Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae cynghorwyr amgylcheddol yn sicrhau bod prosiectau adeiladu yn cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol ac yn cyrraedd targedau. Maen nhw’n cynllunio’n strategol ffyrdd o sicrhau cyn lleied â phosibl o lygredd aer neu lygredd dŵr a phridd, lleihau gwastraff deunyddiau a sicrhau bod unrhyw wastraff angenrheidiol yn cael ei waredu yn y modd cywir.
£20000
-£40000
37-39
Mae dwy brif ffordd i fod yn gynghorydd amgylcheddol. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu radd-brentisiaeth.
Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn gynghorydd amgylcheddol, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech chi gwblhau gradd israddedig mewn pwnc perthnasol fel peirianneg amgylcheddol, gwyddor yr amgylchedd, astudiaethau amgylcheddol, geowyddoniaeth, bioleg, ecoleg neu wyddor amaethyddol.
Mae llawer o gyflogwyr hefyd yn chwilio am ymgeiswyr sydd â chymwysterau ôl-radd perthnasol a phrofiad gwaith mewn lleoliad amgylcheddol.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Gallwch ddod yn ymgynghorydd amgylcheddol drwy gwblhau gradd-brentisiaeth fel ymarferwr amgylcheddol.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel cynghorydd amgylcheddol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. Mae llawer o fudiadau amgylcheddol yn cynnig cyfleoedd i wirfoddoli a fydd yn rhoi blas i chi ar waith amgylcheddol, ac yn datblygu eich sgiliau a'ch cysylltiadau.
Fel cynghorydd amgylcheddol, gallai’r sgiliau canlynol fod yn ddefnyddiol:
Prif gyfrifoldeb cynghorydd amgylcheddol yw sicrhau bod prosiectau’n cydymffurfio â rheoliadau a thargedau amgylcheddol drwy roi sylw i faterion fel ansawdd aer, halogi tir a dŵr, rheoli gwastraff ac effaith amgylcheddol.
Dyma rai o ddyletswyddau eraill cynghorydd amgylcheddol:
Nina Hughes
Rwy’n gweithio yn y tîm Cynaliadwyedd Grŵp, rydyn ni’n gweithio ar draws ein holl fusnesau, felly mae fy rôl yn amrywiol, gan gynnwys datblygu strategaethau i’w cyflwyno ar draws y grŵp, busnesau rhanbarthol a safleoedd, dadansoddi ac adrodd ar ddata grŵp, ac rwy’n gweithio ar brosiectau penodol fel sicrhau fod Grŵp Wates yn cwblhau Cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni’r Llywodraeth.
Mae’r cyflog disgwyliedig i gynghorwyr amgylcheddol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi diweddaraf ar gyfer cynghorwyr amgylcheddol:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel cynghorydd amgylcheddol, gallech symud ymlaen i rôl fel peiriannydd amgylcheddol, rôl arbenigol sy’n canolbwyntio ar ddiogelu’r amgylchedd drwy leihau gwastraff a llygredd.
Fel arall, gallech ddod yn arbenigwr adfer, gan ddelio â’r gwaith o drin a gwaredu halogiad o bridd a dŵr daear.
Gallech gwblhau cymwysterau proffesiynol drwy’r Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol (IEMA) ac arbenigo mewn meysydd penodol o ymgynghori amgylcheddol. Gydag amser a phrofiad, gallech fod yn siartredig a gwella eich rhagolygon gyrfa a’ch cyflog.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod