Porwch yr holl swyddi
Oes angen gradd arnaf i sicrhau’r swydd rwy’n chwilio amdani? Faint bydd y swydd yn ei dalu? Alla’ i gamu ymlaen yn fy swydd?
Mae cymaint o swyddi ar gael yn niwydiant adeiladu'r DU! Rydyn ni wedi llunio canllaw A-Y defnyddiol i’r holl swyddi sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu, sy’n rhoi gwybodaeth am gyflogau, hyfforddiant, sut i sicrhau swydd, a chewch glywed gan bobl sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu yn barod.
Hidlo yn ôl llythyren
Rhowch enw'r swydd neu'r rôl isod
Rhestr A - Y
-
Adeiladwr dur
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Adeiladwyr dur sy’n cydosod fframwaith metel adeiladau neu strwythurau newydd drwy roi trawstiau, pibellau a distiau dur yn sownd yn ei gilydd. Fel adeiladwr dur, byddech chi’n gweithio ar gynlluniau manwl sydd wedi’u creu gan benseiri a pheirianwyr. Mae’n bosibl y bydd eich gwaith yn cael ei wneud ar lwyfannau uchel yn aml.
-
Amcangyfrifwr
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae amcangyfrifwyr yn cyfrifo faint fydd cost prosiectau adeiladu, gan ystyried gofynion llafur, deunyddiau ac offer. Byddant yn trafod gyda chyflenwyr ac yn cael dyfynbrisiau gan isgontractwyr ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i lunio cynigion cost manwl ar ran cleient.
-
Arbenigwr adfer
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae arbenigwyr adfer yn delio â’r gwaith o asesu, trin a gwaredu halogiad o bridd a dŵr daear. Maent yn dylunio ac yn rhoi cynlluniau gweithredu adferol ar waith i lanhau safleoedd y mae tanwydd, plaladdwyr a metelau trwm ymysg sylweddau eraill yn effeithio arnynt, fel eu bod yn ddiogel ar gyfer y dyfodol.
-
Arbenigwr cynaliadwyedd
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Yn y diwydiant adeiladu, mae arbenigwyr cynaliadwyedd yn asesu ôl-troed carbon prosiect ac yn awgrymu ffyrdd o leihau ei effaith amgylcheddol ar y byd ehangach. Maent yn helpu busnesau i arbed arian a symud ymlaen gyda datblygiadau, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r bobl a’r ecosystemau, a’u bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol.
-
Arbenigwr gorchudd adeiladau
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae arbenigwyr gorchudd adeiladau yn gosod ac yn atgyweirio gorchuddion anstrwythurol i adeiladau gan ddefnyddio amryw o ddeunyddiau fel pren, gwydr a metel. Mae dylunio gorchudd adeilad yn faes arbenigol o ymarfer pensaernïol a pheirianneg sy’n deillio o bob maes gwyddor adeiladu a rheoli’r hinsawdd dan do.
-
Archaeolegydd
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae archeolegwyr yn cynyddu ein dealltwriaeth o'r gorffennol dynol trwy ddadorchuddio ac amddiffyn olion ac arteffactau. Bydd y rhain yn cael eu dadorchuddio’n aml ar safleoedd adeiladu a bydd archeolegwyr yn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a gellir eu hychwanegu at y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol. Fel archeolegydd, byddwch yn ymwneud â’r prosiect yn ystod y cyfnod cynllunio. Gallech gynnal ymchwil gychwynnol a gwaith cloddio archwiliadol cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau er mwyn diogelu ein treftadaeth ddiwylliannol.
-
Arolygydd cyfarpar codi
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae arolygydd cyfarpar codi yn cynnal archwiliadau hanfodol i sicrhau bod yr offer a’r peiriannau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer codi yn gweithio’n iawn, fel bod modd ymgymryd â phrosiectau adeiladu yn unol â chanllawiau iechyd a diogelwch llym. Os canfyddir bod angen trwsio offer, byddant yn gwneud y gwaith hwnnw neu’n argymell peiriannydd mwy cymwys ar gyfer y gwaith.
-
Arolygydd peiriannau
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae arolygydd peiriannau’n gyfrifol am oruchwylio a chydlynu’r gweithgareddau cyfrifyddu ac ariannol sy’n ymwneud â pheiriannau ffatri. Fel arolygydd peiriannau, byddwch yn dadansoddi data i asesu perfformiad y peiriannau, ac yn cyflwyno eich canfyddiadau i uwch reolwyr.
-
Arolygydd safle
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae arolygwyr safle’n monitro’r holl waith sy’n cael ei wneud ar safle adeiladu i sicrhau bod safonau diogelwch ac ansawdd yn cael eu cynnal. Maent yn gwneud yn siŵr bod cynlluniau adeiladu a manylebau yn cael eu dilyn yn gywir, ac maent yn rheoli staff ac isgontractwyr ar safleoedd adeiladu. Maent hefyd yn mynd i gyfarfodydd rheoli safle ac yn helpu rheolwyr prosiect i gynllunio gwaith.
-
Arweinydd Tîm Adeiladu
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae arweinwyr timau adeiladu yn gweithio mewn rolau goruchwylio ac yn gyffredinol maen nhw’n gyfrifol am dîm sy’n gweithio ar brosiect adeiladu. Fel arweinydd tîm adeiladu, gallech arbenigo mewn goruchwylio maes adeiladu penodol, sy’n ymwneud â’ch sgiliau a’ch profiad blaenorol, fel gosod brics, toi neu grefft arall.
-
Asesydd ynni domestig
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae aseswyr ynni domestig yn cyfrifo effeithlonrwydd ynni cartrefi, fflatiau ac adeiladau domestig eraill.
-
Asiedydd
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae asiedydd yn gweithio gyda phren i greu amrywiaeth o strwythurau sy’n hanfodol i lawer o adeiladau. Gall hyn gynnwys grisiau, ffenestri, drysau, dodrefn a mwy. Fel asiedydd, byddwch yn gwneud ac yn gosod y strwythurau a’r ffitiadau hyn yn y lleoliadau cywir.
-
Ataliwr drafftiau
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae ataliwr drafftiau’n sicrhau bod adeiladau wedi’u hawyru’n iawn a’u bod hefyd yn cadw gwres. Drwy sicrhau nad oes unrhyw ynni’n cael ei wastraffu mewn adeilad, drwy golli gwres o ffenestri neu ddrysau allanol, maen nhw’n helpu i sicrhau bod ynni’n cael ei ddefnyddio’n effeithlon, sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.
-
Bancwr/Arwyddwr
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Bancwyr/Arwyddwyr yw llygaid a chlustiau gyrwyr cerbydau a gweithredwyr peiriannau. Mae bancwr yn gyfrifol am gyfarwyddo cerbydau sy'n symud ar safle neu'n agos ato. Mae'r rôl yn hollbwysig o ran sicrhau iechyd a diogelwch ar y safle a darparu systemau gwaith diogel.
-
Briciwr
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae bricwyr yn gosod brics, cerrig wedi'u torri, blociau concrid a mathau eraill o flociau adeiladu mewn morter er mwyn adeiladu a thrwsio waliau, sylfeini, parwydydd, bwâu a strwythurau eraill.
-
Clerc gwaith
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae clerc gwaith yn arolygu crefftwaith, ansawdd a diogelwch gwaith ar safleoedd adeiladu ac yn adrodd am hynny i uwch reolwyr a chleientiaid. Fel clerc gwaith, byddech yn cynnal archwiliadau rheolaidd o safleoedd ac yn gwirio bod cynlluniau adeiladu yn cael eu dilyn yn gywir. Byddech yn gwirio bod gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â'r manylebau cywir a’r safonau cyfreithiol, diogelwch ac amgylcheddol.
-
Contractwr hunangyflogedig
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae contractwr hunangyflogedig yn gweithio drosto’i hun, naill ai drwy ddod o hyd i’w brosiectau ei hun ac ymgymryd â nhw neu ddod o hyd i waith drwy asiantaeth. Fel contractwr hunangyflogedig, efallai eich bod yn gweithio ar eich pen eich hun neu fel aelod o gang adeiladu, neu efallai eich bod yn cyflogi pobl eraill yn eich cwmni eich hun. Mae’n bosib bod yn hunangyflogedig mewn sawl maes gwaith, p’un a oes gennych grefft fedrus, fel gwaith coed neu beintio ac addurno, neu gallwch chi gynnig eich gwasanaethau fel peiriannydd ymgynghorol neu bensaer.
-
Cydlynydd BIM
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cydlynwyr BIM (Modelu Gwybodaeth am Adeiladu) yn gyfrifol am brosesau digidol sy’n gysylltiedig â chamau dylunio ac adeiladu prosiect. Maent yn sicrhau bod modelau 3D, lluniadau a data strwythurol yn cael eu cadw mewn un lle hygyrch ac yn darparu model gwybodaeth y prosiect i gleientiaid.
-
Cydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR)
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) yn gweithredu fel ‘cydwybod’ cwmni, gan hyrwyddo a datblygu ochr foesegol, amgylcheddol gyfeillgar a chymunedol y busnes. Mae’r swydd yn cynnwys creu cysylltiadau rhwng busnes a’r gymuned, codi ymwybyddiaeth gadarnhaol o ymrwymiad y sefydliad i gyfrifoldeb cymdeithasol cynaliadwy.
-
Cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau yn gyfrifol am drefnu timau o beirianwyr i sicrhau bod prosiect yn cael yr adnoddau angenrheidiol i sicrhau ei fod yn rhedeg yn esmwyth ac yn cadw at yr amserlen. Mae hyn fel arfer yn golygu trefnu ymweliadau i wneud gwaith cynnal ar beiriannau.
-
Cydlynydd technegol
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cydlynwyr technegol yn ymdrin ag agweddau technegol ar brosiect. Yn dibynnu ar ba faes adeiladu maent yn gweithio ynddo, gallen nhw ddelio ag ymholiadau, helpu i lunio a dehongli diagramau technegol, cynlluniau a gwaith papur, paratoi amserlenni danfon, ac ymdrin â’r gwaith o weinyddu prosiectau.
-
Cyfarwyddwr adeiladu
Mae cyflogau oddeutu £100,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cyfarwyddwyr adeiladu yn gyfrifol am fonitro gwaith ar brosiectau adeiladu. Maent yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau'n brydlon ac o fewn y gyllideb, i’r safon a ddisgwylir o’r cwmni. Mae cyfarwyddwyr adeiladu yn rheoli amserlenni gwaith ac yn dirprwyo tasgau i uwch gydweithwyr a'u timau, er mwyn sicrhau fod pob cam o'r gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau yn ôl y bwriad.
-
Cyfarwyddwr prosiect
Mae cyflogau oddeutu £100,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gan gyfarwyddwyr prosiect gyfrifoldeb cyffredinol am gwblhau prosiectau adeiladu yn llwyddiannus. Maent yn goruchwylio rheolwyr prosiect, sy'n cydlynu timau i sicrhau fod gwaith yn cael ei gwblhau yn brydlon ac o fewn y gyllideb, i safon uchel. Mae cyfarwyddwyr prosiect yn darparu arweinyddiaeth i reoli risg yn strategol, monitro cyllid a sicrhau fod pob cam o'r gwaith yn cael ei ddechrau neu ei gwblhau yn brydlon.
-
Cyfrifydd
Mae cyflogau oddeutu £55,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae staff cyfrifeg a chyllid yn cadw golwg ar yr arian sy'n dod i mewn ac yn mynd allan o fusnes. Fel cyfrifydd, gallech fod yn paratoi cofnodion ariannol er mwyn eu cyflwyno a’u harchwilio, a goruchwylio cyflwyniadau treth a TAW, a chyflogau. Mae llawer o gyfrifwyr yn gweithio ar draws ystod o wahanol ddiwydiannau, ac mae eraill yn arbenigo mewn sector penodol.
-
Cynghorydd amgylcheddol
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cynghorwyr amgylcheddol yn sicrhau bod prosiectau adeiladu yn cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol ac yn cyrraedd targedau. Maen nhw’n cynllunio’n strategol ffyrdd o sicrhau cyn lleied â phosibl o lygredd aer neu lygredd dŵr a phridd, lleihau gwastraff deunyddiau a sicrhau bod unrhyw wastraff angenrheidiol yn cael ei waredu yn y modd cywir.
-
Cynghorydd cyfreithiol
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cynghorwyr cyfreithiol yn rhoi arweiniad i gwmnïau ar faterion sy’n ymwneud â’r gyfraith. Yn y diwydiant adeiladu, byddai cynghorydd cyfreithiol yn helpu gyda chontractau cleientiaid, yn llunio dogfennau cyfreithiol ac yn datrys anghydfodau.
-
Cynghorydd gwerthu eiddo
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Cyfrifoldeb cynghorydd gwerthu eiddo yw gofalu am y broses o werthu eiddo ar y safle ar ran cwmni fel datblygwr eiddo. Mae hyn yn cynnwys tasgau fel gosod a chynnal cartrefi arddangos, delio ag ymholiadau gan brynwyr posibl a chynhyrchu adroddiadau yn seiliedig ar ddata gwerthu.
-
Cynghorydd SHEQ (Diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd)
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cynghorydd diogelwch, iechyd, amgylchedd ac ansawdd (SHEQ) yn gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â rheoliadau iechyd a diogelwch, rheoliadau amgylcheddol, a rheoli ansawdd, ar safleoedd ac mewn cwmnïau adeiladu.
-
Cynghorydd trawsgludo
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cynghorwyr trawsgludo yn gyfreithwyr eiddo sy’n trosglwyddo perchnogaeth eiddo o un perchennog i un arall (ar gyfer busnesau neu unigolion). Maent yn gyfrifol am sicrhau bod gweithredoedd eiddo'n cael eu trosglwyddo o'r gwerthwr i'r prynwr ac yn rhoi cyngor ar unrhyw faterion cyfreithiol gyda'r eiddo.
-
Cynllunydd
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cynllunwyr yn creu rhaglenni o’r holl waith sydd ei angen ar brosiectau adeiladu mawr a gweithgareddau uniongyrchol. Fel cynllunydd, byddwch yn goruchwylio logisteg, yn trefnu gweithwyr, yn rheoli cyllidebau ac yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â’r amserlen. Byddwch yn cydweithio’n agos ag amcangyfrifwyr, peirianwyr, syrfewyr a phenseiri i gadw prosiectau ar y trywydd iawn a rheoli blaenoriaethau sy’n gwrthdaro.
-
Cynllunydd adnoddau dŵr
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cynllunwyr adnoddau dŵr yn datblygu cynlluniau ar gyfer rheoli dŵr glân a dŵr gwastraff, yn seiliedig ar y galw nawr ac yn y dyfodol.
-
Cynllunydd tref
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cynllunydd tref yn gyfrifol am ddylunio a datblygu ardaloedd trefol, fel trefi a dinasoedd. Fel cynllunydd tref, byddech yn sicrhau bod cydbwysedd rhwng y galw i ddatblygu’r tir ac anghenion y gymuned. Gall hyn fod ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol ac mae angen ymwybyddiaeth o effeithiau amgylcheddol ac economaidd datblygiadau arfaethedig.
-
Cynorthwyydd Cyfrifon
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae cynorthwywyr cyfrifon yn helpu i gadw golwg ar yr arian sy’n dod i mewn ac yn mynd allan o fusnes. Fel cynorthwyydd cyfrifon, byddech chi’n darparu cymorth cyfrifyddu a gweinyddol i staff cyfrifyddu a chyllid er mwyn sicrhau bod cyfrifon cwsmeriaid a chyflenwyr yn gywir; derbyn, prosesu a ffeilio gwaith papur; a rheoli trafodion arian mân.
-
Dadansoddwr cymorth TG
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae dadansoddwyr cymorth TG yn dod o hyd i atebion TG i wella gweithrediadau busnes, effeithlonrwydd a chynhyrchiant. Gall dadansoddwr cymorth TG helpu i ddatrys amrywiaeth o faterion technegol sy’n ymwneud â systemau cyfrifiadurol eu sefydliad, rhwydwaith telegyfathrebu, LANs, WANs a chyfrifiaduron desg, boed y cydrannau hyn wedi’u lleoli ar y safle neu yn y maes.
-
Dadansoddwr ynni adnewyddadwy
Mae cyflogau oddeutu £80,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae dadansoddwyr ynni adnewyddadwy yn mesur effeithlonrwydd ffynonellau ynni adnewyddadwy ac yn datblygu modelau ynni cynaliadwy ar gyfer adeiladau.
-
Dadansoddwr ynni gwynt
Mae cyflogau oddeutu £80,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae dadansoddwyr ynni gwynt yn profi technoleg tyrbinau gwynt ac yn mesur effeithlonrwydd prosiectau gwynt.
-
Darlithydd addysg uwch (AU)
Mae cyflogau oddeutu £55,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae darlithwyr Addysg Uwch (AU) yn gwneud gwaith ymchwil ac yn addysgu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu proffesiynol mewn prifysgolion a cholegau addysg uwch. Fel darlithydd mewn maes sy’n gysylltiedig ag adeiladu, byddwch yn arbenigo mewn un maes astudio, fel pensaernïaeth, peirianneg, busnes a rheoli, cynllunio, arolygu neu fwy.
-
Delweddwr 3D
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae delweddwyr 3D yn dod â syniadau penseiri’n fyw, gan gymryd cynlluniau, darluniau pensaernïol a deunyddiau cyfeirio eraill a defnyddio’r rhain i gynhyrchu delweddau 3D realistig o adeiladau a datblygiadau arfaethedig. Fel delweddwr 3D, bydd angen i chi gael meddwl creadigol a thechnegol, er mwyn modelu adeiladau arfaethedig a fydd yn gweithio’n dda ac yn edrych yn dda.
-
Derbynnydd
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Yn y diwydiant adeiladu, derbynyddion yw pwynt cyswllt cyntaf cleientiaid, isgontractwyr a chyflenwyr. Fel derbynnydd, chi fydd wyneb blaen y sefydliad yn cyfarch gwesteion a chontractwyr, ac yn ymateb i ymholiadau dros y ffôn a thrwy e-bost. Bydd angen sgiliau trin pobl rhagorol arnoch er mwyn gallu darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid.
-
Dodrefnwr siopau
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae dodrefnwyr siopau’n trawsnewid y tu mewn i swyddfeydd, siopau, bwytai, bariau a mwy. Maent yn paratoi cynlluniau, ac yna’n gwneud ac yn gosod ffitiadau i wella ein profiad mewn gofod. Fel dodrefnwr siopau, byddwch yn tynnu’r hen ffitiadau ac ati ac yn gosod rhai newydd yn eu lle. Gallech fod yn goruchwylio gwaith adeiladu ac yn gweithio gydag amrywiaeth o ddeunyddiau i ddod â llecyn yn fyw.
-
Dylunydd mewnol
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae dylunwyr mewnol yn gweithio gyda chleientiaid i greu mannau dan do sy’n ymarferol ac yn ddeniadol. Maent yn helpu i gynllunio cynllun ac addurn y tu mewn i adeiladau, a gallant weithio gyda chontractwyr i ddod â’u dyluniadau’n fyw.
-
Ecolegydd
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae ecolegwyr yn astudio'r berthynas rhwng planhigion, anifeiliaid a'r amgylchedd. Maent yn edrych ar sut mae anifeiliaid a phlanhigion yn byw mewn amgylchedd penodol, ac yn adrodd ar effaith debygol unrhyw waith adeiladu arfaethedig. Gan ddibynnu ar y dasg dan sylw, gallent dreulio amser yn gweithio yn yr awyr agored, mewn prifysgol, mewn swyddfa neu mewn labordy.
-
Economegydd
Mae cyflogau oddeutu £85,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae economegwyr yn astudio data ac ystadegau cymhleth ac yn defnyddio eu canfyddiadau i roi cyngor ariannol i fusnesau. Fel economegydd, byddech yn ymchwilio i dueddiadau economaidd ac yn eu monitro, ac yn creu modelau ystadegol i ragweld datblygiadau yn y dyfodol. Mae cyflogwyr yn dibynnu ar economegwyr i’w cynghori ynghylch effaith bosibl polisïau a buddsoddiadau.
