Katherine Johnson
Katherine Johnson

Mae menywod mewn hanes a oedd eisiau gweithio ym maes peirianneg wedi wynebu gwrthwynebiad enfawr, rhagfarn a hyd yn oed wahaniaethu. Hyd yn oed pan oedd menywod yn gwireddu eu huchelgais, yn aml nid oedd eu cyflawniadau’n cael eu cydnabod mewn byd dan ddylanwad dynion. Ond mae gan beirianwyr benywaidd heddiw ddyled enfawr i’r menywod hyn – am eu dewrder, eu gwytnwch a’u dyfalbarhad, am y rhwydweithiau y gwnaethant eu ffurfio a’r canfyddiadau y gwnaethant helpu i’w newid. Wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg, mae darllen y straeon hyn am beirianwyr, dyfeiswyr a mathemategwyr benyw enwog yn hynod ddiddorol, yn gyffrous ac yn ysbrydoli. 

Ada Lovelace
Ada Lovelace

Ada Lovelace

Nid Google wnaeth ddyfeisio algorithmau. Maen nhw wedi bodoli ers cannoedd o flynyddoedd, ond cafodd un o’r algorithmau cyfrifiadurol cyntaf ei ddyfeisio gan fathemategydd benywaidd, Ada Lovelace (1815-1852). Roedd hi’n ferch i’r bardd yr Arglwydd Byron ond mae’n cael ei chofio ar ei haeddiant ei hun am ei gwaith ar gyfrifiadur mecanyddol cynnar o’r enw The Analytical Engine, a ddyluniwyd gan y dyfeisiwr Charles Babbage. Datblygodd algorithm a allai wneud cyfrifiadau cymhleth, a chredir mai dyma’r algorithm cyntaf i’w gyhoeddi a oedd wedi’i ddylunio ar gyfer cyfrifiadur. Roedd Lovelace yn un o enwogion cymdeithas yn ei chyfnod, ond ni chafodd ei chyfraniad enfawr i gyfrifiadura ei gydnabod tan y 1950au, ganrif ar ôl iddi farw.

 

Emily Warren Roebling

Nid oedd Emily Warren Roebling (1843-1903) wedi hyfforddi fel peiriannydd, ond roedd ganddi rôl enfawr yn y gwaith o adeiladu Pont Brooklyn yn Efrog Newydd. Ei gŵr, Washington Roebling, oedd prif beiriannydd y bont, ond pan gafodd ef ei daro’n wael, Emily a gymerodd yr awenau i raddau helaeth. Daeth yn arbenigwr ar ddadansoddi straen ac adeiladu ceblau, ac i bob pwrpas daeth yn brif beiriannydd ar y prosiect. Pan agorwyd y bont yn 1883, Emily oedd y person cyntaf i’w chroesi, gan ddal ceiliog byw ar ei glin fel arwydd o fuddugoliaeth. Er bod y plac coffa yn hepgor enw Emily, cafodd y bont ei chanmol gan aelod o Gyngres yr Unol Daleithiau fel “cofeb barhaol i ymroddiad aberthol menyw a’i gallu i ffynnu ar yr addysg uwch honno y mae wedi’i heithrio ohoni ers gormod o amser.”

 

Edith Clarke

Roedd Edith Clarke (1883-1959) yn arloeswr gwirioneddol. Nid yn unig y dyfeisiodd gyfrifiannell Clarke, un o'r cyfrifianellau graffio cyntaf, ond hi oedd y fenyw gyntaf i weithio fel peiriannydd trydanol yn yr Unol Daleithiau, y gyntaf i gyflwyno papur yn Sefydliad Peirianwyr Trydanol America, a'i Gymrawd benywaidd cyntaf. Drwy gydol ei gyrfa, cafodd ei gwrthod a chanfu mai prin oedd y cyfleoedd i fenywod mewn peirianneg sifil a pheirianneg drydanol. I ddechrau, ni chaniatawyd i Clarke weithio fel peiriannydd trydanol yn General Electric nes iddynt, o’r diwedd, sylweddoli bod hynny’n gam gwag. 

