Dysgwch fwy am y gwahanol grwpiau ethnig sy’n helpu i amrywio’r diwydiant adeiladu
Dysgwch am rwydweithiau sy’n newid y cyd-destun ar gyfer cynrychioli pobl o leiafrifoedd ethnig wrth ddylunio ac adeiladu ein hamgylchedd adeiledig.
Mae mwy o bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn dewis gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu, ac yn llwyddo.
Mae hyn yn newyddion da nid yn unig i weithwyr ond hefyd i’r diwydiant yn gyffredinol. Mae rhagor o amrywiaeth yn gosod cylch rhinweddol ar waith, gan wneud cwmnïau’n fwy deniadol i ystod ehangach o unigolion talentog.
Mae’r un cwmnïau’n dod yn fwy deniadol i gleientiaid ac yn fwy cystadleuol hefyd, oherwydd bod eu sylfaen cwsmeriaid yn cael ei chynrychioli’n well.
Gall eu gweithluoedd ddefnyddio rhagor o brofiadau a safbwyntiau ehangach i gynhyrchu syniadau gwell a symud ymlaen yn gyflymach.
Mae rhai o adeiladau mwyaf eiconig y DU dros y blynyddoedd diwethaf wedi dod o fyrddau lluniadu penseiri ethnig leiafrifol, er mai dim ond tua 6% o’r rhai yn y proffesiwn sy’n dod o gefndiroedd ethnig leiafrifol.
Er enghraifft, ffrwyth dychymyg Zaha Hadid (1950-2016) oedd llinellau a chromlinau dramatig Canolfan Chwaraeon Dŵr Llundain, a welir uchod, a adeiladwyd ar gyfer Gemau Olympaidd 2012. Enillodd y pensaer Prydeinig, a anwyd yn Iraq, wobr uchaf pensaernïaeth, Gwobr Stirling, ddwywaith, a hi yw’r unig ferch sydd wedi derbyn y Fedal Aur Frenhinol, sydd wedi cael ei dyfarnu ers 1848 i’r penseiri gorau a mwyaf dylanwadol yn y byd.
Efallai mai ysgogwr pennaf amrywiaeth ym maes dylunio pensaernïol yw Tara Gboladé, grym blaenllaw ym maes pensaernïaeth ym Mhrydain a enillodd wobr Rising Star RIBA yn 2018. Mae ei hymarfer, Gbolade Design Studio, wedi meithrin enw da drwy brosiectau cynaliadwy, gan arbenigo mewn datblygiadau sy’n canolbwyntio ar rymuso cymunedau.
Mae Gboladé hefyd yn weithgar yn Rhwydwaith Paradigm, sefydliad sy’n helpu i gefnogi a hyrwyddo gwaith penseiri ethnig leiafrifol, gan ddarparu cyfleoedd rhwydweithio a sicrhau bod pobl fedrus fel hi yn gwireddu eu potensial.
Roedd Simone de Gale, enillydd gwobr Pensaer y Flwyddyn yng Ngwobrau Merched mewn Adeiladu 2017, yn gwybod yn 10 oed mai pensaer fyddai hi. Roedd ei thaid yn bensaer adnabyddus yn Jamaica, ac mae aelodau eraill o’r teulu hefyd yn gweithio ym maes adeiladu.
Mae hanes pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol hefyd ynghlwm wrth amgylchedd adeiledig Prydain, sydd am gannoedd o flynyddoedd wedi dal straeon am filiynau lawer o bobl ar yr ynys hon ac ar draws y byd sydd â chysylltiadau â Phrydain.
Mae henebion a cherfluniau ledled y wlad yn brawf o orffennol cyffredin, gan gynnwys sawl un a gafodd statws rhestredig yn ddiweddar i gydnabod eu pwysigrwydd i hanes pobl Ddu ac ethnig leiafrifol. Maen nhw’n cynnwys penddelw Nelson Mandela y tu allan i’r Royal Festival Hall, a’r tirnod o’r 1980au, Canolfan Hamdden Brixton, y ddau yn Llundain.
Fodd bynnag, mae hanes a chyflawniadau lleiafrifoedd ethnig yn dal i gael eu tangynrychioli’n fawr. Dywedodd English Heritage yn 2020 fod llai na 4% o’i blaciau yn coffáu adeiladau sydd wedi’u gwneud yn nodedig gan bobl ethnig leiafrifol.
Ychydig sy’n sylweddoli hyn, ond mae un o’r motiffau pensaernïol mwyaf amlwg a ddefnyddir mewn mynwentydd, cofebion ac fel canolbwynt i rai o dai gwledig mwyaf mawreddog y wlad, yn tarddu o Affrica. Enghraifft wych yw’r obelisg yn Kingston Lacy yn Dorset.
Yn debyg i byramid estynedig, roedd yr obelisg yn cael ei ddefnyddio gan yr Eifftwyr gynt wrth fynedfeydd temlau. Cafodd Nodwydd Cleopatra ei chyflwyno i’r DU yn 1819 ond cyn hynny roedd yn sefyll yn Heliopolis yn yr Aifft ers tua 1450 CC, gan ragflaenu’r frenhines enwog o bron i 1,500 o flynyddoedd.
At rywbeth mwy modern o lawer, saif teml garreg Hindŵaidd draddodiadol gyntaf Ewrop yn Neasden, yng ngogledd-orllewin Llundain.
Pan gafodd ei adeiladu yn 1995, BAPS Shri Swaminarayan Mandir oedd y deml Hindŵaidd fwyaf y tu allan i India, yn cynnwys bron i 5,000 tunnell o galchfaen a marmor, yn ogystal â 4,500 tunnell o goncrid yn ei sylfaen 6 troedfedd o drwch. Gyda chymorth tîm o 1,526 o gerflunwyr a seiri maen, dim ond dwy flynedd a gymerwyd i gwblhau’r deml enfawr.
Mae’r diwydiant adeiladu’n gweithio’n well gyda gweithluoedd ethnig amrywiol. Mae deddfwriaeth cydraddoldeb nid yn unig yn gwahardd gwahaniaethu ond hefyd yn galluogi cyrff cyhoeddus i ddefnyddio caffael i hybu amrywiaeth a chreu cyfleoedd i bobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol.
Dysgwch am y problemau sy’n dal yn wynebu’r diwydiant adeiladu, pam mae gweithlu amrywiol mor bwysig, a’r ymdrechion sy’n cael eu gwneud i wella cyfleoedd gyrfa i bobl o grwpiau ethnig.
Gallwch ddod yn rhan o weithlu gwirioneddol amrywiol a chynhwysol drwy gael gyrfa yn y maes adeiladu.
Mae yna gannoedd o swyddi adeiladu a gyrfaoedd cyffrous i ddewis o’u plith. Dysgwch fwy gyda’n Chwilotwr Gyrfa neu rhowch gynnig ar ein Cwis Gorau Erioed i gael gwell syniad o’r hyn a allai weithio i chi.