Balchder yn y diwydiant adeiladu: Hanes LGBTQ+ yn ein hadeiladau
Adeiladau yw’r cofnodion mwyaf amlwg sydd gennym o hanes dynol. Mae pob adeilad yn adrodd stori, er bod rhai o’r straeon hynny wedi cael eu hadrodd yn amlach ac yn fwy trylwyr nag eraill.
Yn aml, mae’r tai sydd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LHDTC+) wedi cael eu hanwybyddu, ond cywirwyd hyn dros y blynyddoedd diwethaf. Rhoddodd Historic England statws arbennig i nifer o adeiladau yn 2017, 50 mlynedd ers i gyfunrhywiaeth gael ei ddad-droseddoli’n rhannol yn y DU ym 1967, ac mae’r gydnabyddiaeth hon wedi parhau. Erbyn hyn, mae placiau glas yn olygfa gyffredin ar dai LDHTC+, ac mae sefydliadau fel English Heritage a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am yr adeiladau hyn.
Hanes LHDTC: Cartrefi Treftadaeth
34 Tite Street: Oscar Wilde
Ysgrifennodd y bardd a’r dramodydd Oscar Wilde ei weithiau enwocaf, fel The Importance of Being Earnest a The Picture of Dorian Gray yn ei dŷ yn Chelsea, Llundain. Dyma hefyd oedd lle y bu’n gwrthdaro gydag 8fed Marcwis Queensberry ym 1894, a arweiniodd at gael Wilde yn euog o anwedduster difrifol a’i garcharu yng Ngharchar Reading.
Neuadd Shibden: Anne Lister
Mae llawer yn ystyried mai Anne Lister (1791–1840) oedd ‘y lesbiad modern cyntaf’. Aeth ati i gofnodi ei pherthynas â menywod eraill mewn dyddiaduron hirfaith, wedi’u hysgrifennu mewn cod cyfrinachol na lwyddwyd i’w ddehongli tan y 1980au. Roedd hi’n canlyn ei chariadon benywaidd yn agored ac yn gwisgo dillad du a gwrywaidd unigryw. Mae ei chartref teuluol yn Neuadd Shibden, Halifax, yn blasty hanesyddol rhestredig Gradd II*. Ymddangosodd ar ddrama’r BBC, Gentleman Jack, a oedd yn adrodd stori Anne Lister a gafodd ei phortreadu gan Suranne Jones. Oherwydd poblogrwydd y plasty ar ôl y gyfres deledu, bu cynnydd enfawr yn nifer yr ymwelwyr i Neuadd Shibden.
Plas Newydd: Eleanor Butler a Sarah Ponsonby
Roedd Anne Lister yn adnabod dau lesbiad adnabyddus arall yn y cyfnod, sef Eleanor Butler a Sarah Ponsonby. Ym 1780 fe wnaeth Butler a Ponsonby ffoi o Iwerddon a dianc i Ogledd Cymru i sefydlu cartref gyda’i gilydd mewn bwthyn bach o’r enw Plas Newydd yn Llangollen.
Fe wnaethon nhw wella’r adeilad dros y 50 mlynedd y buon nhw’n byw yno, gan ychwanegu addurniadau Gothig, paneli derw, gwydr lliw, llyfrgell a gerddi hardd. Ar ôl hollti’r farn gyhoeddus drwy enyn yr un graddau o ddicter a chyfaredd, cafodd Butler a Ponsonby eu derbyn yn y pen draw. Daeth llawer o bobl enwocaf y cyfnod i’w gweld, gan gynnwys William Wordsworth, Dug Wellington a Syr Walter Scott – a rhoddodd y Brenin George III bensiwn i’w cynnal. Mae Plas Newydd bellach yn amgueddfa restredig Gradd II*.
Y Caban: Judith Ackland a Mary Stella Edwards
Y Caban, sydd wedi’i leoli ar arfordir Gogledd Dyfnaint, yn Bucks Mills oedd cartref a stiwdio haf y peintwyr Judith Ackland a Mary Stella Edwards. Cyfarfu Ackland ac Edwards yn Llundain fel myfyrwyr celf ac fe wnaethant fyw fel partneriaid am dros 50 mlynedd. Storfa fach i bysgotwyr yw’r Caban sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’n edrych bron yn union fel yr oedd pan adawodd Edwards y caban ar ôl marwolaeth Ackland ym 1971, ac ni wnaeth ddychwelyd. Heddiw, mae’n cael ei ddefnyddio gan artistiaid preswyl yn ystod misoedd yr haf.
Ham Spray House: Dora Carrington, Ralph Partridge, Lytton Strachey
Mae Ham Spray House yn ffermdy unig yn Berkshire a oedd yn gartref i dri aelod o grŵp anghonfensiynol Bloomsbury rhwng 1924 a 1961. Yno, daeth y triongl cariad cymhleth rhwng Dora Carrington, Ralph Partridge a Lytton Strachey o hyd i loches. Roedd yr awduron Partridge a Strachey yn gariadon, ond roedd Partridge a Carrington yn briod â’i gilydd; roedd Carrington hefyd mewn cariad â Strachey.
Bu farw Strachey a Carrington yn Ham Spray House ym 1932, ond parhaodd Partridge i fyw yno tan 1961. Roedd aelodau nodedig o set Bloomsbury yn ymweld â’r tŷ, ac ymddangosodd yn y ffilmCarrington ym 1995, gydag Emma Thompson a Jonathan Pryce yn serennu.
Smallhythe Place: Edy Craig
Roedd Edith (Edy) Craig yn ddramodydd swffragét, yn gyfarwyddwr theatr ac yn lesbiad a wnaeth lawer i hyrwyddo achos hawliau menywod ddechrau’r 20fed ganrif. Roedd hi’n ferch i Ellen Terry, a oedd yn actores enwog yn ystod Oes Fictoria, ac yn byw yn Smallhythe Place yng Nghaint, tŷ Tuduraidd a etifeddodd gan ei mam.
Ar y tiroedd, fe wnaeth Craig drawsnewid ysgubor to gwellt yn theatr lle bu’n cynnal dramâu ffeministaidd radical. Roedd Craig yn byw yn Smallhythe mewn ménage à trois gyda Christopher St John (ganed Christabel Marshall) a Clare ‘Tony’ Atwood. Mae’r tŷ a’r tiroedd yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae’n agored i’r cyhoedd.
Carlton House: Brenin Siôr IV
Carlton House ar y Mall oedd cartref y Rhaglyw Dywysog (1762-1830), a ddaeth yn George IV yn ddiweddarach. Roedd gan y Rhaglyw Dywysog ffordd o fyw afradlon, ac roedd yn gwario’n aruthrol ar ddodrefn, paentiadau, addurniadau wedi’u cerflunio ac adloniant. Yn sicr, roedd gan y llys a ymgasglai yn Carlton House y gair am fod yn un a ddenai rai o bobl fwyaf hylifol eu rhywedd y cyfnod. Yr enw a roddwyd iddo oedd ‘y cylch hoyw a di-galon hwnnw a ymgasglai o amgylch y Rhaglyw Dywysog yn y salonau eurog hynny’.
Un o’r digwyddiadau nodedig a gynhaliwyd yn Carlton House oedd gornest ffensio ym 1787 a oedd yn cynnwys y croeswisgwr androgynaidd, Chevalier d’Eon. Cafodd y tŷ ei ddymchwel ym 1825.
Adeiladau enwog gyda hanes LHDTC+
Gateways
Fyddai gan bobl sy’n mynd heibio i’r drws gwyrdd di-nod yn Chelsea heddiw ddim syniad mai dyma oedd unwaith y fynedfa i Gateways, clwb nos lesbiaidd cyntaf a’r un a barodd hiraf ym Mhrydain. Fe’i agorwyd ym 1931 a datblygodd i fod yn glwb hoyw a lesbiaidd yn bennaf yn y 1950au.
Roedd yn cael ei redeg gan Ted a Gina Ware ac roedd yn un o’r ychydig lefydd yn Llundain lle gallai aelodau o’r gymuned hoyw a lesbiaidd gwrdd a chymdeithasu’n agored. Ymddangosodd yn y ffilm The Killing of Sister George ym 1968 ac roedd yn boblogaidd gydag enwogion fel Diana Dors a Dusty Springfield. Honnwyd mai clwb Gateways oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gân ‘Green Door’.
Parc Bletchley
Cwt 8 ym Mharc Bletchley yw’r man lle gwnaeth y mathemategydd Alan Turing arwain ei dîm o dorwyr codau wrth iddynt lwyddo i dorri’r cod Enigma ym 1941. Carreg filltir a oedd yn ganolog i ganlyniad yr Ail Ryfel Byd. Yn ddiweddarach, cafodd Turing ei erlyn am weithredoedd cyfunrhywiol yn y 1950au a’i sbaddu’n gemegol. Mae bellach yn cael ei ystyried yn arwr a gafodd ei drin yn greulon gan ei wlad. Cyhoeddodd llywodraeth y DU ymddiheuriad yn 2009 a chafodd Turing bardwn ar ôl marwolaeth gan Frenhines Elizabeth II yn 2013. Mae Parc Bletchley ar agor i’r cyhoedd fel amgueddfa.
Pensaernïaeth LHDT
Mae’n bwysig cofio pwy oedd yn byw yn ble, a hefyd bod adeiladau wedi cael eu dylunio a’u hadeiladu gan bobl LHDT drwy gydol hanes. Mater i’w drafod yw p’un a oes y fath beth â ‘pensaernïaeth LHDT’ – arddulliau a dyluniadau sy’n adlewyrchu rhywioldeb y penseiri'n uniongyrchol.
Strawberry Hill
Mae’n debyg mai Strawberry Hill House yn Twickenham sydd yn y sefyllfa gryfaf i honni ei fod yn cynrychioli arddull o’r fath. Mae wedi cael ei alw’n ‘Gothig cwiar’ a dyma oedd cybolfa ymfflamychol y nofelydd Horace Walpole ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Mae’r tŷ ei hun yn gastell ffantasi gwyn gyda bylchfuriau, pinaclau, tyrau a ffenestri Gothig. Mae wedi’i addurno’n grand iawn.
Dydyn no ddim yn gwybod a oedd Walpole yn hoyw, ond cynlluniodd y tŷ gyda chymorth ‘Pwyllgor Chwaeth’, a oedd yn cynnwys sawl dyn di-briod a dynion eraill oedd â diddordeb mewn celf a steil. Roedd Walpole yn galw Strawberry Hill yn ‘yr addurn harddaf welsoch chi erioed’, ac mae’n dal i swyno llawer hyd heddiw. Mae’r tŷ a’i erddi hardd ar agor i’r cyhoedd, ac mae teithiau tywys ar gael yn rheolaidd.
Dylanwad dwys a pharhaol
Mae penseiri LHDT wedi gadael eu hargraff ar amrywiaeth eang o arddulliau.
O ychwanegiadau Gothig Anne Lister i Neuadd Shibden, i’r hyn a gyflawnodd Butler a Ponsonby ym Mhlas Newydd, mae rhai arbenigwyr yn gweld y rhain fel enghreifftiau o fath unigryw o bensaernïaeth LHDT, sy’n cydbwyso parchusrwydd â’r angen i fynegi eu hunain.
Ond mae straeon eraill hefyd. Roedd yr arloeswr hawliau hoyw cynnar, Edward Carpenter (1844–1929), yn byw’n agored gyda’i bartner a chynlluniodd dŷ bychan yng nghefn gwlad Swydd Derby a oedd yn hyrwyddo bywyd da a syml, a gweithgareddau fel crefftau a masnach-arddio.
Cafodd ei athroniaeth ddylanwad mawr ar ei gyfaill agos Syr Raymond Unwin (1863–1940), a gafodd ei ysbrydoli yn ei gynlluniau ar gyfer Letchworth Garden City a Hampstead Garden Suburb, gan siapio’r mudiad gardd-ddinasoedd.
Fe wnaeth Unwin hefyd lobïo’n gryf dros dai digonol i’r dosbarth gweithiol gyda thai y gellid eu hadeiladu’n gyflym ac yn rhad, a oedd yn cynnwys gerddi, preifatrwydd a digon o le – egwyddorion a oedd yn hynod ddylanwadol ar dai Prydain yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd.
LHDT yn y gweithle
Mae’r diwydiant adeiladu heddiw yn cofleidio amrywiaeth a chydraddoldeb LHDT, gyda strategaethau a pholisïau y eu lle i annog gweithlu cynhwysol, a gweithleoedd cyfartal a chefnogol.
Pan mae pobl yn teimlo’n gyfforddus i fod yn nhw eu hunain, mae cyflogwyr yn sicr o elwa o hynny. Mae amgylcheddau gwaith tecach a mwy cynhwysol yn gwneud synnwyr da o ran busnes, drwy gynyddu bodlonrwydd yn y swydd, cynhyrchiant, cyfraddau cadw staff, opsiynau recriwtio ac enw da’r brand.