-
Fforman gorffen
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae fforman gorffen yn gweithio gyda rheolwyr, contractwyr a gweithwyr eraill ar y safle i sicrhau bod y gwaith adeiladu’n cael ei gwblhau’n llwyddiannus mewn pryd, o fewn y gyllideb, a’i fod yn cael ei orffen yn unol â’r safon a’r fanyleb y cytunwyd arnynt gyda’r cleient.
-
Ffurfweithiwr
Mae cyflogau oddeutu £27,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae ffurfweithiwr yn gyfrifol am osod ac atgyweirio fframweithiau dros dro sy’n cefnogi’r broses adeiladu yn ystod y gwaith adeiladu. Gellir defnyddio gwahanol ddeunyddiau i wneud y strwythurau dros dro hyn, ond fel arfer maen nhw wedi eu gwneud o naill ai bren neu fetel ac yn cael eu defnyddio i helpu i fowldio concrit a deunyddiau eraill.
-
Gorffennwr concrid
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gorffenwyr concrid yn taenu ac yn tywallt concrid i greu gorffeniadau llyfn ar wynebau fel ffyrdd, palmentydd, lloriau a chyrbiau, gan ddefnyddio amrywiaeth o offer arbenigol. Fel gorffennwr concrid, gallwch hefyd ddefnyddio ffurfiau (mowldiau) i greu blociau concrid ar gyfer prosiectau adeiladu.
-
Goruchwyliwr craen
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae goruchwyliwr craen yn gyfrifol am oruchwylio symudiadau’r holl weithrediadau codi ar safle adeiladu er mwyn sicrhau diogelwch ac effeithiolrwydd y tîm.
-
Gosodwr asffalt mastig
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr asffalt mastig yn rhoi cymysgedd poeth o galchfaen a bitwmen ar amrywiaeth o arwynebau i’w hamddiffyn, eu cryfhau a’u gwneud yn wrth-ddŵr. Mae’r asffalt mastig yn caledu pan fydd yn oeri, felly gellir ei ddefnyddio ar gyfer toi, gosod arwynebau lloriau fel platfformau rheilffyrdd a meysydd parcio, leinio tanciau a phyllau nofio, fel amddiffynfeydd môr neu afonydd, neu fwy.
-
Gosodwr ceginau
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr ceginau’n gosod ceginau mewn cartrefi a gweithleoedd. Fel gosodwr ceginau, byddech yn mesur ac yn cydosod unedau cegin, ac yn gosod cownteri yn unol â chynlluniau manwl, gan weithio o gwmpas pibellau cudd a theclynnau.
-
Gosodwr deunydd inswleiddio ceudod
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr deunydd inswleiddio ceudod yn gosod deunydd inswleiddio mewn adeiladau, fel atal lleithder, inswleiddio atig ac inswleiddio waliau ceudod. Mae eu gwaith yn helpu adeiladau i gadw eu gwres ac i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon. Mae'r rôl yn cynnwys edrych a ydy eiddo’n addas ar gyfer inswleiddio waliau ceudod ac argymell y math gorau i'w ddefnyddio.
-
Gosodwr deunydd selio
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr deunydd selio yn selio uniadau i sicrhau fod adeilad yn aerdyn ac yn dal dŵr. Fel gosodwr deunydd selio, gallech fod yn selio fframiau drysau a ffenestri, ffasadau adeiladau, neu faddonau a sinciau. Gallech hefyd fod yn gwneud gwaith bondio strwythurau, megis selio gwydr i wydr.
-
Gosodwr dur
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr dur yn defnyddio barrau a rhwyllau dur mewn concrit wedi’i atgyfnerthu i gryfhau adeiladau a strwythurau mawr eraill. Maen nhw’n gweithio’n agos gyda dylunwyr peirianneg, adeiladwyr dur a gweithwyr adeiladu eraill ar adeiladau uchel iawn, ar amrywiaeth o safleoedd adeiladu neu ar strwythurau eraill.
-
Gosodwr ffenestri
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr ffenestri yn gosod ffenestri, drysau, ystafelloedd haul a llenwaliau gwydr mewn adeiladau a strwythurau. Efallai y byddan nhw’n gweithio ar eiddo newydd, yn uwchraddio hen ffitiadau, neu’n helpu i adfer adeiladau treftadaeth.
-
Gosodwr gwasanaethau nwy
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwr gwasanaethau nwy yn gosod, yn cynnal ac yn atgyweirio systemau nwy mewn hen adeiladau ac adeiladau newydd. Gall hyn gynnwys systemau gwres canolog neu gyfarpar nwy.
-
Gosodwr lloriau
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr lloriau’n gosod lloriau pren wedi’u lamineiddio a phren soled. Maen nhw wedi’u hyfforddi i baratoi isloriau a gosod gorchuddion lloriau. Mae gosodwyr lloriau domestig a gosodwyr carpedi yn gweithio yng nghartrefi pobl; mae gosodwyr lloriau masnachol yn gweithio mewn mannau cyhoeddus gan gynnwys swyddfeydd, siopau, gwestai, ysgolion; ac mae gosodwyr lloriau resin yn gweithio mewn adeiladau diwydiannol a masnachol.
-
Gosodwr lloriau mynediad
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr lloriau mynediad yn gosod systemau lloriau uchel gan ddefnyddio offer a thechnegau arbenigol. Gallai hyn gynnwys unrhyw brosiect lle mae angen lloriau uchel – o dai i glybiau nos, a meysydd awyr i swyddfeydd.
-
Gosodwr nenfydau
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr nenfydau yn gosod nenfydau crog ac yn cuddio ac yn diogelu deunyddiau hyll fel gwifrau, pibellau, systemau gwresogi ac aerdymheru. Maent yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o drawsnewid prosiectau preswyl, masnachol a diwydiannol, neu gallant arbenigo mewn gwaith adnewyddu neu gynnal adeiladau treftadaeth.
-
Gosodwr paneli solar
Mae cyflogau oddeutu £36,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr paneli solar yn gosod paneli solar ar doeau a strwythurau ar dir, i drosi ynni solar yn ynni adnewyddadwy. Mae gosodwyr hefyd yn gyfrifol am gynnal paneli solar a sicrhau bod y systemau weirio’n ddiogel ac yn effeithlon.
-
Gosodwr systemau diogelwch rhag tân
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gan osodwr systemau diogelwch rhag tân rôl bwysig o ran sicrhau bod adeiladau’n cael eu hinswleiddio a’u diogelu’n strwythurol rhag risg tân. Gall hyn gynnwys gosod fframiau amddiffynnol, waliau a nenfydau sy’n gwrthsefyll tân, a defnyddio triniaethau sy’n gwrthsefyll tân, yn enwedig ar adeiladau treftadaeth.
-
Gosodwr ystafelloedd gwely
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr ystafelloedd gwely’n gosod dodrefn ystafell wely, gan gynnwys pecynnau fflat ac unedau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol. Gallech fod yn creu unedau storio a wardrobau mewnol i weddnewid ystafell neu helpu eich cleientiaid i wneud gwell defnydd o’r gofod sydd ganddynt.
-
Gosodwr ystafelloedd ymolchi
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr ystafelloedd ymolchi yn gosod holl elfennau ystafelloedd ymolchi gan gynnwys cawodydd, baddonau, sinciau, toiledau ac unedau storio. Mae llawer o osodwyr ystafelloedd ymolchi yn gweithio fel rhan o dîm, sy'n cynnwys arbenigwyr. Felly, gallech fod yn tynnu hen unedau, gosod rhai newydd, gosod lloriau, plastro neu deilsio waliau, paentio ac addurno, plymio neu hyd yn oed gwneud gwaith trydanwr.
-
Gosodydd inswleiddiad thermol
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gosodwyr inswleiddiad thermol yn chwarae rhan hanfodol mewn cadwraeth ynni. Maent yn arbenigo mewn insiwleiddio pibellau poeth, boeleri a llestri i gadw gwres i mewn neu, mewn gosodiadau rheweiddio a thymheru, i gadw gwres allan.
-
Gweinyddwr
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweinyddwyr yn helpu i redeg swyddfeydd yn ddidrafferth trwy gyflawni tasgau clerigol a phrosiectau. Fel gweinyddwr yn y diwydiant adeiladu, gallech fod yn trefnu cyfarfodydd prosiectau. Byddech yn teipio dogfennau, yn ymateb i ymholiadau busnes, yn llunio contractau ac yn darparu gwasanaeth i gwsmeriaid. Rydych yn debygol o fod yn prosesu llawer o wybodaeth gan ddefnyddio cyfrifiadur, felly bydd angen sgiliau TG cryf arnoch. Mae sgiliau cyfathrebu rhagorol hefyd yn bwysig, er mwyn sicrhau bod y swyddfa'n gweithredu'n effeithlon. Mae llawer o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa fel gweinyddwyr, mewn amrywiaeth o leoliadau.
-
Gweithiwr adeiladu cyffredinol
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithwyr adeiladu yn ymgymryd â llawer o wahanol dasgau ymarferol ar safle adeiladu, gan gynnwys paratoi’r tir cyn dechrau’r gwaith adeiladu, a gwneud gwaith llaw yn ystod prosiect. Gallai hyn amrywio o gymysgu a thywallt concrid, gosod pibellau draenio, symud deunyddiau a mwy.
-
Gweithiwr adnoddau dynol
Mae cyflogau oddeutu £100,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr adnoddau dynol yn datblygu ac yn gweithredu polisïau yn ymwneud ag arferion gwaith eu sefydliadau. Maen nhw’n cyflogi gweithwyr ac yn eu helpu i gael hyfforddiant a datblygiad er mwyn camu ymlaen yn eu gyrfaoedd. Maen nhw’n allweddol o ran goruchwylio amodau cyflogaeth, telerau cytundebol, negodi ar gyflogau, a materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth.
-
Gweithiwr atal lleithder
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae lleithder yn achosi problemau difrifol i adeiladau a gall beryglu iechyd pobl. Fel gweithiwr atal lleithder, byddech yn atal lleithder rhag treiddio i mewn i adeiladau o'r ddaear, a thrwy waliau a chraciau. Gallech fod yn gosod cynhyrchion atal lleithder ac yn diogelu brics a phren. Efallai y byddwch hefyd yn atgyweirio difrod strwythurol a bydd angen deall systemau draenio ac awyru.