Yn 1948, dywedodd Clarke: “Nid oes galw am beirianwyr benywaidd, fel y cyfryw, fel sydd yna am feddygon sy’n fenywod; ond mae galw bob amser am unrhyw un sy’n gallu gwneud darn da o waith”.

 

Hilda Counts

‘Nid oes gennym nawr, nid ydym erioed wedi cael, ac nid ydym yn disgwyl cael yn y dyfodol agos, unrhyw fyfyrwyr benywaidd wedi cofrestru yn ein hadran peirianneg’. Derbyniodd Hilda Counts (1893-1989) lythyrau di-rif fel y rhain pan oedd yn ceisio ffurfio Cymdeithas Peirianwyr a Phenseiri Benywaidd America yn 1919. Daliodd ati, er gwaethaf gwrthwynebiad academyddion gwrywaidd, a daeth y gymdeithas broffesiynol a sefydlodd yn ysbrydoliaeth i Gymdeithas y Peirianwyr Benywaidd, corff yn yr Unol Daleithiau sy’n dal i fynd yn gryf heddiw. Counts oedd y fenyw gyntaf i raddio mewn peirianneg drydanol o Brifysgol Colorado, ac mae ei hymdrechion i greu rhwydwaith peirianneg i fenywod yn ei gwneud yn arloeswr go iawn.

 

Elsie Eaves

Elsie Eaves (1898-1983) oedd peiriannydd sifil benywaidd cyntaf America, a’r fenyw gyntaf i gael ei derbyn fel aelod llawn o Gymdeithas Peirianwyr Sifil America. Roedd hi ym Mhrifysgol Colorado ar yr un pryd â Hilda Counts, ac roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Peirianwyr Benywaidd yn 1950. Fel peiriannydd strwythurol, bu Eaves yn gweithio ar lawer o brosiectau seilwaith mawr, yn cynnwys Argae Hoover, gan arbenigo mewn peirianneg costau ar gyfer trafnidiaeth a thai. Bu’n cyfrannu at Engineering News-Record, cyhoeddiad masnach, am 37 o flynyddoedd. Yn ddiweddarach yn ei bywyd, daeth Eaves yn fentor ac yn ysbrydoliaeth i beirianwyr benywaidd ifanc.

Argae Hoover, un o’r prosiectau peirianneg y bu Elsie Eaves yn gweithio arno yn ystod ei gyrfa
Argae Hoover, un o’r prosiectau peirianneg y bu Elsie Eaves yn gweithio arno yn ystod ei gyrfa

Mary Blade

Sut brofiad yw bod yr unig fenyw ar gwrs peirianneg neu'r unig academydd benywaidd ar gampws? Byddai Mary Blade (1913-1994) wedi gwybod yn union sut mae hynny’n teimlo, gan mai hi oedd y fenyw gyntaf i gael gradd mewn peirianneg o Brifysgol Utah (cafodd ei rhieni eu syfrdanu pan glywsant nad economeg cartref fyddai prif faes gradd Mary) a’r unig fenyw yn y gyfadran yn y Cooper Union for the Advancement of Science and Art, coleg preifat yn Efrog Newydd. Bu yno yn athro peirianneg fecanyddol rhwng 1946 a 1978 ac roedd yn ffigwr allweddol arall yn natblygiad Cymdeithas y Peirianwyr Benywaidd.

