Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae dadansoddwyr ynni adnewyddadwy yn mesur effeithlonrwydd ffynonellau ynni adnewyddadwy ac yn datblygu modelau ynni cynaliadwy ar gyfer adeiladau.
£25000
-£80000
41-43
Mae sawl ffordd o ddod yn ddadansoddwr ynni adnewyddadwy. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu brentisiaeth, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn ddadansoddwr ynni adnewyddadwy i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
I fod yn ddadansoddwr ynni adnewyddadwy, gallech chi gwblhau cwrs prifysgol israddedig neu ôl-raddedig mewn pwnc perthnasol.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Gallech chi hyfforddi i fod yn ddadansoddwr ynni adnewyddadwy drwy gwblhau prentisiaeth uwch neu radd-brentisiaeth mewn peirianneg, pensaernïaeth neu dirfesur.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Os oes gennych chi brofiad o weithio mewn diwydiant cysylltiedig fel pensaernïaeth, tirfesur neu beirianneg, efallai y gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd fel dadansoddwr ynni adnewyddadwy.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel dadansoddwr ynni adnewyddadwy. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel dadansoddwr ynni adnewyddadwy:
Fel dadansoddwr ynni adnewyddadwy, byddwch yn datblygu datrysiadau ynni cynaliadwy i sicrhau bod ynni’n cael ei ddefnyddio’n fwy effeithlon mewn adeiladau.
Mae swydd dadansoddwr ynni adnewyddadwy yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i ddadansoddwr ynni adnewyddadwy yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer dadansoddwyr ynni adnewyddadwy
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel dadansoddwr ynni adnewyddadwy, gallech symud ymlaen i rôl fel peiriannydd ynni neu arbenigo mewn math penodol o ymgynghori ar ynni adnewyddadwy.
Gallech chi fynd yn hunangyflogedig a gweithio fel ymgynghorydd ynni adnewyddadwy.