Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gweithiwr drilio tir yn gyfrifol am ymchwilio i dir cyn drilio i mewn iddo, er mwyn gosod strwythurau fel twneli neu ffynhonnau ar gyfer nwy neu olew. Fel gweithiwr drilio tir, byddwch chi’n gweithio’n agos gyda syrfewyr, daearegwyr a gwyddonwyr daearegol, ac yn monitro’r cynnydd o ran drilio, goruchwylio’r gwaith o reoli diogelwch a sicrhau bod yr amgylchedd o’i gwmpas yn cael ei ddiogelu.
£17000
-£35000
Mae sawl ffordd o ddod yn weithiwr drilio tir. Mae prentisiaeth yn un ffordd gyffredin o ddechrau arni yn y rôl hon, neu gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr, am hyfforddiant yn y gwaith.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech chi gwblhau Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Drilio Tir (Adeiladu) gyda darparwr hyfforddiant arbenigol, i ddod yn weithiwr drilio tir.
Bydd angen i chi gael 2 - 3 TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Mae prentisiaeth gyda chwmni drilio arbenigol yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.
Gallech chi gwblhau prentisiaeth drilio tir i ddod yn weithiwr drilio tir.
Bydd angen i chi gael 2 TGAU ar raddau 9 i 3 (A* i D), neu gymhwyster cyfatebol.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni drilio arbenigol i gael profiad ar safle fel gweithiwr drilio tir. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i weithiwr drilio tir mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr drilio tir. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithiwr drilio tir:
Fel gweithiwr drilio tir, byddwch yn gyfrifol am ymchwilio i’r tir ar amrywiaeth o wahanol safleoedd adeiladu cyn drilio tyllau i mewn iddo i greu ffynhonnau nwy neu dwneli.
Mae swydd gweithiwr drilio tir yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Lee Allardyce
Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr drilio tir yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithiwyr drilio tir:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel gweithiwr drilio tir, gallech chi gwblhau rhagor o astudiaethau i fod yn syrfewyr tir, neu drosglwyddo eich sgiliau i rôl fel gweithiwr twnelu neu beiriannydd geo-dechnegol.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod