Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae trydanwyr yn darparu ynni i adeiladau i oleuo ystafelloedd, cynhesu dŵr a phweru dyfeisiau. Maent yn gosod, archwilio a phrofi offer trydanol, gan sicrhau ei fod yn gweithio'n iawn ac yn ddiogel. Fel trydanwr, gallech fod yn cynnal systemau traddodiadol mewn cartrefi, siopau a swyddfeydd. Mae rhai trydanwyr yn gweithio â thechnoleg adnewyddadwy neu opteg ffibr. Mae eraill yn gwasanaethu moduron, trawsnewidyddion, goleuadau stryd neu systemau traffig, neu'n gweithio ar brosiectau peirianneg.
£17000
-£36000
30-40
Mae yna sawl llwybr i ddod yn drydanwr. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy gwblhau cwrs coleg neu brentisiaeth. Os oes gennych brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallech anfon cais am swydd yn uniongyrchol at gyflogwr.
Dylech archwilio'r opsiynau i ddod o hyd i’r un sy'n iawn i chi.
Mae angen golwg lliw normal arnoch i weithio â gwifrau trydanol a bydd rhaid pasio prawf asesu golwg lliw.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Efallai y bydd eich coleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau a fydd yn ddechrau ar eich llwybr gyrfa i ddod yn drydanwr.
Gallech gofrestru ar gwrs Diploma Lefel 2 a 3 City & Guilds mewn Gosodiadau Trydanol.
Byddwch angen:
Mae prentisiaeth gyda chwmni gosodiadau trydanol yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant.
Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 mlwydd oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.
Mae prentisiaeth gosodiadau trydanol canolradd yn cymryd tua dwy flynedd i'w chwblhau. Os yw’ch cyflogwr yn gallu cynnig y profiadau priodol i chi, gallech symud ymlaen i gwblhau cymhwyster Lefel 3 (uwch).
Yn gyffredinol, bydd angen 4 cymhwyster TGAU (neu gyfwerth) arnoch â graddau 9 - 4 (A* - C), yn cynnwys Saesneg a mathemateg, i ddod yn brentis trydanwr.
Os oes gennych rywfaint o gymwysterau TGAU (neu gyfwerth) gan gynnwys Saesneg a mathemateg, ynghyd â sgiliau ymarferol da, efallai y gallwch gael swydd fel cynorthwyydd neu hyfforddai trydanwr. Yna, efallai y gall eich cyflogwr eich hyfforddi i ennill cymwysterau llawn.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant. Gallech gael y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes gosodiadau trydanol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.
Fel trydanwr, gallech fod yn gwneud y canlynol:
Satsuki Harris
Mae Satsuki Harris yn drydanwr gyda Lovell ar safleoedd ledled Llundain.
Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer trydanwyr:
Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.
Ar ôl cael rhywfaint o brofiad, gallech ddod yn beiriannydd gwasanaethau adeiladu. Gallech hefyd symud i faes dylunio trydanol.
Mae rhai trydanwyr yn sefydlu eu busnes eu hunain ac yn gweithio fel isgontractwyr i gwmnïau eraill. Mae eraill yn dod yn diwtoriaid ac yn rhannu eu gwybodaeth.