Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae peirianwyr tyrbinau gwynt yn ymchwilio, yn dylunio ac yn goruchwylio’r gwaith o adeiladu ffermydd gwynt ar y tir ac ar y môr yn ogystal â gorsafoedd pŵer.
£20000
-£80000
41-43
Mae sawl ffordd o ddod yn beiriannydd tyrbinau gwynt. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu brentisiaeth.
Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn beiriannydd tyrbinau gwynt i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
I fod yn beiriannydd tyrbinau gwynt, gallech chi gwblhau cwrs prifysgol israddedig neu ôl-raddedig mewn pwnc perthnasol, fel:
Bydd angen y canlynol arnoch:
Gallech chi hyfforddi i fod yn beiriannydd tyrbinau gwynt drwy gwblhau gradd-brentisiaeth mewn peirianneg pŵer neu niwclear.
Bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefel A, neu gymhwyster cyfatebol ar gyfer prentisiaeth uwch neu radd-brentisiaeth.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannydd tyrbinau gwynt. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peiriannydd tyrbinau gwynt:
Fel peiriannydd tyrbinau gwynt, byddwch yn cynllunio, yn dylunio ac yn goruchwylio’r gwaith o adeiladu gorsafoedd pŵer gwynt.
Mae swydd peiriannydd tyrbinau gwynt yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannydd tyrbinau gwynt yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer peirianwyr tyrbinau gwynt:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel peiriannydd tyrbinau gwynt, gallech symud i faes cynllunio ar gyfer ynni adnewyddadwy neu ddatblygu polisïau.
Gallech chi hefyd weithio fel ymgynghorydd hunangyflogedig.