Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gosodwyr paneli solar yn gosod paneli solar ar doeau a strwythurau ar dir, i drosi ynni solar yn ynni adnewyddadwy. Mae gosodwyr hefyd yn gyfrifol am gynnal paneli solar a sicrhau bod y systemau weirio’n ddiogel ac yn effeithlon.
£17000
-£36000
30-40
Mae sawl ffordd o fod yn osodwr paneli solar. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy ddilyn cwrs coleg neu brentisiaeth. Os oes gennych chi gymwysterau perthnasol yn barod, gallech chi wneud cais am swydd yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn osodwr paneli solar i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau, mae gan lawer o gyflogwyr ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech ennill y sgiliau i’ch helpu i fod yn osodwr paneli solar yn y coleg drwy gwblhau cwrs fel Diploma City and Guilds Lefel 2 neu 3 mewn Gwaith Gosod Trydanol.
Bydd angen y canlynol arnoch chi:
Ar ôl i chi gymhwyso mewn gwaith gosod trydanol, gallech fynd ymlaen i hyfforddi i fod yn osodwr paneli solar drwy gwrs arbenigol.
Gallech chi weithio tuag at fod yn osodwr paneli solar drwy gwblhau prentisiaeth ganolradd mewn gwaith gosod trydanol. Bydd hyn yn cymryd tua dwy flynedd i’w gwblhau a byddai’n eich galluogi i symud ymlaen i gymhwyster uwch, neu arbenigo mewn gosod paneli solar.
Bydd angen o leiaf 4 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) ar raddau 9 i 4 (A* i C) arnoch, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, i fod yn brentis-drydanwr.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Os oes gennych chi TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) gan gynnwys Saesneg a mathemateg, a sgiliau ymarferol da, gallech wneud cais am swydd fel mêt, hyfforddai neu gynorthwyydd trydanwr. Efallai y bydd eich cyflogwr yn eich cefnogi i hyfforddi i fod yn gwbl gymwys ac yna gallwch fynd ymlaen i ennill cymwysterau pellach ac arbenigo mewn gosod paneli solar.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gosodwr paneli solar. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gosodwr paneli solar:
Fel gosodwr paneli solar, byddwch chi’n gyfrifol am osod a chynnal paneli solar ar adeiladau a thir i sicrhau eu bod yn effeithlon wrth drosi pŵer solar yn ynni adnewyddadwy. Bydd y rhan fwyaf o’ch gwaith fel gosodwr paneli solar yn yr awyr agored ac mewn mannau uchel.
Efallai y bydd swydd gosodwr paneli solar yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i osodwr paneli solar yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i osodwyr paneli solar:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd swyddi newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel gosodwr paneli solar, gallech chi symud ymlaen i swydd fel arweinydd tîm neu reolwr prosiect.
Neu, gallech sefydlu eich hun fel gweithiwr hunangyflogedig.