Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae simneiwyr yn gwneud gwaith atgyweirio mewn mannau sydd ymhell uwchben y ddaear ar safleoedd adeiladu, gorsafoedd pŵer, adeiladau uchel iawn neu ar henebion a chestyll. Maent yn sicrhau eu bod yn strwythurol gadarn ac efallai y byddant hefyd yn gosod dargludyddion mellt.
£15000
-£35000
42-44
Mae sawl ffordd o ddod yn simneiwr. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn cwrs coleg, hyfforddiant yn y gwaith drwy brentisiaeth, neu drwy wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn simneiwr, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Does dim gofynion mynediad ffurfiol i fod yn simneiwr, ond gallai TGAU mewn mathemateg, Saesneg, gwyddoniaeth neu ddylunio a thechnoleg fod yn ddefnyddiol.
Gallech ddechrau eich gyrfa drwy astudio cymhwyster sy’n gysylltiedig ag adeiladu, fel gosod brics neu sgaffaldiau, ac wedyn arbenigo i ddod yn simneiwr. Os ydych chi am arbenigo fel peiriannydd dargludyddion mellt, bydd angen i chi feddu ar sgiliau mathemateg a dealltwriaeth sylfaenol o theori drydanol.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Gallech ddechrau eich gyrfa drwy gwblhau prentisiaeth gosod brics neu sgaffaldiau, ac wedyn arbenigo i ddod yn simneiwr.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel simneiwr. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i simneiwr mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel simneiwr. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel simneiwr:
Fel simneiwr, byddwch yn gyfrifol am wneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar safleoedd diwydiannol, adeiladau uchel iawn, a strwythurau tal eraill.
Mae swydd simneiwr yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i simneiwr yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer simneiwyr:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Wrth i chi ennill profiad a sgiliau yn eich gyrfa fel simneiwr neu beiriannydd dargludyddion mellt, gallech chi gael eich dyrchafu i swydd goruchwyliwr neu reolwr.
Neu, gallech fod yn gontractwr hunangyflogedig a gosod eich cyflog eich hun.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod