Sut i wneud cais am swydd yn y Diwydiant adeiladu
Weithiau gall dod o hyd i swydd deimlo fel swydd ynddi’i hun! Felly, rydyn ni wedi paratoi canllaw i’ch helpu i gael gyrfa neu brentisiaeth yn y diwydiant adeiladu.
Rydyn ni wedi troi at bobl sy’n gweithio yn y diwydiant i rannu cyngor a gwybodaeth am y canlynol:
- Ysgrifennu CVs a cheisiadau am swyddi
- Manteisio i’r eithaf ar eich sgiliau cyflogadwyedd wrth lenwi ffurflen gais neu wrth ysgrifennu llythyr eglurhaol
- Sut mae’r broses ymgeisio ar gyfer prentisiaid yn gweithio
- Beth i'w wneud pan fydd gennych chi gyfweliad
- Sut gallwch chi barhau i ddatblygu eich sgiliau ar ôl i chi gael swydd.
1. LLUNIO EICH CV
Meddyliwch am y math o rôl rydych chi’n gweld eich hun yn ei gwneud a dechreuwch weithio ar eich CV. Rhestrwch eich profiadau seiliedig ar waith, ynghyd â’ch sgiliau a’ch cymwysterau presennol a allai eich helpu i sefyll allan a chael rôl yn y maes hwn.
Awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu CV
- Edrychwch ar dempledi CV i wneud yn siŵr eich bod ar y trywydd iawn
- Cofiwch wirio eich sillafu a’ch gramadeg gan ei bod yn bwysig edrych yn broffesiynol
- Efallai ei fod yn demtasiwn ymestyn y gwirionedd, ond peidiwch â dyfeisio pethau ar eich CV, gan y gallai olygu bod yn rhaid i chi siarad amdanyn nhw mewn cyfweliad...annifyr!
2. DOD O HYD I SWYDD A FYDD WRTH EICH BODD
Chwiliwch am swyddi yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi. Efallai y bydd y rhain wedi’u rhestru ar y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol, Gyrfa Cymru, Skills Development Scotland, neu ar safleoedd swyddi annibynnol.
Gallwch hefyd ddod o hyd i swydd sy'n addas ar gyfer eich diddordebau, eich sgiliau a'ch cymwysterau drwy ddefnyddio ein Chwilotwr Gyrfa.
3. YSGRIFENNU CAIS SY’N SEFYLL ALLAN
Ydych chi wedi dod o hyd i swydd yr hoffech wneud cais amdani? Mae cyflogwyr ac asiantaethau recriwtio yn aml yn gofyn am CV (tic!), llythyr eglurhaol a ffurflen gais. Mae'n syniad da gwneud rhywfaint o waith ymchwil i'r cwmni rydych chi'n gwneud cais iddo cyn ysgrifennu eich cais. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol nodi eich sgiliau cyflogadwyedd a meddwl am rywfaint o enghreifftiau i ddangos pryd rydych chi wedi’u defnyddio, i’ch helpu i ddangos eich bod yn wahanol i bawb arall.
Gall sgiliau cyflogadwyedd gynnwys y sgiliau canlynol, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i’r rhain:
- Cyfathrebu’n dda
- Datrys problemau
- Defnyddio cyfrifiaduron
- Cwblhau tasgau mewn pryd
- Gweithio mewn timau
- Arwain pobl eraill
- Deall cyfarwyddiadau
- Bod yn brydlon
- Gwneud penderfyniadau
- Cyd-dynnu â phobl.
4. YSTYRIED PRENTISIAETH
Ydych chi’n gwneud cais am brentisiaeth? Mae’r broses yn debyg iawn i wneud cais am swydd arferol. Os ydych chi’n gweld mwy nag un swydd y mae gennych chi ddiddordeb ynddi, gallech chi bob amser wneud cais am fwy nag un brentisiaeth ar y tro, gan y bydd hyn yn cryfhau eich siawns o glywed rhywbeth yn ôl.
Dod o hyd i brentisiaeth yn Lloegr, yr Alban neu yng Nghymru.
5. PARATOI AR GYFER CYFWELIAD
Wedi cael cyfweliad? Llongyfarchiadau!
Gwnewch fwy o waith ymchwil i’r rôl a’r cwmni ymlaen llaw, ac ystyriwch ymarfer rhai cwestiynau cyfweliad safonol, i’ch helpu i baratoi. Gall cyfweliadau fod yn frawychus, felly cofiwch anadlu a chanolbwyntio ar eich cryfderau a’ch galluoedd. Os nad ydych chi’n llwyddo i gael y swydd, cofiwch, gallwch bob amser ofyn am adborth er mwyn i chi allu parhau i wella eich techneg gyfweld ar gyfer y tro nesaf!
Datblygu eich sgiliau
Ar ôl i chi gael swydd yn y diwydiant adeiladu, mae’n bwysig eich bod yn cadw eich sgiliau yn gyfoes gan fod y byd gwaith yn newid drwy’r amser. Bydd ennill sgiliau a gwybodaeth ychwanegol hefyd yn eich helpu i symud ymlaen yn eich swydd a bydd yn agor drysau i swyddi neu arbenigeddau newydd ac, o bosib, cyflog uwch.
Mae rhai rolau’n gofyn i chi ymgymryd â phrofion cymhwysedd neu hyfforddiant fel mater o drefn (h.y. cardiau CSCS). Mewn rhai eraill, efallai y bydd cyflogwyr yn cynnig cyfleoedd i fynd ar gyrsiau hyfforddi achrededig neu heb eu hachredu i'ch helpu i wella eich sgiliau cyfathrebu, dod yn fedrus yn defnyddio rhai peiriannau, dysgu am ddiogelwch safle, ennill sgiliau rheoli neu fwy.
Mae rhai pobl yn dewis parhau i astudio tra byddant mewn swydd, naill ai’n rhan-amser (gyda chaniatâd eu cyflogwr) neu o gwmpas eu swydd amser llawn, er mwyn ennill cymwysterau proffesiynol, fel prentisiaethau uwch neu radd-brentisiaethau neu statws siartredig.