Adeiladu a rhyw
Mae’n hanfodol bwysig bod cydraddoldeb rhywiol yn parhau i wella yn y diwydiant adeiladu. Menywod yw 14% o’r gweithlu adeiladu, ond erys camsyniadau ynghylch agweddau rhywedd yn y diwydiant.
Menywod yn y diwydiant adeiladu
Mae denu mwy o fenywod i yrfa mewn adeiladu yn hanfodol os ydym am gau'r prinder sgiliau. Mae menywod, a phobl sy'n ystyried eu hunain yn fenywod, yn dod ag ystod amrywiol o sgiliau a fydd o fudd i gyflogwyr ac yn cyfoethogi'r diwydiant adeiladu.
Mae amrywiaeth enfawr o rolau ar gael i fenywod ym maes adeiladu, o osod brics i dirfesur, peirianneg sifil i reoli iechyd a diogelwch. Mae menywod yn canfod eu ffordd i mewn i'r diwydiant trwy nifer o lwybrau, gan gynnwys prentisiaethau, swyddi dan hyfforddiant a chynlluniau graddedigion.
Amrywiaeth rhyw mewn adeiladu
Dylai pobl drawsrywiol ac anneuaidd hefyd deimlo bod croeso iddynt yn y diwydiant adeiladu. Yn anffodus, mae gwahaniaethu ac agweddau hen ffasiwn wedi bod yn gyffredin. Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth o amrywiaeth rhyw yn cynyddu. Mae straeon pobl sy'n uniaethu'n wahanol i ryw eu geni yn cael eu clywed yn gynyddol yn y diwydiant adeiladu.
Mae rhwydweithiau LHDT+ yn tyfu ar draws y diwydiant, ac mae Fframwaith Byddwch yn Deg CITB yn darparu dull strwythuredig o ddatblygu tegwch, cynhwysiant a pharch ym maes adeiladu.
“Ond nid gwaith menyw ydyw?”
Ers gormod o amser, mae'r diwydiant adeiladu wedi gweithio o dan stereoteip y safle adeiladu lle mae dynion yn bennaf. Roedd gwisg diogelwch yn cael ei wneud i ffitio dynion, nid merched; roedd offer yn rhy drwm ac yn arwain at fwy o anafiadau ar y safle i fenywod.
Ond mae pethau'n newid. Mae menywod yn cael eu hannog yn gadarnhaol i wneud cais am rolau ar y safle, mae PPE bellach wedi'i deilwra ar gyfer menywod ac mae 37% o unigolion newydd i’r diwydiant adeiladu o addysg uwch yn fenywod. Nid yw bellach yn dderbyniol i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn menywod sy'n gweithio yn y diwydiant.
Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Mae angen gwneud mwy o waith i fynd i'r afael â'r gwahaniaethau o ran faint o dâl a gaiff menywod o gymharu â dynion ym maes adeiladu. Mewn arolwg yn 2019, y bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau yn y DU oedd 18%, ond yn y diwydiant adeiladu roedd yn waeth, ar 20%. Ar lefel mynediad, roedd menywod yn cael eu talu 3.5% yn llai na dynion, a gall gyrraedd 23% ar gyfer gweithwyr rhwng 46-65 oed.
Mae angen i fwy o amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle gyd-fynd ag ymrwymiad i fwy o gydraddoldeb o ran y ffordd y caiff menywod eu talu. Po fwyaf o fenywod sy'n gweithio ym maes adeiladu, y mwyaf o lais a chynrychiolaeth fydd ganddynt.
Straeon bywyd go iawn
Gallwch glywed gan fenywod sy'n gwneud swyddi go iawn yn y diwydiant adeiladu ar hyn o bryd.
Fideos o Fenywod yn y Diwydiant Adeiladu (Pam Bod Mwy o Fenywod yn Ymuno?) | Am Adeiladu (goconstruct.org) <https://www.goconstruct.org/cy-gb/pam-dewis-adeiladu/amrywiaeth-yn-y-diwydiant-adeiladu/menywod-yn-y-diwydiant-adeiladu/>