-
Gweithiwr cynnal a chadw
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithiwr cynnal a chadw yn rhywun sy’n gwneud amrywiaeth o dasgau mewn adeiladau, i’w cadw mewn cyflwr da. Gall y dyletswyddau gynnwys gweithgareddau fel trwsio toeau, paentio waliau, neu osod drysau a sgyrtin.
-
Gweithiwr chwarel
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithwyr chwarel yn defnyddio peiriannau pwerus i gloddio a drilio creigiau, tywod, llechi, graean a mwynau o chwareli a mwyngloddiau. Maent yn malu, yn cludo ac yn prosesu’r agregau hyn i’w defnyddio, yn aml ar safleoedd adeiladu.
-
Gweithiwr chwistrellu leinin concrit ar dwneli
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithwyr chwistrellu leinin concrit ar dwneli yn leinio twneli gyda choncrit wedi’i chwistrellu o gyfarpar pwrpasol. Mae defnyddio concrit wedi’i chwistrellu mewn twneli, mwyngloddiau a strwythurau peirianneg sifil eraill yn rhan bwysig ac annatod o systemau cynnal tir llwyddiannus, cynhyrchiol a diogel.
-
Gweithiwr dosbarthu trydanol
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithwyr dosbarthu trydanol yn gyfrifol am gynnal a chadw llinellau pŵer sy’n cysylltu adeiladau â’r grid cenedlaethol.
-
Gweithiwr drilio diemwnt
Mae cyflogau oddeutu £3,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithwyr drilio diemwnt yn defnyddio offer arbenigol i dorri drwy’r deunyddiau caletaf ar safle adeiladu, fel concrit cyfnerth. Gellid eu galw i mewn i godi darnau o ffyrdd neu balmentydd, helpu gyda gwaith dymchwel neu ddatgymalu tyrau a phontydd, gan ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch llym.
-
Gweithiwr drilio tir
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithiwr drilio tir yn gyfrifol am ymchwilio i dir cyn drilio i mewn iddo, er mwyn gosod strwythurau fel twneli neu ffynhonnau ar gyfer nwy neu olew. Fel gweithiwr drilio tir, byddwch chi’n gweithio’n agos gyda syrfewyr, daearegwyr a gwyddonwyr daearegol, ac yn monitro’r cynnydd o ran drilio, goruchwylio’r gwaith o reoli diogelwch a sicrhau bod yr amgylchedd o’i gwmpas yn cael ei ddiogelu.
-
Gweithiwr dymchwel
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithwyr dymchwel yn datgymalu adeiladau a strwythurau anniogel neu segur. Maent yn tynnu'r ffitiadau, yn clirio deunyddiau peryglus ac yn achub unrhyw beth y gellir ei ailddefnyddio, cyn defnyddio offer, peiriannau neu ffrwydron i ddymchwel strwythur.
-
Gweithiwr gosod seilbyst
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithiwr gosod seilbyst, neu yrrwr rigiau, yn gyfrifol am yrru colofnau pren, dur neu goncrid i mewn i’r ddaear yn ystod prosiectau adeiladu er mwyn cynnal strwythurau fel tai, swyddfeydd, ysbytai, pontydd a phierau.
-
Gweithiwr leinin sych
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithwyr leinin sych yn creu waliau ac ystafelloedd mewn adeiladau. Maent yn defnyddio plastrfwrdd i guddio pibellau a gwifrau, yn creu lle ar gyfer deunydd inswleiddio ac yn llyfnhau arwynebau anwastad yn ystod gwaith adnewyddu. Gallent adeiladu nenfydau crog, lloriau wedi’u codi, a darparu deunyddiau gwrthsain arbenigol. Mae'r rôl yn cynnwys mesur, torri a gosod plastrfwrdd (atgyweirio), a selio uniadau rhwng byrddau i lyfnhau'r ymylon (gorffen).
-
Gweithiwr Systemau Pared
Mae cyflogau oddeutu £24,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithiwr systemau pared yn gyfrifol am rannu adeiladau yn adrannau neu ystafelloedd gwahanol, a all ddarparu preifatrwydd, atal sain a gwrthsefyll tanau.
-
Gweithiwr Tir
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithiwr tir yn weithiwr proffesiynol adeiladu sy’n paratoi’r tir cyn, yn ystod ac ar ôl adeiladu. Fel arfer y crefftwr cyntaf ar safle adeiladu, mae gweithwyr tir yn gosod ac yn paratoi'r is-wynebau yn barod i'r gwaith strwythurol ddechrau, gosod systemau draenio, concrid, cyflawni dad-lystyfiant, dehongli manylebau dylunio a mwy. Mae gweithwyr tir yn gweithio trwy gydol prosiect adeiladu ac yn aml yn cyflawni'r tasgau terfynol, fel gosod tramwyfeydd a llwybrau troed.
-
Gweithiwr toi
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithwyr toi yn gweithio ar doeau adeiladau newydd a hefyd yn atgyweirio neu’n ail-doi strwythurau hŷn. Gall hyn gynnwys defnyddio amryw o wahanol ddeunyddiau, fel llechi, teils neu ddeunyddiau ar gyfer toeau fflat, yn ogystal â gosod ffenestri yn y to.
-
Gweithiwr twnelu
Mae cyflogau oddeutu £25,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Gweithwyr twnelu sy’n adeiladu’r twneli tanddaearol sydd eu hangen ar gyfer gwasanaethau fel rheilffyrdd a gwaith dŵr. Maent yn helpu gyda chloddio, cynnal a ffurfio twneli a siafftiau yn y tir sy’n gysylltiedig â’r broses adeiladu er mwyn darparu gofod, twnnel neu siafft o dan y ddaear.
-
Gweithiwr tynnu asbestos
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithwyr tynnu asbestos yn mynd ati i dynnu deunyddiau sy’n cynnwys asbestos yn ddiogel. Mae asbestos yn gymysgedd o fwynau sy'n cynnwys ffibrau microsgopig, a oedd yn cael eu defnyddio’n draddodiadol ar gyfer insiwleiddio. Mae bellach wedi’i wahardd yn y DU oherwydd y risgiau i iechyd ond mae’n dal i fod yn bresennol mewn llawer o adeiladau. Wrth i waith adnewyddu gael ei wneud, bydd galw o hyd am weithwyr tynnu asbestos hyfforddedig.
-
Gweithredwr CAD
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithredwyr dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD) yn defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol i gynhyrchu lluniadau 2D a 3D ar gyfer prosiectau adeiladu a gweithgynhyrchu. Fel gweithredwr CAD, efallai y byddwch yn dylunio adeiladau, peirianwaith neu gydrannau. Byddech yn cymryd gwybodaeth gymhleth ac yn ei defnyddio i gynhyrchu diagramau adeiladu technegol ar gyfer penseiri, peirianwyr a gweithredwyr adeiladu eraill.
-
Gweithredwr cloddiwr 360
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithredwr cloddiwr 360 yn rheoli peiriant cloddio mawr sy’n eistedd ar sail sy’n cylchdroi, sy’n eu galluogi i godi symiau mawr o bridd neu ddeunyddiau eraill, a’u symud i unrhyw le o fewn radiws y cerbyd. Mae gweithredwyr cloddwyr 360 yn defnyddio’r peiriannau hyn i glirio tir ar gyfer datblygiadau newydd fel tai neu ffyrdd a gallent hefyd gloddio sylfeini.
-
Gweithredwr craen
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithredwyr craeniau yn gyfrifol am godi a symud deunyddiau o amgylch safle adeiladu mor ddiogel ac effeithlon â phosibl. Fel gyrrwr craen, byddai angen i chi allu meddwl yn ymarferol, a deall sut mae gyrru a chynnal a chadw peiriannau trwm.
-
Gweithredwr offer codi
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithredwyr offer codi yn defnyddio peiriannau fel llwyfannau gwaith uchel symudol, tryciau fforch godi, lifftiau siswrn, offer crog, telehandlers, ac offer crog i godi a chodi llwythi trwm.
-
Gweithredwr peiriannau
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gweithredwyr peiriannau'n defnyddio peiriannau trwm i gloddio, codi a symud deunyddiau ar safleoedd adeiladu. Gallant newid tirweddau yn ddramatig neu osod strwythurau trawiadol o fewn amser byr. Mae gweithredwyr peiriannau fel arfer yn arbenigo mewn un math o gyfarpar, megis turiwr neu graen anferth, ac mae angen ymwybyddiaeth ofodol dda arnynt i symud peiriannau ar raddfa fawr.
-
Gwydrwr
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gwydrwr yn gyfrifol am fesur, gosod a thrwsio gwydr mewn tai, gwestai, siopau a swyddfeydd. Fel gwydrwr, byddai angen i chi ddewis gwydr priodol ar gyfer y dasg dan sylw, tynnu'r hen baenau a rhai sydd wedi torri, a sicrhau bod y gwydr wedi’i selio i ddal dŵr.
-
Gyrrwr rig
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gyrwyr rig yn gweithredu offer adeiladu er mwyn gyrru colofnau o bren, dur neu goncrid yn y ddaear i gynnal adeiladau, pontydd, pierau a strwythurau eraill.
-
Gyrrwr siyntiau
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gyrrwr siyntiau yn gyfrifol am sicrhau bod cerbydau’n symud yn ddiogel ar safleoedd adeiladu. Gallai hyn gynnwys cerbydau nwyddau trwm neu drelars, a gall olygu symud nwyddau o amgylch y safle, i fannau storio neu lwytho, neu i gael eu codi gan weithwyr eraill.
-
Gyrrwr wagen fforch godi
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gyrrwr wagen fforch godi yn gyfrifol am ddanfon, symud, llwytho a dadlwytho amrywiaeth o nwyddau mewn warysau ac ar safleoedd adeiladu.
-
Mecanydd peiriannau
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae mecanyddion peiriannau yn trwsio ac yn cynnal a chadw'r peiriannau anferth ar safleoedd adeiladu, gan gynnwys cymysgwyr concrid, cloddwyr, symudwyr pridd, craeniau, teirw dur a lorïau dadlwytho.
-
Modelwr trafnidiaeth
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae modelwyr trafnidiaeth yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol arbenigol i ddylunio a datblygu llwybrau trafnidiaeth. Fel modelydd trafnidiaeth, gallech ddylunio sut mae gosodiadau ffyrdd newydd yn cysylltu â systemau trafnidiaeth presennol. Gallech fod yn dylunio systemau unffordd neu wyriadau, tra bod ffyrdd eraill yn cael eu hatgyweirio, neu’n cynllunio systemau trafnidiaeth cyn digwyddiadau mawr, fel gwyliau neu brotestiadau.
-
Peintiwr ac addurnwr
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae paentwyr ac addurnwyr yn dod â lleoedd bob dydd yn fyw. Maent yn paratoi ac yn gosod paent, papur wal a gorffeniadau eraill ar arwynebau, dan do ac yn yr awyr agored. Fel paentiwr ac addurnwr, byddai galw mawr am eich gwasanaeth. Gallech chwarae rhan allweddol yn y gwaith o drawsnewid prosiectau preswyl, masnachol a diwydiannol, neu gallech arbenigo mewn gwaith adnewyddu neu gynnal adeiladau treftadaeth.
-
Peiriannwr pren
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peiriannwr pren yn torri ac yn paratoi pren ar gyfer prosiectau adeiladu. Gallan nhw gynhyrchu pren ar gyfer paneli, estyll llawr, cownteri cegin, bariau, canllawiau grisiau, sgyrtins, fframiau ffenestri a drysau, a mwy. Fel peiriannwr pren, byddai angen dealltwriaeth dda arnoch o wahanol fathau o bren a’u defnyddiau, a’r gallu i ddefnyddio amrywiaeth o offer llaw a pheiriannau.
-
Peiriannydd adran dwnelu
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peiriannydd adran dwnelu yn ymwneud â’r gwaith o gynllunio a dylunio prosiectau twnelu. Gall hyn gynnwys dylunio strwythurau twnnel a chaffael y deunyddiau sydd eu hangen i’w hadeiladu.
-
Peiriannydd amgylcheddol
Mae cyflogau oddeutu £90,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr amgylcheddol yn canolbwyntio ar warchod yr amgylchedd drwy leihau gwastraff a llygredd. Mae peirianwyr amgylcheddol yn gwneud y defnydd gorau posibl o adnoddau naturiol, yn helpu i ddatblygu adnoddau ynni adnewyddadwy ac yn gwneud cymaint o ddefnydd â phosibl o ddeunyddiau presennol. Maen nhw’n dylunio technolegau a phrosesau sy’n rheoli llygredd ac yn glanhau unrhyw halogiad.
-
Peiriannydd awyru twnelu
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr awyru twnelu yn cynllunio, dylunio a galluogi systemau awyru mewn prosiectau twnelu. Maent yn gweithio'n agos gyda dylunwyr i arwain prosiectau awyru twneli, gan sicrhau bod dyluniadau arfaethedig yn briodol ac yn ddiogel.
-
Peiriannydd deunyddiau
Mae cyflogau oddeutu £65,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr deunyddiau yn cyrchu, profi ac yn asesu'r deunyddiau a ddefnyddir wrth adeiladu. Maent yn sicrhau bod sylfeini a deunyddiau adeiladu yn addas ac yn cynnig cyfarwyddyd ar y deunyddiau gorau i'w defnyddio ar gyfer prosiect, yn seiliedig ar eu priodweddau unigol, costau prosiect ac amserlenni.
-
Peiriannydd draenio
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peiriannydd draenio’n gyfrifol am ddylunio systemau sy’n symud dŵr neu garthion o un lle i’r llall, mor ddiogel ac mor effeithlon â phosibl. Gall hyn gynnwys ymweld â safleoedd i gael dealltwriaeth o ofynion prosiectau, yn ogystal â dylunio a goruchwylio’r gwaith o osod y systemau hyn.
-
Peiriannydd geo-dechnegol
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gan beiriannydd geo-dechnegol rôl bwysig yn y gwaith o ddadansoddi pridd, creigiau, dŵr daear a deunyddiau pridd eraill cyn prosiectau adeiladu mawr. Gall y dadansoddiad hwn helpu i benderfynu pa ddeunyddiau y mae’n rhaid eu defnyddio yn nyluniad cyffredinol neu sylfaen y strwythur, neu a oes angen mesurau ychwanegol i sicrhau bod y prosiect yn ddiogel.
-
Peiriannydd Gosod Allan
Mae cyflogau oddeutu £55,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr gosod yn defnyddio cynlluniau safleoedd, technoleg ac offerynnau manwl cywir i nodi a marcio nodweddion strwythurol uwchlaw ac o dan y ddaear cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau. Maent yn defnyddio marcwyr clir i nodi ble mae strwythurau'n mynd i gael eu gosod, gan gynnwys mynediad ffyrdd, sylfeini, nwy, cyfleusterau trydan a dŵr, a systemau draenio. Maent yn sicrhau fod gweithwyr ar y safle yn cadw at y marciau hyn.
-
Peiriannydd gwasanaethau adeiladu
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr gwasanaethau adeiladu yn gosod, yn cynnal ac yn dylunio’r systemau sy’n gwneud adeiladau’n ddiogel, yn gyfleus ac yn gyfforddus. Fel peiriannydd gwasanaethau adeiladu, gallech fod yn gosod neu’n gwasanaethu offer mewn adeiladau fel swyddfeydd, ysbytai neu ganolfannau siopa.
-
Peiriannydd gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC)
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC) yn gosod ac yn gwasanaethu systemau ansawdd aer a thymheredd mewn cartrefi, busnesau a cherbydau.
-
Peiriannydd mecanyddol a pheiriannau
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Fel peiriannydd mecanyddol a pheiriannau, byddwch yn archwilio, dylunio, gosod, neu atgyweirio peiriannau ac offer i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda, yn gweithio’n ddiogel ac yn rhedeg yn llyfn.
-
Peiriannydd priffyrdd
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr priffyrdd yn gyfrifol am sicrhau bod y miloedd o filltiroedd o ffyrdd ledled Prydain mewn cyflwr da. Mae tair prif gangen i beirianneg priffyrdd: cynllunio, ymchwil ac adeiladu. Mae’r rhan fwyaf o beirianwyr priffyrdd yn arbenigo mewn un o’r meysydd hyn.
-
Peiriannydd prosesau niwclear
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr prosesau niwclear yn gyfrifol am ddylunio a rheoli defnyddiad diogel a chynhyrchiol gorsafoedd ynni niwclear. Maent yn datblygu’r prosesau a’r offerynnau a ddefnyddir i gynhyrchu ynni, i’w ddosbarthu i gartrefi a busnesau.
-
Peiriannydd sifil
Mae cyflogau oddeutu £80,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr sifil yn cynllunio, dylunio a rheoli prosiectau adeiladu mawr. Gallai hyn gynnwys pontydd, adeiladau, cysylltiadau trafnidiaeth a strwythurau mawr eraill. Maent yn defnyddio meddalwedd modelu cyfrifiadurol a data o arolygon, profion a mapiau i greu glasbrintiau prosiect. Mae'r cynlluniau hyn yn cynghori contractwyr ar y ffordd orau o weithredu ac yn helpu i leihau effaith a risg amgylcheddol.
-
Peiriannydd simneiau
Mae cyflogau oddeutu £20,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr simneiau yn gosod ac yn cynnal systemau simneiau a ffliwiau yn unol â’r rheoliadau a’r ddeddfwriaeth adeiladu gyfredol. Fel peiriannydd simneiau, bydd angen i chi ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch caeth, oherwydd efallai y byddwch yn gweithio mewn mannau uchel, gyda chymorth harnais a chyfarpar diogelu.
-
Peiriannydd strwythurol
Mae cyflogau oddeutu £55,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr strwythurol yn sicrhau y gall strwythurau wrthsefyll y straen a'r pwysau a roddir arnynt gan ddefnydd a'r amgylchedd. Maent yn cyfrifo sefydlogrwydd, cryfder ac anhyblygrwydd ac yn sicrhau fod y deunyddiau cywir yn cael eu defnyddio ar gyfer pob prosiect, p’un a yw'n adeilad newydd, yn addasiad neu'n waith adnewyddu. Fel peiriannydd strwythurol, gallech weithio ar brosiectau preswyl, siopau a swyddfeydd, pontydd a rigiau ar y môr, theatrau, amgueddfeydd ac ysbytai, neu hyd yn oed loerennau gofod.
-
Peiriannydd systemau rheilffordd
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peiriannydd systemau rheilffordd yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth ac arbenigedd peirianneg dechnegol ar brosiectau a systemau rheilffordd fel pŵer tyniant, rheolyddion signalau trenau a thraffig, casglu tocynnau, cerbydau rheilffyrdd a mwy.
-
Peiriannydd trydanol
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr trydanol yn dylunio, datblygu a chynnal systemau trydanol ar gyfer adeiladau, systemau trafnidiaeth a rhwydweithiau dosbarthu pŵer. Maent yn gweithio o fewn ac ar draws sawl diwydiant, megis adeiladu, trafnidiaeth, ynni (gan gynnwys ynni adnewyddadwy), gwasanaethau adeiladu a gweithgynhyrchu. Mae peirianwyr trydanol angen dealltwriaeth dda o wyddor peirianneg, a meddu ar sgiliau mathemateg a chyfrifiadurol cryf.
-
Peiriannydd tyrbinau gwynt
Mae cyflogau oddeutu £80,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr tyrbinau gwynt yn ymchwilio, yn dylunio ac yn goruchwylio’r gwaith o adeiladu ffermydd gwynt ar y tir ac ar y môr yn ogystal â gorsafoedd pŵer.
-
Peiriannydd weldio
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae peirianwyr weldio wedi’u hyfforddi fel weldwyr, ac yn gwneud gwaith dylunio, cynnal a datblygu ar amrywiaeth eang o systemau weldio mewn diwydiannau fel awyrofod, adeiladu a pheirianneg sifil. Efallai y byddan nhw’n ymchwilio i dechnegau weldio mwy effeithiol neu’n dylunio offer mwy effeithlon i helpu gyda’r broses weldio.
-
Pensaer
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae penseiri yn llunio ein hamgylchedd yn greadigol trwy ddylunio'r adeiladau a'r gofodau o'n cwmpas. Maent yn dod â strwythurau newydd yn fyw ac yn adfer neu'n adnewyddu'r rhai presennol. Mae penseiri yn cydweithredu ag eraill i sicrhau bod dyluniadau'n addas at y diben ac yn ddiogel, p'un a ydynt yn gweithio ar adeiladau unigol neu ddatblygiadau mawr.
-
Pensaer tirlunio
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae penseiri tirlunio yn creu lleoedd i bobl fyw, gweithio a chwarae, a lleoedd i blanhigion ac anifeiliaid ffynnu. Fel pensaer tirlunio, ni fydd yr un ddau ddiwrnod yr un fath; gallech fod allan yn arolygu safleoedd neu’n cynnal asesiadau o’r effaith amgylcheddol un diwrnod, ac wedyn y diwrnod nesaf gallech fod yn y swyddfa yn ysgrifennu adroddiadau ac yn llunio contractau.
-
Plastrwr
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae plastrwyr yn llyfnu neu'n creu gorffeniad addurnol ar waliau a nenfydau mewnol. Maent hefyd yn rhoi rendr a gorffeniadau ar waliau allanol. Mae'r rhan fwyaf o adeiladau newydd a llawer o brosiectau adnewyddu yn galw am blastrwr, i roi naws newydd i ystafell, atgyweirio difrod neu ddod â lle yn ôl yn fyw.
-
Plymwr
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae plymwyr yn gosod ac yn cynnal systemau dŵr mewn adeiladau. Mae hyn yn cynnwys toiledau, baddonau, cawodydd, sinciau, peiriannau golchi a pheiriannau golchi llestri. Gallent hefyd osod systemau gwres canolog ond mae angen cymwysterau ychwanegol arnynt i weithio â boeleri nwy. Mae plymwyr yn gosod pibellau newydd, yn gwasanaethu systemau hŷn, yn adnabod ac yn atgyweirio diffygion, a gallent ateb galwadau brys pan fydd systemau dŵr neu wresogi wedi'u difrodi.
-
Prisiwr tir ac eiddo
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae priswyr tir ac eiddo yn rhoi cyngor proffesiynol i unigolion a busnesau sy’n prynu, gwerthu a rhentu tir ac eiddo. Maent yn amcangyfrif gwerth tir, adeiladau ac eiddo tirol ar y farchnad, er mwyn helpu eu cleientiaid i wneud yr elw mwyaf o gytundeb gwerthu neu rentu.
-
Profwr trydanol
Mae cyflogau oddeutu £36,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae profwyr trydanol yn arolygu, yn profi ac yn archwilio gosodiadau trydanol mewn cartrefi a busnesau. Maent yn dod o hyd i namau ac yn cwblhau adroddiadau prawf i gadarnhau pa offer sy’n gweithio’n ddiogel ac yn effeithlon a pha rai sy’n cael eu condemnio fel rhai sy’n anniogel i’w defnyddio.
-
Prynwr
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae prynwyr yn y diwydiant adeiladu yn caffael yr holl ddeunyddiau sydd eu hangen ar gyfer prosiectau adeiladu ac yn sicrhau eu bod yn cael eu darparu ar amser ac o fewn y cyllidebau a ddyrannwyd. Maent yn chwarae rôl hanfodol gan eu bod yn sicrhau proffidioldeb contractau busnes, drwy brynu’r deunyddiau mwyaf cost-effeithiol a phriodol ar gyfer pob tasg.
-
Prynwr tir
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae prynwr tir yn gyfrifol am helpu busnesau ac unigolion i brynu tir sy’n addas ar gyfer adeiladu. Fel prynwr tir, byddwch yn dod o hyd i safleoedd addas ar gyfer prosiectau adeiladu, yn penderfynu a oes angen caniatâd cynllunio ac yn canfod a fydd unrhyw gyfyngiadau o ran yr hyn y gellir ei adeiladu.
-
Rigiwr rhwydi diogelwch
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rigwyr rhwydi diogelwch yn cydosod, yn gosod, yn cynnal ac yn sicrhau rhwydi diogelwch ar gyfer amryw o brosiectau adeiladu. Mae’r systemau rhwydi diogelwch maen nhw’n eu darparu yn cynnig amddiffyniad rhag cwympo i weithwyr adeiladu sy’n gweithio mewn mannau uchel. Maen nhw’n sicrhau diogelwch cyffredinol ar y safle a rhaglenni adeiladu effeithlon drwy osod rhwydi diogelwch i’r safon gywir.
-
Rheolwr adeiladu
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr adeiladu yn gyfrifol am reoli a chynllunio pob cam o brosiect adeiladu yn ymarferol. Maent yn sicrhau bod prosiectau adeiladu’n cael eu cwblhau’n ddiogel, o fewn y gyllideb ac yn brydlon. Fel rheolwr adeiladu, byddech chi’n goruchwylio amserlenni gwaith ac yn dirprwyo tasgau i’ch tîm i sicrhau bod pob cam o’r gwaith adeiladu yn mynd yn unol â’r cynllun.
-
Rheolwr asedau
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr asedau yn rheoli ac yn monitro asedau cwmni. Gall hyn gynnwys eiddo, arian, stociau, cyfranddaliadau a bondiau, nwyddau, ecwiti a chynhyrchion ariannol eraill. Fel rheolwr asedau, byddech yn anelu at sicrhau'r enillion mwyaf posibl ar fuddsoddiad eich cyflogwr. Byddech yn sicrhau bod eu prosiectau'n gwella incwm a sefydlogrwydd ariannol.
-
Rheolwr bidio
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwr bidio yn gyfrifol am baratoi ac ysgrifennu’r dogfennau masnachol manwl, megis holiaduron cyn-gymhwyso (PGQs) a thendrau, y mae cwmnïau'n eu cyflwyno i ennill contractau newydd. Mae'n swydd bwysig iawn o fewn sefydliad gan fod angen sgiliau trefnu rhagorol ac mae'n hanfodol i gwmnïau ennill contractau newydd.
-
Rheolwr contractau
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwr contractau yn y diwydiant adeiladu yn rheoli contractau sy'n ymwneud a phrosiectau adeiladu. Maen nhw’n astudio elfennau cyfreithiol contractau ac yn helpu i negodi telerau ac amodau gyda chleientiaid a thrydydd partïon, cyn llunio dogfennau cyfreithiol i amlinellu telerau’r gwasanaeth a chyflawniadau’r prosiect.
-
Rheolwr cydymffurfiaeth
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr cydymffurfiaeth yn sicrhau bod busnes, ei gyflogeion a’i brosiectau yn cydymffurfio â’r holl reoliadau a manylebau perthnasol. Gallai hyn gynnwys safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, cyfreithiol neu ansawdd, yn ogystal ag unrhyw bolisïau moesegol sydd gan y cwmni.
-
Rheolwr cyfleusterau
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr cyfleusterau yn goruchwylio gweithrediadau a chynnal a chadw adeiladau a thiroedd trwy ymateb i anghenion defnyddwyr. Fel rheolwr cyfleusterau, gallech fod yn gyfrifol am wasanaethau gan gynnwys adeiladau, glanhau, arlwyo, lletygarwch, diogelwch neu barcio. Bydd angen sicrhau fod y mannau rydych yn eu rheoli yn bodloni safonau iechyd a diogelwch ac yn gweithredu yn ôl y bwriad.
-
Rheolwr cynaliadwyedd
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwr cynaliadwyedd yn goruchwylio'r gwaith o roi strategaethau cynaliadwyedd ar waith yn ystod prosiect adeiladu. Mae hyn fel arfer yn ymwneud ag effeithiau amgylcheddol y gwaith sy’n cael ei wneud, er mwyn sicrhau bod y prosiect yn glynu wrth y dulliau mwyaf cyfeillgar posibl o safbwynt amgylcheddol ac economaidd.
-
Rheolwr datblygu busnes
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr datblygu busnes yn gyfrifol am sbarduno twf busnes o fewn cwmni. Maent yn datblygu rhwydwaith o gysylltiadau i ddenu cleientiaid newydd, yn ymchwilio i gyfleoedd newydd yn y farchnad ac yn goruchwylio prosiectau twf, yn rhagamcanu gwerthiant ac yn rhagweld refeniw, yn unol â’r incwm a ragwelir.
-
Rheolwr depo
Mae cyflogau oddeutu £65,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Rheolwr depo yn y diwydiant adeiladu sy’n gyfrifol am reoli deunyddiau adeiladu. Mae hyn yn cynnwys rheoli'r nwyddau sy’n dod i mewn ac allan o ddepos, warysau a ffatrïoedd, goruchwylio staff depos a monitro lefelau stoc i sicrhau bod modd bodloni’r holl ofynion ac archebion.
-
Rheolwr desg llogi peiriannau
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr desg llogi peiriannau yn gyfrifol am drefnu i logi peiriannau, offer a chyfarpar i gwsmeriaid a chwmnïau adeiladu. Fel rheolwr desg llogi peiriannau, bydd disgwyl bod gennych sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid rhagorol a’ch bod yn datblygu perthnasoedd proffesiynol â chleientiaid.
-
Rheolwr dogfennau
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolydd dogfennau yn cynnal dogfennau prosiectau. Maent yn sicrhau fod y wybodaeth gywir yn cael ei dosbarthu drwy’r sefydliad, yn brydlon, i’r bobl sydd ei angen. Yn y diwydiant adeiladu, mae rheolyddion dogfennau yn gweithio â dogfennau technegol megis glasbrintiau ac adroddiadau. Maent yn trefnu ac yn storio dogfennau electronig a chopïau caled ar gyfer dylunwyr, syrfewyr, penseiri a chydweithwyr eraill.
-
Rheolwr dylunio
Mae cyflogau oddeutu £90,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr dylunio yn cydlynu'r holl waith dylunio sydd eu hangen yn ystod prosiectau adeiladu. Maent yn rheoli'r gwaith o gynhyrchu lluniadau technegol a chynlluniau a ddefnyddir i adeiladu strwythur. Mae rheolwyr dylunio yn dod â phenseiri, peirianwyr strwythurol a gwasanaeth, dylunwyr arbenigol a thechnegwyr BIM ynghyd i greu dyluniadau cydlynol y gellir eu defnyddio yn ystod y gwaith adeiladu ac i helpu i gynnal a chadw’r strwythur ar ôl ei gwblhau.
-
Rheolwr dysgu a datblygu
Mae cyflogau oddeutu £65,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr dysgu a datblygu yn ymdrin â hyfforddiant a datblygiad proffesiynol gweithwyr y cwmni. Maen nhw’n manteisio i’r eithaf ar dalentau pobl ac yn eu helpu i ddatblygu i’w llawn botensial. Maen nhw’n canolbwyntio’n bendant ar yr hyn y mae’r dysgwr ei eisiau a’i angen, a hefyd ar anghenion y sefydliad.
-
Rheolwr masnachol
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr masnachol yn gyfrifol am y gyllideb ac yn cadw llygad ar yr holl gostau sy’n gysylltiedig â phrosiectau adeiladu mawr. Maent yn dod o hyd i’r gwasanaethau a’r adnoddau sydd eu hangen, ac yn trafod costau gyda chyflenwyr eraill. Maent yn goruchwylio prosiectau ac yn monitro cynlluniau i sicrhau y cedwir at derfynau amser, bod prosiectau’n aros o fewn y gyllideb a bod y gwaith yn cyrraedd y safon.
-
Rheolwr peiriannau
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr peiriannau yn gyfrifol am yr holl beiriannau trwm a ddefnyddir ar safle adeiladu. Maent yn gyfrifol am baratoi adroddiadau a chadw cofnodion sy’n nodi’r holl weithrediadau ar y safle.
-
Rheolwr peirianneg rheilffyrdd
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwr peirianneg rheilffyrdd yn gyfrifol am arwain a gweithredu gwaith dylunio peirianneg ar gyfer prosiectau ar reilffyrdd. Maen nhw’n asesu’r sgiliau a’r manylebau sydd angen, ac yna’n goruchwylio gweithrediadau busnes i sicrhau bod briffiau prosiect yn cael eu dilyn a’u gweithredu’n gywir.
-
Rheolwr prosiect
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr prosiect yn goruchwylio'r gwaith o gynllunio a chyflawni prosiectau adeiladu. Maent yn sicrhau fod gwaith yn cael ei gwblhau yn brydlon ac o fewn y gyllideb. Maent yn trefnu logisteg, yn dirprwyo gwaith ac yn cadw llygaid ar wariant. Fel rheolwr prosiect, byddech yn cysylltu â chleientiaid a gweithwyr adeiladu proffesiynol i drefnu amserlenni a chyfarwyddo gweithgarwch.
-
Rheolwr prosiectau trydanol
Mae cyflogau oddeutu £75,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr prosiectau trydanol yn goruchwylio’r gwaith o osod systemau trydanol a chyflenwi trydan i gartrefi, busnesau a seilwaith, fel ffyrdd neu orsafoedd pŵer.
-
Rheolwr risg
Mae cyflogau oddeutu £75,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr risg yn nodi ac yn asesu bygythiadau posibl i brosiectau adeiladu. Maent yn ystyried risgiau ariannol, cyfreithiol, amgylcheddol ac enw da, ynghyd â risgiau i'r gweithlu a'r sefydliad y maent yn gweithio iddo. Maent yn cydweithio'n agos â rheolwyr prosiectau, timau iechyd a diogelwch, a thimau adnoddau dynol a chyfreithiol. Bydd rheolwyr risg yn creu polisïau i amddiffyn asedau a lleihau damweiniau, camgymeriadau, colledion ariannol neu atebolrwydd cyhoeddus.
-
Rheolwr safle
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr safle yn trefnu gwaith ar safleoedd adeiladu, gan sicrhau fod y gwaith wedi'i gwblhau'n ddiogel, ar amser ac o fewn y gyllideb. Fel rheolwr safle, ni fydd unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath. Byddwch yn cysylltu â phenseiri, syrfewyr ac adeiladwyr i sicrhau fod prosiect ar y trywydd iawn a bod digon o staff, peiriannau a deunyddiau i gyflawni'r swydd.
-
Rheolwr sicrhau ansawdd
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Gwaith rheolwr sicrhau ansawdd yw sicrhau bod holl wasanaethau a gweithgareddau cwmni yn cyrraedd ac yn cynnal safonau a osodwyd. Fel rheolwr sicrhau ansawdd, byddwch yn cynnal archwiliadau ac yn cadw cofnodion manwl fel tystiolaeth bod y gwaith o’r ansawdd gorau posibl.
-
Rheolwr tirlunio
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr tirlunio yn cynllunio, yn datblygu ac yn gofalu am fannau yn yr awyr agored, i sicrhau bod pobl yn gallu eu defnyddio a’u mwynhau, nawr ac yn y dyfodol. Maen nhw’n defnyddio eu gwybodaeth am ecosystemau ac ymddygiad pobl i roi cyngor ar brosiectau adeiladu.
-
Rheolwr trafnidiaeth
Mae cyflogau oddeutu £55,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr trafnidiaeth yn gyfrifol am gyfarwyddo, cydlynu, cynllunio a goruchwylio tasgau a gweithrediadau mewn sefydliad sy’n ymwneud â gweithgareddau trafnidiaeth. Mae’n ofynnol iddynt sicrhau bod y gofynion cyfreithiol ar gyfer cludo nwyddau ar y ffyrdd yn cael eu bodloni.
-
Rheolwr ynni
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae rheolwyr ynni yn sicrhau bod sefydliadau yn diwallu eu cyfrifoldebau lleihau ynni, carbon a dŵr.
-
Saer
Mae cyflogau oddeutu £45,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Gwaith Coed yw un o'r crefftau adeiladu hynaf ac mae galw mawr amdano. Mae seiri coed yn defnyddio deunyddiau naturiol (pren/pren) i osod gosodiadau pren a ffitiadau. Fel saer coed gallech fod yn gosod drysau, lloriau a dodrefn mewn adeiladau newydd, adnewyddu neu ail-wampio strwythurau presennol, adeiladu setiau ar gyfer cwmnïau ffilm a theatr a llawer mwy.
-
Saer maen
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae seiri maen yn creu eitemau ymarferol neu hardd (neu'r ddau yn aml) o garreg a all bara am ganrifoedd.
-
Saer Mainc
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae saer mainc yn gweithio oddi ar y safle, gan dorri pren a choed i’r hyd sydd angen ar gyfer prosiectau adeiladu. Gallen nhw weithio i fasnachwr adeiladwyr neu mewn gweithdy, gan greu strwythurau i’w cydosod ar y safle fel ffitiadau drysau neu ffenestri, adeiladau ffrâm bren a mwy.
-
Saer weldio
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae seiri weldio yn torri, yn uno ac yn siapio metel a deunyddiau eraill, gan ddefnyddio gwres ac amrywiaeth o offer. Mae eu hangen ar brosiectau adeiladu o bob maint, er mwyn gwneud unrhyw beth o drwsio peiriannau i godi pontydd. Gall weldwyr helpu i adeiladu’r fframiau dur ar gyfer adeiladau, cefnogi prosiectau diwydiannol, neu hyd yn oed weithio o dan y dŵr ar rigiau olew.
-
Sgaffaldiwr
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae sgaffaldwyr yn codi ac yn datgysylltu sgaffaldiau metel dros dro ar strwythurau a safleoedd adeiladu fel bod pobl eraill yn gallu gweithio mewn mannau uchel a gwneud eu gwaith yn ddiogel. Gall sgaffaldwyr osod sgaffaldiau o amgylch strwythur, neu y tu mewn i adeilad sydd wrthi’n cael ei adeiladu, ei adnewyddu neu ei ddymchwel.
-
Simneiwr
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae simneiwyr yn gwneud gwaith atgyweirio mewn mannau sydd ymhell uwchben y ddaear ar safleoedd adeiladu, gorsafoedd pŵer, adeiladau uchel iawn neu ar henebion a chestyll. Maent yn sicrhau eu bod yn strwythurol gadarn ac efallai y byddant hefyd yn gosod dargludyddion mellt.
-
Swyddog adfywio
Mae cyflogau oddeutu £80,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae swyddog adfywio yn darparu rhaglenni sydd wedi’u dylunio i wella ac adnewyddu adeiladau ac ardaloedd lleol er mwyn eu diweddaru o ran dyluniad, cydymffurfiad iechyd a diogelwch, a’r defnydd presennol. Gall hyn gynnwys gwella ardaloedd difreintiedig, a chael gafael ar y grantiau a’r cyllid sy’n angenrheidiol er mwyn bwrw ymlaen â phrosiectau.
-
Swyddog diogelwch a rheoli traffig
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae swyddog diogelwch a rheoli traffig yn gwneud penderfyniadau pwysig ynghylch y ffordd orau o reoli traffig. Gallai hyn gynnwys sefyllfaoedd fel digwyddiadau traffig, gwaith ffordd wedi’i gynllunio, digwyddiadau mawr neu ddatblygiadau newydd.
-
Swyddog marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
Mae cyflogau oddeutu £100,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae swyddogion marchnata a chysylltiadau cyhoeddus yn gyfrifol am reoli delwedd ac enw da cwmni. Maen nhw’n dylanwadu ar farn ac ymddygiad, yn fewnol ac yn allanol, ar wahanol sianeli cyfathrebu, gan gynnwys gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, sylw yn y wasg a mwy.
-
Swyddog technegol traffig
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae swyddogion technegol traffig yn arwain prosesau rheoli traffig a gwelliannau i ddiogelwch ar y ffyrdd. Fel swyddog technegol traffig, byddech yn gweithio fel rhan o’r tîm sy’n gyfrifol am sicrhau bod rhwydweithiau signalau traffig yn cael eu rheoli’n effeithiol ac yn effeithlon ledled y wlad.
