Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae prynwyr yn y diwydiant adeiladu yn caffael yr holl ddeunyddiau sydd eu hangen ar gyfer prosiectau adeiladu ac yn sicrhau eu bod yn cael eu darparu ar amser ac o fewn y cyllidebau a ddyrannwyd. Maent yn chwarae rôl hanfodol gan eu bod yn sicrhau proffidioldeb contractau busnes, drwy brynu’r deunyddiau mwyaf cost-effeithiol a phriodol ar gyfer pob tasg.
£18000
-£50000
Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn brynwr yn y diwydiant adeiladu, mae sawl llwybr y gallech ei ddilyn i'ch helpu yn yr yrfa hon ym maes caffael. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn brynwr, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech fod yn brynwr drwy gwblhau gradd sylfaen, diploma cenedlaethol uwch (HND) neu radd israddedig mewn pwnc perthnasol, megis astudiaethau busnes, logisteg prynu, neu reoli'r gadwyn gyflenwi.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Ar ôl eich astudiaethau, gallech wneud cais i fod yn brynwr dan hyfforddiant drwy gynllun hyfforddi graddedigion y cwmni adeiladu.
I fod yn brynwr, byddai hyd at 5 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn mathemateg a Saesneg Lefel 4 neu uwch o fudd gan fod y rôl yn gofyn am safon dda o rifedd a llythrennedd.
Gallech chi gwblhau NVQ neu HND mewn rheoli'r gadwyn gyflenwi neu reoli adeiladu, er mwyn cael mwy o wybodaeth am brynu a chaffael, a'ch helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa.
Gallech chi gwblhau prentisiaeth uwch ym maes caffael masnachol a chyflenwi er mwyn eich helpu i fod yn brynwr yn y diwydiant adeiladu.
Bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefel A, neu gymhwyster cyfatebol ar gyfer prentisiaeth uwch neu radd-brentisiaeth.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Os ydych chi'n ystyried swydd fel prynwr, gallech wneud cais i ddechrau eich gyrfa fel cynorthwyydd neu hyfforddai mewn cwmni adeiladu. Wrth i chi gael mwy o brofiad, efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig hyfforddiant yn ymwneud â phrynu a chaffael i'ch helpu i symud ymlaen yn y rôl.
Os oes gennych chi eisoes gymwysterau TGAU neu lefel A (neu gymhwyster cyfatebol) a phrofiad ym maes prynu neu amcangyfrif, efallai y gallwch wneud cais i gyflogwr yn uniongyrchol am rôl fel prynwr.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel prynwr. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
Mae’r sgiliau ychwanegol sy’n gallu bod yn ddefnyddiol i brynwr yn cynnwys:
Mae prynwyr yn sicrhau bod prosiectau adeiladu yn parhau i fod yn broffidiol i’r contractwr drwy brynu deunyddiau cost-effeithiol. Fel prynwr, mae’n ddefnyddiol cael dealltwriaeth o adeiladu, er mwyn i chi ddeall sut mae’r dasg gyfan yn gweithio ac yn ffitio gyda’i gilydd.
Mae dyletswyddau prynwr yn cynnwys:
Mae’r cyflog disgwyliedig i brynwr yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer prynwyr:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel prynwr yn y diwydiant adeiladu, gallech symud ymlaen i swydd uwch fel rheolwr prynu neu reolwr caffael.