Creu dyfodol gwell
Ydych chi eisiau gyrfa sy’n gwneud gwahaniaeth? Sy’n gallu newid bywydau a thrawsnewid cymunedau? Sy’n gallu gwella’r amgylchedd am genedlaethau i ddod?
Ychydig iawn o ddiwydiannau sy’n cael effaith mor ddofn a pharhaus ar ein bywydau bob dydd ag adeiladu.
Meddyliwch amdano. Mae’r amgylchedd adeiledig o’n cwmpas yn cael effaith ddofn ar y ffordd rydyn ni’n gweithredu ac yn rhyngweithio â’n gilydd. Boed hynny’n dai, yn ysgolion, yn golegau, yn siopau, yn swyddfeydd – mae sut, ble a pham maen nhw’n cael eu hadeiladu yn dylanwadu’n fawr ar y ffordd rydyn ni’n teimlo ac yn ymddwyn.
Gyrfaoedd gyda phwrpas
Dyna pam mae ar y diwydiant adeiladu angen pobl sydd eisiau pwrpas yn eu gyrfaoedd, sy’n gwybod bod y gwaith maen nhw’n ei wneud yn ystyrlon ac yn para.
Ac mae hyn yn wir beth bynnag rydych chi’n ei wneud ym maes adeiladu. Mae cynllunwyr, dylunwyr, penseiri a syrfewyr yn meddwl yn greadigol am ddefnyddio tir, gan ddylunio adeiladau er budd lles corfforol a seicolegol defnyddwyr yn y dyfodol.
Mae rheolwyr a goruchwylwyr yn sicrhau bod adeiladau a gweithwyr yn ddiogel ac yn iach, bod gweithluoedd yn amrywiol ac yn gynhwysol, a bod deunyddiau’n dod o ffynonellau cynaliadwy. Mae adeiladwyr, gosodwyr, asiedyddion a gweithwyr proffesiynol eraill yn dod â dyluniadau da yn fyw, gan eu hadeiladu’n fedrus i gael canlyniadau cadarnhaol.
Rhan o amrywiaeth ac ystwythder y gwaith adeiladu yw bod cynifer o ffyrdd o wneud gwahaniaeth. Rhowch gynnig ar ein Chwilotwr Gyrfa i gael syniad o’r hyn a allai fod yn addas i chi.
Ymwybyddiaeth gymdeithasol, ac yn amgylcheddol gyfrifol
Mae cwmnïau adeiladu’n cydnabod bod y gwaith maen nhw’n ei wneud yn gallu trawsnewid ansawdd ein bywydau. Yn fwy nag erioed, maen nhw’n chwilio am ffyrdd gwell o gymryd cyfrifoldeb dros eu heffaith ar gymdeithas – a’r enw am hyn yn y diwydiant yw cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.
Nid mater o wneud y peth iawn yn unig yw hyn; mae’n ymwneud â sicrhau bod ffordd well a mwy cyfrifol o wneud busnes wrth galon gweithrediadau, er mwyn:
- gwella enw da
- cael mantais gystadleuol drwy ddatblygu cysylltiadau cadarnhaol gyda chymunedau
- lleihau risgiau
- lleihau costau
- codi ysbryd y gweithwyr.
Ond mae dilyn y llwybr cyfrifol yn dal i fod yn wirfoddol, ac mae llawer o le o hyd i wneud mwy – a dyna pam mae llawer o’r cwmnïau gorau eisiau pobl ifanc dalentog i helpu i gefnogi’r achos.
Gwneud gwahaniaeth
Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth enfawr – gan gynnwys unrhyw beth o ddefnyddio pren o ffynonellau cyfrifol i ddiffodd goleuadau’r swyddfa pan nad oes eu hangen. Ond mae cwmnïau adeiladu hefyd yn mynd i’r afael â rhai problemau mawr iawn.
Mae gwirio hunaniaeth gweithwyr adeiladu, er enghraifft, yn atal gweithio anghyfreithlon, a hefyd yn helpu i atal masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern – mater sy’n peri pryder yn y diwydiant.
Ar ben hynny, mae’r sector adeiladu yn ei gyfanrwydd yn cefnogi elusennau’r diwydiant i gefnogi pobl ddigartref ac agored i niwed. Er enghraifft, nod yr ymgyrch ‘Noddi Cartref’ yw rhoi bywyd newydd i eiddo adfeiliedig fel llety fforddiadwy i bobl ifanc sydd heb le diogel i fyw ynddo. Mae cynlluniau fel y rhain yn helpu i fynd i’r afael â digartrefedd ac yn mynd i’r afael â phroblem eiddo gwag hirdymor yn y DU.
Cymryd rhan
Gyda chymaint o yrfaoedd i’w dilyn, mae nifer o ffyrdd y gallech chi wneud gwahaniaeth ym maes adeiladu.
Dysgwch fwy am yr amrywiaeth enfawr o swyddi adeiladu sydd ar gael, neu rhowch gynnig ar ein cwis personoliaeth i gael gwell syniad o beth allai weithio i chi.