Sut y gallwch chi hyrwyddo amrywiaeth
Sut dylen ni hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach? Dylai gwahaniaethau pawb gael eu cydnabod, eu parchu a’u gwerthfawrogi. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn rhoi dealltwriaeth inni o’r hyn y mae gwahaniaethu yn ei olygu, ond mae pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu i hyrwyddo amrywiaeth yn y diwydiant adeiladu.
Y Ddeddf Cydraddoldeb
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu gweithwyr rhag unrhyw fath o aflonyddu, gwahaniaethu a bwlio yn y gweithle. Dylai pawb deimlo eu bod yn cael eu derbyn a’u diogelu ym mhob agwedd ar eu bywyd, gan gynnwys yn y gwaith, mewn addysg, fel cwsmer, wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus, wrth brynu neu rentu eiddo, neu fel aelod neu westai i gymdeithas.
Mae’n bwysig bod cyflogwyr yn creu diwylliant cynhwysol yn y gweithle sy’n gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu diogelu rhag gwahaniaethu.
Fodd bynnag, gall cyflogwyr fynd ymhellach, fel y dywedodd yr arbenigwr amrywiaeth a chynhwysiant, Verna Myers: ‘Amrywiaeth yw cael eich gwahodd i’r parti; cynhwysiant yw cael eich gwahodd i ddawnsio’.
Sut i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle
Yn ôl arolwg yn 2021 a gynhaliwyd gan gwmni meddalwedd AD Ciphr, dywedodd 36% o oedolion y DU eu bod wedi profi rhyw fath o wahaniaethu yn y gweithle. Cymerodd 2,000 o bobl ran yn yr arolwg, a ganfu hefyd mai'r nodwedd fwyaf cyffredin y gwahaniaethwyd yn ei herbyn oedd oedran.
Mae llawer o ffyrdd y gallwch hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle, ysgol/coleg neu o fewn eich cymuned.
- Meddyliwch am yr hyn y mae amrywiaeth yn ei olygu i chi
Sut ydych chi am iddo gael ei ddangos yn eich cymuned neu weithle? Os ydych chi'n gwybod beth rydych chi ei eisiau ac yn angerddol am y syniad hwn, bydd pobl yn fwy tebygol o ymuno â chi yn eich gweledigaeth.
- Rhoi polisïau cydraddoldeb ar waith
Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl weithwyr yn cael eu trin yn deg ym mhob gweithgaredd o ddydd i ddydd a phenderfyniadau sy'n ymwneud â gwaith.
- Adrodd ar unrhyw achosion o wahaniaethu, p’un a ydych yn ei weld, yn ei glywed neu’n darllen amdano
Gwybod eich hawliau! Waeth beth fo hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, neu gefndir cymdeithasol neu economaidd rhywun, ni ddylent byth gael eu gwneud i deimlo’n israddol neu’n is na rhywun arall. Siaradwch â'ch cyflogwr am unrhyw achosion o wahaniaethu yr ydych yn eu profi eich hun neu'n dyst iddynt. Os ydych chi hefyd yn ddigon anffodus i fod yn ddioddefwr trosedd casineb, adroddwch hyn i'r heddlu a dewch o hyd i bobl eraill y gallwch chi siarad yn hyderus â nhw rydych chi'n ymddiried ynddynt.
- Gwneud penderfyniadau recriwtio ar sail teilyngdod
Os ydych yn rhan o broses recriwtio, sicrhewch fod gennych feini prawf a systemau yn eu lle sy’n gwarchod rhag gwahaniaethu
- Gonestrwydd sy’n talu orau
Os ydych chi'n llenwi arolwg sy'n gofyn am eich barn ar amrywiaeth, byddwch yn onest. Mae cael llawer o syniadau a meddyliau am bwnc amrywiaeth yn ddefnyddiol i gwmnïau oherwydd mae'n golygu eu bod yn gwybod lle gallant wella a chryfhau.
Awgrymiadau defnyddiol i greu gweithle cynhwysol
Dim ond rhai o’r newidiadau y gallai cyflogwr cynhwysol eu cyflwyno i wneud eu gweithle’n wirioneddol gynhwysol yw’r syniadau canlynol:
- Sicrhau bod staff yn teimlo bod eu lleisiau’n cael eu clywed – gallai hyn fod drwy sesiynau adborth rheolaidd, arolygon staff neu gyngor sy’n cael ei redeg gan staff
- Defnyddio iaith gynhwysol – gofynnwch sut mae eich cyd-weithiwr eisiau cael ei adnabod (ei/eu/ef/hi), ac osgoi ymadroddion y gellid eu dehongli fel rhai gwahaniaethol
- Mannau diogel – gwnewch amgylchedd y gweithle yn un lle mae grwpiau lleiafrifol neu grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn teimlo’n gyfforddus a bod eu hanghenion yn cael eu bodloni’n llawn.
- Creu cynllun cyngrheiriaid – mynd ati i gefnogi cydweithwyr a allai deimlo effaith gwahaniaethu neu ragfarn anymwybodol, megis y rhai o’r gymuned LHDTC+
- Darparu hyfforddiant amrywiaeth – hyfforddiant i weithwyr sy’n codi ymwybyddiaeth o ddiwylliannau gwahanol, sut i ymgysylltu â chyd-weithwyr o wahanol gefndiroedd, a lleihau rhagfarn a gwahaniaethu
- Polisi dim gwahaniaethu – polisi ffurfiol sy’n ymdrin â recriwtio a rhyngweithio rhwng staff o ddydd i ddydd
Beth mae gwahaniaethu yn ei olygu?
Gwahaniaethu yw pan fyddwch chi neu rywun arall yn cael eich trin yn annheg oherwydd rhagfarn a all fod gan unigolyn neu grŵp o bobl yn eich erbyn. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn manylu ar naw maes lle gall gwahaniaethu ddigwydd - a elwir yn ‘nodweddion gwarchodedig’. Y rhain yw:
- Oedran
- Bod neu ddod yn berson trawsrywiol
- Bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- Bod yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth
- Anabledd
- Hil gan gynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol
- Crefydd, cred neu ddiffyg crefydd/cred
- Rhyw
- Cyfeiriadedd rhywiol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am amrywiaeth neu gymryd rhan mewn gwaith sy'n hyrwyddo, mae yna lawer o sefydliadau sy'n chwilio am wirfoddolwyr. Mae’r canlynol yn rhai o’r grwpiau blaenllaw, ond mae llawer o rai eraill y gallwch ymuno â nhw sy’n chwilio am gymorth gyda digwyddiadau, codi arian neu hyrwyddo eu hachos yn gyffredinol.
- Stonewall – eu cenhadaeth yw hyrwyddo amrywiaeth ym mhob grŵp pobl o fewn cymunedau, gweithleoedd a sefydliadau
- Equally Ours – rhwydwaith cenedlaethol o sefydliadau cydraddoldeb a hawliau dynol (y Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth gynt)
- Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth – elusen sy'n helpu busnesau a sefydliadau i ddatblygu ac ymgorffori cydraddoldeb a thegwch yn eu hethos a'u harferion trwy ddysgu a datblygu.
Darganfyddwch fwy am amrywiaeth mewn adeiladu heddiw
Rydym yn falch o’r gweithlu amrywiol sy’n helpu i wneud adeiladu yn fwy adlewyrchol o’r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi. Dysgwch fwy am pam mae amrywiaeth yn bwysig a’r bobl sydd wedi bod yn arloeswyr dros newid yn hanes adeiladu.