Lloegr
Gwneud cais am brentisiaethau yn Lloegr
Mae gosodwyr brics yn broffesiwn hanfodol yn y diwydiant adeiladu, sy’n gyfrifol am osod brics, blociau concrid a cherrig wedi’u torri ymlaen llaw mewn morter. Mae gosodwyr brics yn adeiladu, yn ymestyn ac yn atgyweirio adeiladau domestig a masnachol, a strwythurau eraill fel sylfeini, waliau, simneiau neu waith maen addurnol. Mae cyrraedd diwedd prosiect a gallu dweud ‘Fi wnaeth adeiladu hwn’ yn cynnig ymdeimlad o gyflawniad go iawn i osodwyr brics.
Yma byddwn yn edrych ar beth mae prentisiaethau gosod brics yn ei gynnig, yr amrywiaeth o brentisiaethau sydd ar gael, y sgiliau a’r profiad maen nhw’n caniatáu i chi eu datblygu, cyfleoedd datblygu gyrfa yn y dyfodol a llawer mwy.
Fel arfer bydd eich amser fel prentis gosod brics yn cael ei rannu rhwng eich cyflogwr a’ch darparwr hyfforddiant (fel coleg), gydag o leiaf 20% o’ch oriau gwaith arferol yn cael eu treulio ar hyfforddiant. Bydd eich darparwr hyfforddiant yn dweud wrthych chi pryd a ble fydd eich hyfforddiant.
Mae profiadau o brentisiaethau gosod brics yn amrywio yn dibynnu ar y cwmni rydych chi’n gweithio iddo. Bydd gweithio gyda chwmni sy’n adeiladu cartrefi o’r newydd yn arwain at brofiad gwahanol i weithio gyda chwmni sy’n canolbwyntio ar waith adnewyddu. Waeth ble rydych chi’n cwblhau eich prentisiaeth gosod brics, byddwch yn dysgu’r un sgiliau ac ymddygiad sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol wrth feithrin gwybodaeth am y diwydiant adeiladu ehangach.
Mae prentisiaethau gosod brics fel arfer yn cymryd rhwng 24 a 30 mis, yn dibynnu ar lefel y cymhwyster, y darparwr hyfforddiant neu’r cyflogwr.
Fel prentis gosod brics, mae gennych hawl i gael eich talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol – mae lefelau hyn yn dibynnu ar eich oedran.
Mae prentis gosod brics yn cael ei dalu am y canlynol:
Hefyd, mae gennych hawl i’r isafswm lwfans gwyliau o 20 diwrnod y flwyddyn ynghyd â Gwyliau Banc.
Y brentisiaeth Lefel 2 mewn gosod brics yw’r cymhwyster safonol y mae cyflogwyr yn ei gydnabod yn genedlaethol ac yn chwilio amdano.
Mae’n bosibl datblygu eich sgiliau ymhellach a dilyn prentisiaeth lefel 3 mewn gosod brics:
Mae Lefel 3 (neu uwch) yn cyfateb i ddwy radd Safon Uwch, ac mae llawer o osodwyr brics dan hyfforddiant sy’n cyrraedd y lefel hon yn mynd ymlaen i arbenigo mewn maes penodol, fel gwaith brics treftadaeth, neu hyd yn oed fynd i’r brifysgol.
Mae rhaglen brentisiaeth Gosod Brics Lefel 6 yr Alban yn cyfateb i’r brentisiaeth Lefel 2 mewn gosod brics yn Lloegr.
Mae’r cymhwyster Lefel 3 Adeiladu mewn Gosod Brics (neu Lefel 3 Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu) yng Nghymru yn cyfateb i’r brentisiaeth gosod brics Lefel 2 yn Lloegr.
Mae llawer mwy i fywyd fel briciwr na gosod brics – gadewch i ni edrych ar ba sgiliau hanfodol eraill y byddwch yn eu hennill yn ystod eich prentisiaeth gosod brics:
I fod yn friciwr, gallech:
Bydd angen i chi gael 2 TGAU neu fwy ar raddau 9-3 (A* i D) neu gymwysterau cyfatebol.
I fod yn friciwr, gallech:
Bydd angen 2 neu fwy o gymwysterau 5 yr Alban arnoch ar raddau A i D.
I fod yn friciwr, gallech:
Bydd angen i chi gael 2 TGAU neu fwy ar raddau 9-3 (A* i D) neu gymwysterau cyfatebol.
Bydd pob lefel o brentisiaeth yn gofyn i brentisiaid weithio ar safleoedd adeiladu, lle bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch.
Mae gosodwyr brics yn dda gyda’u dwylo, mae angen iddynt allu gweithio’n dda gydag eraill a rhoi sylw rhagorol i fanylion. Rhaid i chi fwynhau bod y tu allan gan fod gosodwyr brics yn gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd.
Mae gan y rheini sydd wedi cwblhau prentisiaeth gosod brics ddyfodol disglair o’u blaenau. Mae galw mawr am osodwyr brics cymwys yn y diwydiant adeiladu, felly bydd galw mawr amdanoch gan gyflogwyr. P’un ai a ydych chi eisiau gweithio ar ddatblygiadau tai mawr, gwaith adnewyddu masnachol neu waith brics treftadaeth – bydd prentisiaeth gosod brics yn agor llawer o ddrysau.
Hefyd, mae gosod brics yn cynnig cyflog cyfartalog o £38,000 yn y DU, gyda llawer o osodwyr brics profiadol yn ennill mwy na hyn.
Mae llawer o osodwyr brics cymwys yn mynd ymlaen i sefydlu eu busnesau eu hunain ym maes gosod brics. Neu maen nhw’n dod yn oruchwyliwr safle i hyfforddi prentisiaid gosod brics eraill neu’n arbenigo mewn adrannau eraill fel gwaith maen.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am brentisiaeth gosod brics, un o’r pethau gorau i’w wneud yw chwilio am swyddi gwag sy’n cael eu cynnig gan gwmnïau adeiladu lleol. Chwiliwch ar wefannau swyddi a defnyddiwch wasanaeth prentisiaethau y llywodraeth. Os ydych chi wedi cael rhywfaint o brofiad gwaith blaenorol mewn cwmni, gofynnwch a yw'n cyflogi unrhyw brentisiaid newydd. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am unrhyw rôl brentisiaeth, felly bydd angen i chi lunio CV, ysgrifennu llythyr eglurhaol a mynd i gyfweliad.
Gallech:
Dewiswch un o’r safleoedd postio swyddi isod i ddod o hyd i brentisiaethau gosod brics yn Lloegr, Cymru a’r Alban.