Adeiladu a LGBTQ+
Mae’r diwydiant adeiladu wedi ymrwymo i groesawu amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant, ac i greu amgylchedd gwaith lle gall y gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol, Cwiar a Mwy (LHDTC+) deimlo eu bod yn cael eu parchu a’u bod yn ddiogel, yn ogystal ag yn ffynnu ac yn llwyddo. Cyflawnir hyn drwy roi strategaethau ar waith, fel rhwydwaith cynghori ar draws y diwydiant, ond hefyd drwy ddathlu digwyddiadau fel Mis Balchder.
Beth yw Mis Balchder?
Mae Mis Balchder yn fis pan ddaw’r gymuned LDHTC+ at ei gilydd i ddathlu ei hamrywiaeth, ei chydraddoldeb, ei hunaniaeth, ei hawliau ac, yn anad dim, ei balchder.
Ym mha fis mae Mis Balchder?
Cynhelir Mis Balchder ym mis Mehefin bob blwyddyn. Mae gorymdeithiau, gwyliau a dathliadau Balchder mawr mewn dinasoedd ar draws y byd, lle mae pobl o bob rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol yn dod at ei gilydd, yn mwynhau eu hunain, yn dathlu eu gwahaniaethau ac yn codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar y gymuned LHDTC+.
Gweithleoedd cynhwysol: pawb ar eu hennill
Mae ymchwil wedi dangos bod gwneud y gweithle’n fwy cynhwysol ar gyfer gweithwyr LHDTC+ yn dod â llawer o fanteision i fusnesau, gan gynnwys:
- Gwell bodlonrwydd yn y swydd a gwell cynhyrchiant ymysg yr holl staff
- Dewis ehangach wrth recriwtio staff
- Yn well am gadw staff
- Gwella enw da’r cwmni – mae cynulleidfaoedd heterorywiol hefyd yn edrych ar record busnesau o ran amrywiaeth
Darperir dull strwythuredig o ddatblygu tegwch, cynhwysiant a pharch mewn cwmnïau adeiladu gan Fframwaith Be FaIR CITB. Ei nod yw creu gweithleoedd lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu cefnogi. Cyflawnir hyn drwy adnoddau rhad ac am ddim sy’n edrych ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a sut i roi hyn ar waith yn effeithiol yn y gweithle.
Mae llawer mwy o waith i’w wneud o hyd, ond ni ddylai gweithwyr o’r gymuned LHDTC+ barhau i deimlo nad ydyn nhw’n perthyn i’r diwydiant adeiladu.
Polisi Dim Sefyll a Gwylio
Mae llawer o gyflogwyr yn mabwysiadu polisi “dim sefyll a gwylio” i annog pobl i herio’r rheini sy’n defnyddio iaith sarhaus – boed hynny’n ddiniwed neu’n fwriadol.
Modelau rôl
Gan eu bod yn perthyn i’r gymuned ei hun, anogir staff LDHTC+ i fod yn fodelau rôl a rhoddir amser iddynt i ysbrydoli eraill, gan atal gweithwyr rhag teimlo’n ynysig.
Cyflogwyr cynhwysol
Dim ond swyddi gan gwmnïau sydd â pholisïau cynwysoldeb sefydledig sy’n cael eu rhestru ar y safle LGBT Jobs. Mae’n cynnwys swyddi o sawl sector, gan gynnwys adeiladu.
Arolygon a dylanwad
Mae staff yn llenwi arolygon dienw, gyda chwestiynau am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth drawsryweddol, er mwyn iddynt allu rhannu eu barn am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Defnyddir yr adborth i helpu i lunio polisïau a chynlluniau ar gyfer y cwmni cyfan.
Adeiladu cydraddoldeb
Mae’r rhwydwaith cynghori ar draws y diwydiant yn cynnig lle cefnogol, diogel a chyfrinachol i gyfarfod, i rannu ac i drafod safbwyntiau, profiadau neu bryderon. Ei nod yw codi proffil gweithwyr proffesiynol LHDTC+ ym maes adeiladu a gweithredu fel cynghorydd ar ddefnydd y gymuned LHDTC+ o seilwaith.
Hyfforddiant i fynd i’r afael â rhagfarn ddiarwybod
Gellir hefyd cynnig hyfforddiant a gweithdai ar ragfarn ddiarwybod. Rhagfarn ddiarwybod yw pan fyddwn ni’n barnu ein gilydd yn annheg ar sail anwybodaeth, gan ruthro i gasgliadau, sy’n aml yn arwain at wneud dewisiadau gwael, anghywir neu ragfarnllyd.
Sut alla i greu gweithle cynhwysol?
Bod yn agored am gynhwysiant gyda gweithwyr newydd yw’r cam cyntaf tuag at greu gweithle sy’n barchus, yn groesawgar ac yn amrywiol. Gall busnesau roi rhai strategaethau eraill ar waith er mwyn gwneud eu hamgylchedd gwaith yn fwy cynhwysol.