Hedy Lamarr

Mae’n un o’r straeon mwyaf annhebygol yn hanes peirianneg. Roedd Hedy Lamarr (1914-2000) yn un o sêr ffilmiau disglair Hollywood y 1930au a’r 1940au, yn perfformio mewn ffilmiau ochr yn ochr â James Stewart, Clark Gable a Judy Garland, ymysg eraill. Ond roedd gan Lamarr dalentau eraill a defnyddiodd yr amser segur ar setiau ffilm i ddatblygu ei gwybodaeth o beirianneg a gweithio ar ddyfeisiadau. Yn fwyaf enwog, ym mlynyddoedd cynnar yr Ail Ryfel Byd, cyflwynodd batent ar gyfer system ‘hopian amleddau’ a fyddai’n atal systemau cyfarwyddo torpidos rhag cael eu jamio gan weithredwyr radio. Cafodd y ddyfais ei defnyddio gan Lynges UDA yn ystod Argyfwng Taflegrau Ciwba, ac mae ei chyfraniad i’r maes hwn o dechnoleg sbectrwm eang bellach yn cael ei gydnabod fel un hynod o bwysig.

Hedy Lamarr
Hedy Lamarr

Cicely Thompson

Ar ôl dilyn gradd mewn mathemateg yng Ngholeg Girton, Caergrawnt, newidiodd Cicely Thompson (1919-2008) i beirianneg drydanol yn gynnar yn ei gyrfa. Gwnaeth ei henw ym maes peirianneg niwclear. Roedd Thompson ar y timau a ddyluniodd orsafoedd pŵer niwclear Hinckley Point B a Dungeness yn y 1950au a’r 1960au a chafodd MBE am ei gwaith yn y diwydiant pŵer niwclear. Bu’n Llywydd Cymdeithas Peirianneg y Menywod ddwywaith ac roedd hi’n sicr yn llysgennad cynnar dros ei phroffesiwn. Cyflwynodd Thompson ddarlithoedd Verena Holmes o gwmpas y DU yn 1972, a oedd yn annog menywod a merched ifanc i ddilyn gyrfaoedd ym maes peirianneg.

 

Katherine Johnson

Roedd Katherine Johnson (1919-2020) eisiau bod yn fathemategydd o oedran cynnar, ond fel menyw Affricanaidd-Americanaidd roedd popeth yn ei rhwystro. Mae ei stori yn un o athrylith unigol na ellid ei hanwybyddu. Gweithiodd Johnson yn NASA yn ystod y rhaglen ofod, gan arbenigo mewn mecaneg gylchdroadol. Gwnaeth waith hynod o bwysig, yn cyfrifo trywydd a ffenestr lansio llongau gofod yn ystod nifer o deithiau, gan gynnwys teithiau cyntaf UDA i’r gofod gyda gofodwyr a glaniadau Apollo 11 ar y lleuad. I gyd ar adeg o arwahanu a gwahaniaethu hiliol dwys: cyn Johnson, nid oedd yr un fenyw wedi cael gweld ei henw wedi’i argraffu ar adroddiad NASA yr oedd wedi cyfrannu ato.

Fe wnaeth hi yn wir fynd i le nad oedd unrhyw fenyw wedi mynd iddo o’r blaen.

 

Yvonne Clark

Menyw arall a brofodd ragfarn sylweddol yn ei gyrfa oedd Yvonne Clark (1929-2019). Ei huchelgais oedd bod yn beilot, ond ni chafodd gofrestru mewn dosbarth lluniadu mecanyddol yn yr ysgol uwchradd oherwydd ei rhyw. Cafodd Clark ei derbyn ym Mhrifysgol Louisville ond nid oedd modd iddi fynd yno oherwydd arwahanu. Hi oedd y fenyw gyntaf i raddio mewn peirianneg fecanyddol o Brifysgol Howard, a hi oedd yr aelod benywaidd cyntaf o gyfadran peirianneg Prifysgol Talaith Tennessee, gan ddod yn athro a chadeirio’r adran peirianneg fecanyddol ddwywaith. Yn ystod ei gyrfa, bu hefyd yn gweithio yn NASA.

Dysgwch fwy am beirianwyr benywaidd enwog a dod yn rhan o ddyfodol menywod ym maes peirianneg gydag Am Adeiladu

Dysgwch fwy am rôl menywod ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg, a chael gwybod sut gallwch chi greu eich gyrfa eich hun ym maes peirianneg, gyda’r adnoddau hyn gan Am Adeiladu.