
Mae’r penseiri Norwyaidd Snøhetta wedi dylunio cyfres o adeiladau ‘Powerhouse’ ar draws y wlad Sgandinafaidd. Mae’r diweddaraf, yn Porsgrunn, ger camlas Telemark, yn ddatganiad trawiadol o gynaliadwyedd. Mae ei do gogwyddo o gelloedd ffotofoltäig yn fwyhau’r ynni solar y mae’n ei gynhaeafu, ac ynghyd â’i ffasâd sy’n wynebu’r de mae’r adeilad yn cynhyrchu 20 gwaith defnydd ynni blynyddol cartref yn Norwy. Mae wedi’i adeiladu i safonau Passivhaus ag inswleiddiad gwych a system wresogi ac oeri geothermol.
NUS: Ysgol Dylunio a'r Amgylchedd, Singapore
Ysgol Dylunio a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Genedlaethol Singapore yw’r adeilad sero net cyntaf o’i fath yn y Trofannau. Cynlluniwyd yr adeilad yn bwrpasol i gartrefu cyfadran academaidd sy’n dysgu dylunio cynaliadwy ac fe’i hagorwyd yn 2019. Mae’r to yn cynnwys dros 1,200 o baneli solar, ac mae system oeri hybrid yn darparu amgylchedd gweithio cyfforddus, ynni-effeithlon. Mae ganddo ddyluniad hyblyg sy’n hyrwyddo cysylltedd a rhyngweithio dynol.
Sawl adeilad sy'n sero net?
Amcangyfrifodd Cyngor Adeiladu Gwyrdd y Byd yn 2017 fod 500 o adeiladau masnachol sero net a 2,000 o gartrefi sero net yn y byd bryd hynny. Rhybuddiodd fod yn rhaid i bob adeilad fod yn garbon sero net erbyn 2050 i gadw at y codiad tymheredd o 2°C – y targed a osodwyd gan Gytundeb Paris.
Beth yw'r strategaeth sero net ar gyfer adeiladu yn y DU?
Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau gostyngiad o 68% mewn allyriadau carbon erbyn 2030, yn unol â’i tharged sero net ar gyfer 2050. Â’r sector adeiladu’n cyfrannu cymaint at allyriadau, mae nifer o reoliadau newydd wedi’u cyflwyno fel rhan o’i strategaeth sero net ar gyfer adeiladwaith:
- Safonau Tai’r Dyfodol ac Adeiladau’r Dyfodol – yn sicrhau bod pob adeilad domestig a masnachol newydd erbyn 2025 yn barod yn sero net. Mae hyn yn golygu nad oes angen unrhyw fesurau ôl-ffitio arnynt i gydymffurfio â sero carbon.
- Rhoi’r gorau o osod boeleri nwy naturiol yn raddol o 2035.
- Cyflwyno cynllun graddio ar sail perfformiad ar gyfer adeiladau mawr annomestig
Darllenwch fwy am yr hyn y mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn ei wneud i helpu’r diwydiant adeiladu i leihau allyriadau â’i gynllun gweithredu sero net.
Want to find out more about sustainable careers in sustainable futures?
Eisiau canfod mwy am yrfaoedd cynaliadwy mewn dyfodol cynaliadwy?
Gan fod gan y diwydiant adeiladu ffocws mor glir ar adeiladu sero net, mae cyfleoedd gwych ar gael ar gyfer gyrfaoedd adeiladu cynaliadwy. Yn Am Adeiladu mae gennym dros 170 o broffiliau swyddi gwahanol, gan gynnwys llawer o rolau mewn cynaliadwyedd:
Dim ond rhai yw’r rhain – dyma ein crynodeb llawn o yrfaoedd adeiladu gwyrdd.