- Gwneud cynhwysiant yn rhan allweddol o’ch rhaglen gynefino
- Creu polisi trawsnewid os nad oes un yn bodoli'n barod
- Datblygu rhaglen ‘cynghreiriad’ – lle mae staff o’r tu allan i’r gymuned LHDTC+ yn cefnogi aelodau’r gymuned honno
- Cefnogwch eich staff pan fydd angen amser o’r gwaith arnynt i gymryd rhan mewn dathliadau crefyddol neu ddiwylliannol
- Rhagenwau – rhoi’r opsiwn i weithwyr ddefnyddio’r rhagenw sydd orau ganddynt – ‘ef’, ‘hi’, ‘nhw’ neu rywbeth o’u dewis eu hunain
- Byddwch yn sensitif gyda’ch defnydd o iaith o amgylch rhywedd – efallai na fyddwch chi’n gwneud hynny’n fwriadol, ond gall termau cyffredinol fel ‘boneddigesau’ neu ‘boneddigion’ achosi tramgwydd
Un o’r pethau pwysicaf y gall cyflogwyr ei wneud yw addysgu eu hunain yn well yn iaith y gymuned LHDTC+, a deall y termau a’r derminoleg LHDTC sy’n cael eu defnyddio i ddisgrifio materion sy’n ymwneud â rhywedd a hunaniaeth rywiol. Dyma rai o’r termau a allai eich helpu:
Termau craidd: Geirfa LHDTC+
Cynghreiriad (Ally)
Mae cynghreiriad yn berson strêt sy’n helpu rhoi cefnogaeth i aelodau o’r gymuned LHDTC+.
Anrhywiol
Person anrhywiol yw rhywun nad yw’n teimlo atyniad rhywiol ond a allai brofi atyniad rhamantaidd.
Deurywiol
Person sy’n teimlo atyniad rhywiol at ddynion a menywod.
Cisryweddol
Mae ‘cisryweddol’ neu ‘Cis’ yn disgrifio rhywun sydd â’r un hunaniaeth o ran rhywedd ag oedd ganddynt pan gawsant eu geni.
Rhywedd Deuaidd
Y cysyniad hirsefydlog ond sydd bellach wedi dyddio mai dim ond dwy ryw benodol ac unigryw sy’n bodoli, sef gwryw neu fenyw.
Hunaniaeth Rhywedd
Y rhywedd y mae person yn dewis ei ystyried yn seiliedig ar normau a gwerthoedd cymdeithasol. Nid ydynt o reidrwydd yn cyd-fynd â’r rhywedd a bennwyd iddynt adeg eu geni.
Rhyngrywiol
Rhywun sydd â nodweddion biolegol y ddau ryw, neu rywun nad yw eu priodoleddau biolegol yn cydymffurfio â chysyniad cymdeithas o beth yw hunaniaeth wrywaidd neu fenywaidd.
Lesbiad
Menyw sydd ag atyniad rhywiol neu ramantaidd at fenywod eraill yn unig.
Trawsryweddol
Rhywun sy’n ystyried bod eu rhywedd yn wahanol i’r hyn a neilltuwyd iddynt pan gawsant eu geni, ac yn byw fel y rhywedd hwnnw. Cafodd dynion trawsryweddol eu geni’n fenywod, a chafod menywod trawsryweddol eu geni’n wrywaidd; ond gallant hefyd ddisgrifio eu hunain gan ddefnyddio termau fel trawsrywiol, rhywedd hylifol neu heb rywedd.
Anneuaidd
Mae unigolyn anneuaidd yn rhywun nad yw’n ystyried ei hun yn wryw nac yn fenyw, ond sy’n gallu uniaethu ag agweddau ar y ddau rywedd.
Panrywiol
Mae gan berson panrywiol deimladau o atyniad rhywiol neu ramantaidd at bobl beth bynnag fo’u rhyw.
Cwiar
Ar un adeg, roedd y gymuned LHDTC+ yn ystyried ‘Cwiar’ yn enw sarhaus; fodd bynnag, maen nhw wedi ei hawlio’n ôl ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o wrthod labeli penodol ar gyfeiriadedd rhywiol neu ramantaidd.
Cymorth LGBTQ+
- Cynllun Adeiladwyr Ystyrlon (CCS) - mae’n llawn adnoddau, canllawiau arferion gorau i gyflogwyr a fforwm cyflogwyr a chymunedau i rannu cyngor, arbenigedd a phrofiad.
- Stonewall – nod y sefydliad hwn yw helpu gwahanol ddiwydiannau a sefydliadau i fod yn gwbl dderbyngar a chroesawgar i bawb.
- Constructing Equality – eu gweledigaeth yw creu a chynnal diwydiant adeiladu tecach drwy werthoedd fel tegwch, cynhwysiant a pharch.
- Building Equality - Cynghrair o gwmnïau adeiladu sy’n cydweithio i hybu cynhwysiant LGBT+.
Dod allan yn y diwydiant adeiladu
Dysgwch sut beth yw trawsnewid yn y diwydiant adeiladu. Christina Riley, Uwch Gynllunydd yn Kier Group, sy’n rhoi cipolwg ar ei thaith bersonol. Daeth o hyd i heddwch, ac ymgyrchodd dros fwy o gydraddoldeb a chynhwysiant, a llwyddodd i gymodi.
Lluniau diolch i Christina Riley