Facebook Pixel

Peiriannydd awyru twnelu

Mae peirianwyr awyru twnelu yn cynllunio, dylunio a galluogi systemau awyru mewn prosiectau twnelu. Maent yn gweithio'n agos gyda dylunwyr i arwain prosiectau awyru twneli, gan sicrhau bod dyluniadau arfaethedig yn briodol ac yn ddiogel.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£45000

Oriau arferol yr wythnos

35-40

Sut i ddod yn beiriannydd awyru twnelu?

Mae sawl llwybr i ddod yn beiriannydd awyru twnelu. Fel arfer byddai disgwyl i chi feddu ar radd prifysgol, fodd bynnag fe allech chi hefyd gwblhau cwrs coleg neu brentisiaeth. Os oes gennych brofiad peirianneg perthnasol gallech hefyd wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech archwilio'r llwybrau hyn i ddarganfod pa un yw'r un iawn i chi. Er bod gan rai o'r opsiynau hyn ofynion cymhwyster penodol, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy'n frwdfrydig, yn barod i ddysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen Cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech gwblhau gradd israddedig i ddod yn beiriannydd awyru twnelu.

I astudio ar gyfer gradd israddedig fel arfer bydd angen 2 - 3 chymhwyster Safon Uwch, neu gyfwerth.

Darganfyddwch beth yw’r gofynion mynediad lle rydych chi’n byw.

Coleg/Darparwr Hyfforddiant

Gallech astudio am dystysgrif genedlaethol uwch (HNC) mewn peirianneg fecanyddol i'ch helpu i ddod yn beiriannydd awyru twnelu.

Bydd angen:

  • 4 - 5 TGAU graddau 9 i 4 (A* i C), neu gyfwerth
  • 2 - 3 lefel A, neu gyfwerth.

Darganfyddwch beth yw’r gofynion mynediad lle rydych chi’n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda i mewn i'r diwydiant.

Gallech gwblhau prentisiaeth mewn peirianneg neu ddod yn brentis technegydd gwasanaethau adeiladu, ac yna arbenigo, i ddod yn beiriannydd awyru twnelu.

Mae prentisiaethau ar agor i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi’n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y swydd a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw’r gofynion mynediad lle rydych chi’n byw.

Gwaith

Os oes gennych brofiad mewn maes perthnasol fel peirianneg fecanyddol, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar y safle fel peiriannydd awyru twnelu. Efallai y byddwch chi'n dechrau fel cynorthwyydd i beiriannydd awyru twnelu mwy profiadol a symud ymlaen wrth i'ch galluoedd wella.

Profiad Gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol i gael cyflogaeth yn y diwydiant adeiladu. Gallech ennill hwn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau a gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel peiriannydd awyru twnelu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.

Sgiliau

Mae sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel peiriannydd awyru twnelu yn cynnwys:

  • Y gallu i weithio'n dda dan bwysau
  • Gwybodaeth am beirianneg, gwyddoniaeth a thechnoleg
  • Gwybodaeth am fathemateg a dylunio
  • Gwybodaeth am adeiladu ac adeiladwaith
  • Hyblyg, â’r gallu i addasu ac yn gydweithredol
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf.

Cymwysterau

I ddod yn Beiriannydd Awyru Twnelu, gallech gwblhau:

  • Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Fecanyddol
  • Gradd mewn Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol
  • Gradd Meistr mewn Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol
  • HNC/HND mewn Peirianneg Fecanyddol
  • Prentisiaeth Fodern Lefel 6 a Lefel 7 mewn Gwresogi, Awyru ac Aerdymheru

I ddod yn Beiriannydd Awyru Twnelu, gallech gwblhau:

  • Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Fecanyddol
  • Gradd mewn Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol
  • Gradd Meistr mewn Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol
  • HNC/HND mewn Peirianneg Fecanyddol
  • Prentisiaeth Fodern Lefel 6 a Lefel 7 mewn Gwresogi, Awyru ac Aerdymheru

I ddod yn Beiriannydd Awyru Twnelu, gallech gwblhau:

  • Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Fecanyddol
  • Gradd mewn Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol
  • Gradd Meistr mewn Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol
  • HNC/HND mewn Peirianneg Fecanyddol
  • Prentisiaeth Fodern Lefel 6 a Lefel 7 mewn Gwresogi, Awyru ac Aerdymheru

Beth mae peiriannydd awyru twnelu yn ei wneud?

Fel peiriannydd awyru twnelu, byddwch yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal y cynlluniau o amgylch gosod systemau awyru yn ddiogel. Gallech fod yn gweithio ar amrywiaeth o adeiladau a thwneli tanddaearol, gan gynnwys systemau metro, gorsafoedd rheilffordd, twneli ffordd, twneli cebl, a thwneli prosesu a mwyngloddio.

Mae rôl peiriannydd awyru twnelu yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:

  • Cynllunio, dylunio a gosod systemau awyru mewn prosiectau twnelu
  • Gweithio ar ystod o systemau i sicrhau bod twneli'n ddiogel ac yn addas i'r diben
  • Cynllunio a goruchwylio comisiynu, gweithredu, adnewyddu ac uwchraddio seilwaith twneli
  • Defnyddio mecaneg hylif, ar gyfer modelu tân ac awyru
  • Defnyddio thermodynameg
  • Rhoi peirianneg diogelwch tân ar waith
  • Cynnal dadansoddiad risg.

Faint allech chi ei ennill fel peiriannydd awyru twnelu?

Mae cyflog disgwyliedig peiriannydd awyru twnelu yn amrywio wrth i chi ddod yn fwy profiadol.

  • Gall peirianwyr awyru twnelu sydd newydd eu hyfforddi ennill rhwng £25,000 - £30,000
  • Gall peirianwyr awyru twnelu hyfforddedig sydd â rhywfaint o brofiad ennill rhwng £30,000 - £35,000
  • Gall uwch beirianwyr awyru twnelu ennill £35,000 - £45,000*
  • Mae peirianwyr awyru twnelu hunangyflogedig yn gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar leoliad, cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer peirianwyr awyru twnelu:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a dilyniant

Fel peiriannydd awyru twnelu, gallech symud ymlaen i fod yn arweinydd tîm neu'n rheolwr.

Gallech hefyd drosglwyddo eich sgiliau i rôl beirianneg berthnasol, fel peiriannydd sifil.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Peiriannydd awyru twnelu
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Arweinydd Tîm Adeiladu Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa fel Goruchwyliwr Galwedigaethol. Byddwch yn g...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080