Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau yn gyfrifol am drefnu timau o beirianwyr i sicrhau bod prosiect yn cael yr adnoddau angenrheidiol i sicrhau ei fod yn rhedeg yn esmwyth ac yn cadw at yr amserlen. Mae hyn fel arfer yn golygu trefnu ymweliadau i wneud gwaith cynnal ar beiriannau.
£20000
-£40000
40-42
Mae sawl ffordd o ddod yn gydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau. Er nad oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, gallech chi gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith, neu wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech chi gwblhau cwrs gyda choleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol mewn gweinyddu busnes neu TG i roi cychwyn da i chi wrth wneud cais am swydd fel cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau. Gallech ddilyn Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Busnes a Gweinyddu.
Bydd angen y canlynol arnoch chi:
Mae prentisiaeth yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant adeiladu.
Mae prentisiaeth gweinyddu busnes ganolradd yn cymryd tua dwy flynedd i’w chwblhau, a bydd yn helpu i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn gydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau. Os gall eich cyflogwr roi'r profiadau iawn i chi, gallech symud ymlaen i gymhwyster Lefel 3 (uwch).
Bydd angen y canlynol arnoch:
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar safle fel cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i gydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau:
Fel cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau, byddwch yn gyfrifol am reoli tîm o beirianwyr i sicrhau eu bod yn symud i’r safleoedd cywir i wneud gwaith cynnal. Gall y dyletswyddau gynnwys ymweld â safleoedd, a gallan nhw fod ar y môr neu dramor.
Mae swydd cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau’n cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i gydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer Cydlynwyr Gwasanaethau Cymorth Peiriannau:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio.
Edrychwch bob dydd i weld cyfleoedd newydd wrth iddynt gael eu postio!
Fel cydlynydd gwasanaethau cymorth peiriannau, gallech symud ymlaen yn y rôl i fod yn rheolydd peiriannau, ac yn y pen draw yn rheolwr peiriannau ar ôl i’ch sgiliau a’ch profiad wella.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod