Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae modelwyr trafnidiaeth yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol arbenigol i ddylunio a datblygu llwybrau trafnidiaeth. Fel modelydd trafnidiaeth, gallech ddylunio sut mae gosodiadau ffyrdd newydd yn cysylltu â systemau trafnidiaeth presennol. Gallech fod yn dylunio systemau unffordd neu wyriadau, tra bod ffyrdd eraill yn cael eu hatgyweirio, neu’n cynllunio systemau trafnidiaeth cyn digwyddiadau mawr, fel gwyliau neu brotestiadau.
£30000
-£60000
41-43
Mae sawl ffordd o ddod yn fodelwr trafnidiaeth. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr os oes gennych brofiad perthnasol.
Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn fodelwr trafnidiaeth i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen i chi gael gradd i fod yn fodelwr trafnidiaeth.
I astudio gradd israddedig, bydd angen 2 - 3 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol arnoch fel arfer.
Mae llawer o raddedigion yna’n mynd ymlaen i wneud cymhwyster ôl-radd cymeradwy mewn cynllunio trafnidiaeth, a gynigir gan y Gymdeithas Cynllunio Trafnidiaeth.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Gallech gwblhau cwrs coleg sy'n ymwneud â TG neu Ddylunio â Chymorth Cyfrifiadur, i'ch helpu i baratoi am yrfa fel modelwr trafnidiaeth.
Yn gyffredinol, bydd angen i chi gael 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Gallech ddechrau drwy ddilyn prentisiaeth uwch technegydd cynllunio trafnidiaeth, ac yna symud ymlaen i radd brentisiaeth fel cynllunydd trafnidiaeth.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad yn y sector rheoli trafnidiaeth, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel modelwr trafnidiaeth. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i fodelwr trafnidiaeth mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel modelwr trafnidiaeth. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel modelwr trafnidiaeth:
Fel modelwr trafnidiaeth, byddwch yn gwneud gwaith ymchwil ac yn defnyddio modelu cyfrifiadurol i ddylunio systemau ffyrdd a thraffyrdd newydd neu ragweld effaith gwyriadau angenrheidiol (ar gyfer gwaith atgyweirio priffyrdd) ar ffyrdd presennol, neu ddatblygiadau newydd fel canolfannau siopa.
Mae swydd modelwr trafnidiaeth yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i fodelwr trafnidiaeth yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer modelwyr trafnidiaeth:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel modelwr trafnidiaeth, gallech ddod yn gynllunydd trafnidiaeth uwch neu siartredig drwy gymwysterau fel y cymhwyster Proffesiynol Cynllunio Trafnidiaeth. Gallech hefyd symud ymlaen i faes cynllunio trefi, datblygu polisi neu ymgynghori amgylcheddol.