Female engineer in factory

Gan mai dim ond tua 16% o weithlu peirianneg y DU sy’n fenywod – un o’r cymarebau isaf yn Ewrop – does dim amheuaeth bod angen annog a chymell mwy o fenywod i ymuno â’r diwydiant peirianneg. Mae’n broffesiwn a all elwa’n fawr o gael mwy o fenywod yn cymryd rhan ac yn ymddiddori ynddo, gan ddatblygu cynnyrch a thechnolegau sy’n gwbl gynhwysol.

Mynnwch ragor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i fenywod ym maes peirianneg.

Pam mae hi’n bwysig cael menywod ym maes peirianneg?

Yn yr un modd ag y mae’r diwydiant adeiladu yn elwa o gael mwy o amrywiaeth, felly mae angen mwy o fenywod ar beirianneg. Nid yn unig o ran y sgiliau a’r dalent peirianneg sydd ganddynt, ond o ran y profiadau a’r ddealltwriaeth y gall menywod eu cynnig i’r timau y maent yn gweithio ynddynt a’r prosiectau y maent yn gweithio arnynt. Mae angen i beirianneg, fel unrhyw ddiwydiant, adlewyrchu’r gymdeithas ehangach, felly mae cael mwy o fenywod yn beirianwyr yn eithriadol o bwysig. Po fwyaf yw ystod ac amrywiaeth y gweithwyr sydd gan sefydliad, y gorau fydd y gwaith y bydd yn gallu ei gynhyrchu a’r mwyaf o effaith y bydd yn ei chael ar fywydau pobl.

Dod yn beiriannydd benyw: cyfleoedd addysgol

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn peirianneg fel gyrfa, y lle gorau i ddechrau yw drwy astudio pynciau STEM yn yr ysgol. Bydd pynciau sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth, mathemateg a thechnoleg yn datblygu’r sgiliau technegol a datrys problemau sydd eu hangen ar beirianwyr. Mae gan y rhan fwyaf o beirianwyr gymwysterau gradd, ond gallwch hefyd ddilyn prentisiaeth.

Cymwysterau peirianneg TGAU a Safon Uwch

I’r rheini sy’n awyddus i astudio peirianneg yn y brifysgol, neu i ddilyn prentisiaeth, mae’n bwysig cael graddau da yn y pynciau STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch. I ddechrau prentisiaeth peirianneg, dylech fod wedi pasio pum TGAU ar raddau 9-4 (A*-C). Bydd prifysgolion yn gofyn am 3 Safon Uwch ar raddau BBB neu uwch. Fel arfer, nid yw peirianneg yn cael ei chynnig ar lefel Safon Uwch, ond bydd sefydliadau addysg bellach yn gofyn am gymwysterau Safon Uwch mewn Mathemateg ac o leiaf un pwnc arall yn y Gwyddorau, Cyfrifiadureg, Mathemateg neu Dechnoleg Dylunio. Weithiau, mae Ffiseg a Mathemateg Bellach yn cael eu hystyried yn bynciau hanfodol i fod wedi llwyddo ynddynt ar Safon Uwch. Gall cyrsiau peirianneg gemegol ofyn am Gemeg. 

Bydd angen i chi benderfynu pa gangen o beirianneg rydych am ei hastudio pan fyddwch yn cyrraedd y brifysgol. Mae cyrsiau poblogaidd yn cynnwys peirianneg fecanyddol, peirianneg drydanol, peirianneg sifil a pheirianneg gemegol.

 

Cyfleoedd addysg bellach mewn peirianneg i fenywod

Astudio peirianneg yn y brifysgol yw un o’r prif lwybrau at yrfa mewn peirianneg. Efallai y bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i gael lleoliad yn y diwydiant am flwyddyn fel rhan o'u cwrs, sy’n cynnig cyfle i gael profiad yn y gweithle. Mae gan fenywod fynediad hefyd at amrywiaeth o ysgoloriaethau, bwrsariaethau a mentrau dyfeisgar wrth iddynt astudio am eu graddau.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael:

‘Rhaglen Menywod ym maes Peirianneg’ Prifysgol Warwick

Er mwyn annog mwy o amrywiaeth ym maes peirianneg, mae 'Rhaglen Menywod ym maes Peirianneg’ Prifysgol Warwick yn cynnig ysgoloriaethau i israddedigion dethol. Mae'r rhaglen yn rhoi dyfarniadau o £2,000 y flwyddyn ar gyfer pob blwyddyn o gwrs myfyriwr yn yr Ysgol Peirianneg, yn ogystal â rhoi cefnogaeth, cyngor a mentora ychwanegol. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu datganiad ategol, hanes rhagorol o berfformiad academaidd ac angen ariannol.

‘Ysgoloriaeth Arweinwyr Peirianneg’ yr Academi Beirianneg Frenhinol

Mae 'Ysgoloriaeth Arweinwyr Peirianneg’ yr Academi Beirianneg Frenhinol yn helpu israddedigion uchelgeisiol mewn peirianneg a disgyblaethau cysylltiedig i ymgymryd â rhaglen garlam datblygiad personol. Mae'r rhaglen yn nodi myfyrwyr sydd â'r potensial i ymgymryd â rolau arwain ym maes peirianneg. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn £5,000 i’w ddefnyddio dros dair blynedd, tuag at weithgareddau datblygiad personol sy’n gysylltiedig â gyrfa, mynediad at gyfleoedd hyfforddi a rhwydweithio pwrpasol, cymorth mentora a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig yr Academi Beirianneg Frenhinol.

Get it Made: Grant Menywod ym maes Peirianneg

Cwmni gweithgynhyrchu yw Get It Made sy’n cynnig grant gwerth £5,000 i fusnesau peirianneg, dylunio neu dechnoleg sy’n cael eu harwain gan fenywod. Dim ond i fudiadau sy’n cael eu sefydlu neu eu harwain gan fenywod ac sy’n cyflogi 10 neu lai o staff y mae’r grant ar gael, ac mae’n helpu busnesau i dyfu prosiect neu ddatblygu cynnyrch. Bydd enillydd llwyddiannus grant yn elwa ar gefnogaeth ac arbenigedd tîm Get It Made ac mae wedi’i ddylunio i annog entrepreneuriaeth peirianneg gan fenywod.

Beth yw’r meysydd peirianneg gorau i fenywod?

Female engineer at work

Does dim mathau o beirianneg sy’n ‘well’ i fenywod nag eraill. Mae i bob math ei ofynion penodol ei hun gan ofyn am wahanol setiau o sgiliau, ac maent i gyd yr un mor agored i fenywod ag ydynt i ddynion.

Peirianneg Sifil

Mae peirianwyr sifil yn cynllunio, yn dylunio ac yn rheoli prosiectau adeiladu mawr. Gallai hyn gynnwys pontydd, adeiladau, cysylltiadau trafnidiaeth a strwythurau mawr eraill. Mae peirianwyr sifil yn defnyddio meddalwedd modelu cyfrifiadurol a data o arolygon, profion a mapiau i greu glasbrintiau prosiect. Mae’r cynlluniau hyn yn cynghori contractwyr ar y camau gorau i’w cymryd ac yn helpu i leihau’r effaith a’r risg amgylcheddol. 

Peirianneg Fecanyddol

Mae peirianwyr mecanyddol yn mynd tu mewn i’r peiriannau sy’n cadw’r byd i symud ymlaen. Mae’n ymwneud â dylunio, dadansoddi a gweithgynhyrchu systemau, gan ddelio ag agweddau ar fecaneg fel dynameg hylif, thermodynameg a gwyddor deunyddiau. Mae menywod sy’n gweithio ym maes peirianneg fecanyddol yn gwneud gwaith fel rheoli prosiectau, ymchwil a datblygu a pheirianneg dylunio.

Peirianneg Ddiwydiannol

Mae peirianwyr diwydiannol yn defnyddio eu gwybodaeth o fathemateg, dylunio a'r gwyddorau ffisegol a chymdeithasol i ddatblygu systemau sy'n optimeiddio prosesau diwydiannol. Maent yn dilyn egwyddorion peirianneg ddiwydiannol i sicrhau bod systemau, prosesau a gweithrediadau’n llifo’n effeithiol, gan gydlynu llafur, deunyddiau, gwybodaeth a pheiriannau.

Peirianneg Drydanol

Ni ddylid cymysgu rhwng peirianwyr trydanol a thrydanwyr. Mae gan bobl sy’n gweithio ym maes peirianneg drydanol ddealltwriaeth ddofn o gylchedau integredig a systemau wedi’u gwreiddio, gan ddylunio a datblygu systemau trydanol ar gyfer adeiladau, systemau trafnidiaeth a rhwydweithiau dosbarthu pŵer. Efallai y bydd peirianwyr trydanol benyw yn defnyddio eu sgiliau mewn meysydd fel roboteg, telegyfathrebu ac ynni adnewyddadwy.

Peirianneg Gemegol

Mae peirianwyr cemegol yn hanfodol i ddatblygu’r cynhyrchion sy’n rhan o fywyd bob dydd pobl – o’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta i’r glanedyddion sy’n glanhau ein dillad. Mae peirianwyr cemegol yn gweithio fwyfwy yn y diwydiant adeiladu, gan ddatblygu atebion a phrosesau ar gyfer adeiladau a phrosiectau seilwaith, yn enwedig gweithfeydd diwydiannol neu weithgynhyrchu.

Cyfleoedd datblygu proffesiynol i fenywod sy’n beirianwyr

Diolch i ymdrechion arloeswyr peirianneg menywod, mae bod yn fenyw mewn peirianneg yn brofiad gwahanol iawn i’r hyn ydoedd ar un adeg. Mae sefydliadau fel Cymdeithas Peirianneg y Menywod yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio, sgyrsiau, gweminarau, darlithoedd a chynadleddau, yn ogystal â Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg, a gynhelir bob blwyddyn ym mis Mehefin. Maent yn cynnig cyfleoedd gwych i ddysgu gan gydweithwyr a gweithio mewn partneriaeth â mentoriaid. Mae hefyd nifer o raglenni datblygiad proffesiynol ar gael yn y diwydiant, sy’n cael eu rhedeg gan sefydliadau fel Sefydliad y Peirianwyr Sifil, y Cyngor Peirianneg, Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol a’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg. 

Dysgwch fwy am yr hyn y gallai gyrfa mewn peirianneg ei olygu i chi a sut y gallwch lunio dyfodol peirianwyr benywaidd. Dysgwch fwy gydag Am Adeiladu

Mae gan beirianneg y pŵer i newid cymdeithas a’r ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau. Mae’n yrfa i bawb ymgyrraedd ati, a dylai menywod gael y cyfle i gyflawni eu potensial fel peirianwyr. Dysgwch fwy am yrfaoedd ym maes peirianneg gyda’r adnoddau hyn gan Am Adeiladu.