-
SYRFËWR
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae syrfewyr yn darparu cyngor proffesiynol ar ystod o faterion yn ymwneud ag adeiladu. Gallen nhw fod yn sicrhau bod eiddo newydd yn cael ei adeiladu yn unol â rheoliadau a manylebau; cynghori ar gynnal a chadw ac atgyweirio strwythurau presennol neu asesu difrod at ddibenion cyfreithiol ac yswiriant. Mae llawer o syrfewyr yn arbenigo mewn un maes gan fod gan y rôl lawer o gyfrifoldebau.
-
Syrfëwr adeiladu
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae syrfëwr adeiladu yn gyfrifol am gynghori cleientiaid am ddylunio, adeiladu, cynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau. Maent yn arolygu adeiladau ac yna’n adrodd ar eu canfyddiadau ac yn gwneud argymhellion.
-
Syrfëwr asbestos
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae syrfewyr asbestos yn archwilio adeiladau ac yn casglu samplau i weld a oes asbestos yno. Mae asbestos yn ffibr wedi’i greu o fwynau a oedd yn arfer cael ei ddefnyddio’n helaeth ar gyfer ei inswleiddio, ond mae bellach wedi’i wahardd oherwydd risgiau iechyd. Bydd syrfewyr asbestos yn cynnal profion ac efallai y byddant yn argymell cael pobl broffesiynol i dynnu deunyddiau peryglus cyn gwneud gwaith adnewyddu neu ddymchwel.
-
Syrfëwr Hydrograffig
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae syrfewyr hydrograffig yn defnyddio technoleg o’r radd flaenaf i gynhyrchu cynlluniau manwl o wely’r môr, harbyrau a dyfrffyrdd. Maent yn mesur ac yn mapio arwynebau tanddwr ac yn astudio gwneuthuriad gwely’r môr, gan ddangos dyfnder, siâp a chyfuchliniau. Maent yn arbenigo mewn lleoli, caffael a phrosesu data’n fanwl gywir mewn amgylcheddau morol ar y tir neu’r môr.
-
Syrfëwr meintiau
Mae cyflogau oddeutu £65,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae syrfewyr meintiau yn amcangyfrif ac yn rheoli costau ar gyfer prosiectau adeiladu mawr. Maent yn sicrhau fod strwythurau'n bodloni safonau cyfreithiol ac ansawdd. Mae syrfewyr meintiau yn rhan o bob cam o'r prosiect. P’un a ydynt yn gweithio ar brosiectau preswyl, masnachol neu ddiwydiannol, mae cleientiaid yn dibynnu arnynt i sicrhau fod y canlyniad terfynol yn cynnig gwerth am arian.
-
Syrfëwr rheoli adeiladu
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae syrfëwr rheoli adeiladu yn sicrhau bod rheoliadau adeiladu’n cael eu dilyn ar safleoedd adeiladu a phrosiectau newydd. Efallai y bydd gofyn iddynt hefyd arolygu strwythurau sydd wedi’u difrodi neu sy’n ansefydlog er mwyn penderfynu a oes modd eu hatgyweirio’n ddiogel neu a oes angen eu dymchwel.
-
Syrfëwr tir
Mae cyflogau oddeutu £70,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae syrfewyr tir yn mesur ac yn mapio siâp tir. Maent yn casglu data ar gyfer prosiectau peirianneg sifil ac adeiladu fel y gellir lluniadu cynlluniau safle cywir. Fel syrfëwr, byddwch chi'n rhan o ddiwydiant cyflym, datblygedig yn dechnolegol. Fe dreulir llawer o'ch amser ar y safle, gan ddefnyddio offerynnau technegol i gofnodi'r amgylchedd.
-
Syrfëwr triniaethau adfer
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae syrfewyr triniaethau adfer yn archwilio eiddo am ddiffygion. Maen nhw’n ymweld â safleoedd i bennu lefel unrhyw ddifrod ac yn rhoi cyngor ar y ffordd orau o’i drwsio. Maen nhw’n cwblhau adroddiadau manwl, manylebau ac arolygon adeiladau; yn nodi diffygion ac yn cynghori ar opsiynau atgyweirio, cynnal a chadw ac adfer.
-
Technegydd adeiladu
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae technegwyr adeiladu yn helpu gyda thasgau hanfodol sy’n ymwneud â phrosiectau a gwaith adeiladu. Fel technegydd adeiladu, gallech fod yn goruchwylio amrywiaeth o dasgau, o fonitro cynnydd y gwaith adeiladu, i drafod gyda chyflenwyr, paratoi cynlluniau safle ac amcangyfrif costau.
-
Technegydd cynnal a chadw priffyrdd
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae technegwyr cynnal a chadw priffyrdd yn goruchwylio’r gwaith o gynnal a chadw ac atgyweirio priffyrdd a ffyrdd. Maen nhw’n monitro difrod yn rheolaidd, yn delio ag ymholiadau gan y cyhoedd, yn cysylltu ag awdurdodau lleol a chwmnïau cyfleustodau, ac yn gwneud atgyweiriadau i balmentydd, dodrefn stryd, marciau ffordd a mwy.
-
Technegydd ffeibr optig
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Technegwyr ffeibr optig sy’n cynnal systemau ffeibr optig a digidol ac yn gosod rhwydweithiau rhyngrwyd band eang a ffôn.
-
Technegydd maes
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae technegydd maes yn delio â gwasanaethu ar y safle, diagnosteg ac atgyweiriadau ar gyfer offer neu gynnyrch trydanol cwmni. Gall hyn amrywio o gyfrifiaduron, systemau gwresogi ac oeri, systemau diogelwch, peiriannau trwm a mwy. Gall technegwyr maes weithio mewn ffatrïoedd, safleoedd gweithgynhyrchu neu ar safleoedd adeiladu.
-
Technegydd peirianneg sifil
Mae cyflogau oddeutu £37,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae technegwyr peirianneg sifil yn rhoi cymorth technegol i beirianwyr ar brosiectau adeiladu. Maent yn tueddu i arbenigo mewn un maes o beirianneg sifil, fel dylunio, cynllunio neu logisteg a gallant fod yn ymwneud â phrosiectau sy’n amrywio o adeiladu pontydd, i ledu ffyrdd, neu greu seilwaith newydd.
-
Technegydd peirianneg strwythurol
Mae cyflogau oddeutu £35,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae gan dechnegydd peirianneg strwythurol ran allweddol yn y gwaith o ddylunio, cynllunio ac adeiladu prosiectau adeiladu, gan helpu i asesu a yw’r cynlluniau adeiladau a’r deunyddiau’n addas. Maen nhw’n gweithio’n agos gyda thimau dylunio a phenseiri i sicrhau bod strwythur yn ddiogel.
-
Technegydd pensaernïol
Mae cyflogau oddeutu £48,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae technegwyr pensaernïol yn arbenigo mewn cyflwyno dyluniadau adeiladu gan ddefnyddio technoleg. Maen nhw’n rhoi arweiniad technegol i gleientiaid ac yn cysylltu â thimau dylunio adeiladu i ddod â strwythurau newydd yn fyw. Fel technegydd pensaernïol, byddech yn gweithio gyda phenseiri i helpu i ddatblygu modelau adeiladu, cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.
-
Teilsiwr waliau a lloriau
Mae cyflogau oddeutu £30,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae teilswyr waliau a lloriau yn gorchuddio waliau, lloriau ac arwynebau eraill gyda theils, mewn ceginau, ystafelloedd ymolchi, siopau, gwestai, bwytai a mwy. Maent yn gweithio ar adeiladau newydd neu ar waith adnewyddu preifat a masnachol.
-
Tiwtor Addysg Bellach
Mae cyflogau oddeutu £50,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae tiwtoriaid Addysg Bellach yn dysgu myfyrwyr a phrentisiaid dros 16 oed. Maen nhw’n datblygu dealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol myfyrwyr o amrywiaeth eang o gyrsiau ac yn eu hyfforddi ar gyfer gyrfaoedd ym maes adeiladu neu beirianneg.
-
Töwr diddosi hylifol
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae towyr diddosi hylifol yn gosod pilenni hylifol amddiffynnol ar strwythurau to fflat newydd neu bresennol i sicrhau eu bod yn dal dŵr. Gallant ddod o hyd i waith gyda chwmnïau toi arbenigol, contractwyr adeiladu, awdurdodau lleol a sefydliadau cyhoeddus eraill.
-
Töwr plwm
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae töwr plwm yn gyfrifol am weithio ar amrywiaeth o adeiladau – o dai i strwythurau rhestredig, eglwysi a chadeirlannau. Gall hyn olygu archwilio, tynnu neu drwsio dalennau plwm presennol neu osod dalennau newydd.
-
Trydanwr
Mae cyflogau oddeutu £36,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae trydanwyr yn darparu ynni i adeiladau i oleuo ystafelloedd, cynhesu dŵr a phweru dyfeisiau. Maent yn gosod, archwilio a phrofi offer trydanol, gan sicrhau ei fod yn gweithio'n iawn ac yn ddiogel. Fel trydanwr, gallech fod yn cynnal systemau traddodiadol mewn cartrefi, siopau a swyddfeydd. Mae rhai trydanwyr yn gweithio â thechnoleg adnewyddadwy neu opteg ffibr. Mae eraill yn gwasanaethu moduron, trawsnewidyddion, goleuadau stryd neu systemau traffig, neu'n gweithio ar brosiectau peirianneg.
-
Uwch beiriannydd deunyddiau
Mae cyflogau oddeutu £40,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Mae uwch beirianwyr deunyddiau’n sicrhau cydymffurfiad â’r manylebau.
-
Ymgynghorydd Treftadaeth
Mae cyflogau oddeutu £60,000. Bydd cyflogau yn amrywio yn dibynnu ar leoliad/cyflogwr
Swydd ymgynghorydd treftadaeth yw rheoli prosiectau adeiladu ac adfer ar safleoedd treftadaeth, fel adeiladau hanesyddol neu restredig, tirweddau, amgueddfeydd ac eiddo eraill, drwy roi arweiniad ar faterion treftadaeth a llunio strategaethau i’w rheoli.