Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae peirianwyr deunyddiau yn cyrchu, profi ac yn asesu'r deunyddiau a ddefnyddir wrth adeiladu. Maent yn sicrhau bod sylfeini a deunyddiau adeiladu yn addas ac yn cynnig cyfarwyddyd ar y deunyddiau gorau i'w defnyddio ar gyfer prosiect, yn seiliedig ar eu priodweddau unigol, costau prosiect ac amserlenni.
£20000
-£65000
39-41
36,930
Mae gwahanol lwybrau i ddod yn beiriannydd deunyddiau. Gallech wneud cwrs prifysgol neu brentisiaeth.
Dylech archwilio'r llwybrau hyn i ganfod pa un yw'r un cywir i chi. Er bod gan rai o'r opsiynau hyn ofynion penodol ynghylch cymwysterau, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy'n frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Gallai fod angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch chi i weithio ar safle adeiladu.
Gallech gwblhau gradd sylfaen neu radd israddedig mewn:
Gallech hefyd gwblhau gradd sy'n arbenigo mewn grŵp penodol o ddeunyddiau a'r dulliau i'w defnyddio, megis meteleg, gwyddoniaeth polymer, biodeunyddiau, cerameg a gwydr, neu ddaeareg.
Bydd angen:
Os oes gennych radd israddedig mewn unrhyw beth heblaw peirianneg deunyddiau, efallai y canfyddwch y bydd cymhwyster ôl-raddedig yn agor mwy o gyfleoedd.
Os yw eich gradd yn cael ei hachredu gan gorff proffesiynol perthnasol, megis y Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio, gall eich helpu i gyflawni statws peiriannydd siartredig yn nes ymlaen.
Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda i mewn i'r diwydiant.
Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y swydd a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.
Efallai y byddwch yn gallu gwneud gradd brentisiaeth Technolegydd Gwyddor Deunyddiau.
Fel rheol bydd arnoch angen:
Mae profiad gwaith yn hanfodol i ennill cyflogaeth o fewn y diwydiant adeiladu. Gallech ennill hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peiriannydd deunyddiau:
Fel peiriannydd deunyddiau byddwch yn gyfrifol am archwilio priodoleddau'r deunyddiau amrywiol a ddefnyddir ar gyfer prosiectau adeiladu, ac yna'n dewis y gorau yn seiliedig ar y canfyddiadau hyn.
Mae swydd peiriannydd deunyddiau'n cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mimi-Isabella Nwosu - Peiriannydd Deunyddiau Cynorthwyol
"Roeddwn i eisiau bod yn beiriannydd deunyddiau oherwydd bod gen i ddiddordeb mewn datblygu cynaliadwy ac roeddwn i eisiau [...] adeiladu dyfodol cynaliadwy".
Mae’r cyflog disgwyliedig i beiriannydd deunyddiau'n amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae'r oriau a'r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer peirianwyr deunyddiau:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.
Gyda phrofiad, gallech symud ymlaen i fod yn uwch beiriannydd deunyddiau ac ennill cyflog uwch.
Neu, gallech arbenigo a dod yn arbenigwr mewn deunydd penodol, neu gallech chi ddod yn rheolwr prosiect neu'n beiriannydd sifil neu strwythurol.
Gallech sefydlu eich busnes eich hun a gweithio fel ymgynghorydd deunyddiau llawrydd.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod