Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gyrrwr wagen fforch godi yn gyfrifol am ddanfon, symud, llwytho a dadlwytho amrywiaeth o nwyddau mewn warysau ac ar safleoedd adeiladu.
£17000
-£30000
44-46
Mae sawl ffordd o ddod yn yrrwr wagen fforch godi. Gallech gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech chi gwblhau Dyfarniad Lefel 2 neu Dystysgrif mewn Gweithrediadau Wagenni Fforch Godi er mwyn ennill y dystysgrif angenrheidiol i fod yn yrrwr wagen fforch godi.
Bydd angen i chi gael 2 TGAU neu fwy ar raddau 9 i 3 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.
Mae prentisiaeth gyda chyflenwr adeiladu, cwmni warws neu weithgynhyrchu yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.
Gallech chi gwblhau prentisiaeth ganolradd mewn gweithrediadau warws cadwyn gyflenwi i fod yn yrrwr wagen fforch godi.
Bydd angen i chi gael 2 - 3 TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Os oes gennych rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni cyflenwi adeiladu neu gwmni gweithgynhyrchu oddi ar y safle i gael profiad fel gyrrwr wagen fforch godi. Mae llawer o gwmnïau'n cynnig hyfforddiant, felly efallai na fydd angen i chi gael unrhyw gymwysterau blaenorol.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gyrrwr wagen fforch godi. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gyrrwr wagen fforch godi:
Fel gyrrwr wagen fforch godi, byddwch chi’n gyfrifol am gludo nwyddau a phaledi o amgylch warws neu safle adeiladu.
Mae swydd gyrrwr wagen fforch godi yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i yrrwr wagen fforch godi yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gyrwyr wagenni fforch godi:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel gyrrwr wagen fforch godi, gallech drosglwyddo eich sgiliau i rôl fel gweithredwr peiriannau, gweithredwr craeniau neu fecanig peiriannau.
Gyda phrofiad, gallech chi symud ymlaen i swydd uwch fel arweinydd tîm neu oruchwyliwr, neu fel reolwr adeiladu.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod