Profiad gwaith
Rhoi cynnig arni: profiad gwaith - ateb eich holl gwestiynau
Beth yw profiad gwaith?
Mae profiad gwaith yn ffordd o ddarganfod sut beth yw gwahanol swyddi yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Yn dibynnu ar eich diddordebau, gallech fod yn cysgodi seiri, plymwyr, rheolwyr, peirianwyr, gweinyddwyr, syrfewyr neu weithwyr arbenigol eraill o amrywiaeth o broffesiynau ar safle ac oddi ar safle.
Gall profiad gwaith eich helpu i gael blas ar y swydd y mae gennych ddiddordeb ynddi a bydd yn gwella eich CV, ac yn golygu eich bod yn fwy cyflogadwy. Mae hefyd yn eich galluogi i rwydweithio a dechrau gwneud cysylltiadau proffesiynol yn y maes gwaith y mae gennych ddiddordeb ynddo, a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol.
Er bod cymwysterau'n bwysig, mae profiad gwaith o unrhyw fath yn dangos i gyflogwyr eich bod yn gallu defnyddio eich gwybodaeth a'ch bod wedi datblygu sgiliau pwysig eraill fel gwaith tîm, dibynadwyedd, gallu i gyfathrebu, a meddwl yn rhesymegol.
Felly, er y gall profiad gwaith sy'n ymwneud â’r maes adeiladu eich helpu i fynd i mewn i'r diwydiant, os ydych chi'n mynd i fyd gwaith am y tro cyntaf mae'n syniad da dweud wrth gyflogwyr am eich swydd ar ddydd Sadwrn, neu unrhyw amser rydych wedi’i dreulio’n gwirfoddoli.
Ar gyfer pwy mae profiad gwaith?
Gall unrhyw un wneud cais am brofiad gwaith, ni waeth pa gam o’u gyrfa maent wedi'i gyrraedd. Mae lleoliadau fel arfer wedi’u hanelu at y rheini sydd heb brofiad mewn maes penodol neu sydd eisiau gweld sut beth yw'r rôl cyn penderfynu a yw’n addas ar eu cyfer.
Bydd profiad gwaith o unrhyw fath yn eich galluogi i roi rhywfaint o’ch hyfforddiant ar waith ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau fel cyfathrebu a gweithio gydag eraill sy’n hanfodol yn y byd gwaith.
Mae llawer o gyflogwyr adeiladu yn ystyried bod profiad gwaith yn hanfodol, felly os ydych chi'n bwriadu ymuno â'r diwydiant gallai lleoliad wella eich rhagolygon yn aruthrol.
Beth mae profiad gwaith yn ei gynnwys?
Gallwch drefnu profiad gwaith eich hun neu gellir ei drefnu fel lleoliad fel rhan o gwrs hyfforddi. Gall bara o ychydig ddyddiau i ychydig wythnosau neu fwy.
Bydd swyddi a hysbysebir neu brofiad gwaith a drefnir drwy’r ysgol neu'r coleg fel arfer yn nodi pa mor hir yw lleoliad. Os byddwch yn trefnu eich profiad gwaith eich hun, gallwch drafod pa mor hir y bydd yn para gyda'r cyflogwr.
Yn gyffredinol, mae profiad gwaith yn gyfle i gysgodi gweithwyr proffesiynol medrus wrth eu gwaith a’u helpu gyda thasgau o ddydd i ddydd.
Yn dibynnu ar y rôl, efallai y bydd eich profiad gwaith yn cael ei wneud dan do neu yn yr awyr agored. Gallech weithio ar safle adeiladu, mewn gweithdy, mewn adeilad cleient, mewn amgylchedd swyddfa neu mewn cymysgedd o'r rhain i gyd.
Dylai eich cyflogwr profiad gwaith roi cyflwyniad i chi a sicrhau eich bod yn ymwybodol o weithdrefnau iechyd a diogelwch cyn i chi ddechrau. Os bydd angen, byddant yn darparu cyfarpar diogelu personol i chi ei wisgo yn y gwaith.
Beth sy’n digwydd ar ôl fy lleoliad?
Ar ôl i’ch profiad gwaith ddod i ben, mae'n bosibl y bydd y cwmni sy'n darparu'r cyfle yn argymell eich bod yn gwneud cais am swydd wag yn y cwmni neu efallai y bydd yn gallu rhoi geirda i chi i'ch helpu i gael swydd yn rhywle arall.
Os ydych chi’n dal i astudio, gallwch ychwanegu eich profiad gwaith at eich CV pan fyddwch chi’n dechrau chwilio am waith neu ragor o gyfleoedd addysgol. Bydd tiwtoriaid prifysgol a choleg yn edrych yn ffafriol ar brofiad gwaith, swyddi ar benwythnosau a gwirfoddoli ac efallai y byddan nhw’n gofyn i chi amdanynt mewn cyfweliad, p’un ai a yw’n benodol i’ch astudiaethau ai peidio.
Wrth gwrs, efallai eich bod wedi darganfod nad yw’r rôl a wnaethoch yn addas i chi, ac os felly gallech chwilio am leoliad arall a allai fod yn fwy addas. Nid yw profiad gwaith yn eich ymrwymo i unrhyw beth, a thrwyddo gallwch barhau i feithrin eich sgiliau a'ch dealltwriaeth o waith.
A fydda i'n cael fy nhalu?
Fel arfer, mae profiad gwaith yn ddi-dâl, er y gall darparwyr lleoliadau gynnig talu rhai o'ch costau, megis costau teithio. Os ydych chi'n dal mewn addysg, mae'n bosibl i ddarparwr eich lleoliad gynnig cymorth neu gyngor ariannol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Sut mae dod o hyd i brofiad gwaith?
Mae rhai cwmnïau adeiladu a safleoedd swyddi yn hysbysebu lleoliadau profiad gwaith ar-lein neu efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i gyfle drwy eich ysgol, coleg, darparwr hyfforddiant neu brifysgol. Fel arall, gallech drefnu’r profiad gwaith eich hun.
Mae'n syniad da ymchwilio i gwmnïau yr hoffech weithio iddyn nhw. Os ydych chi'n dod o hyd i gyflogwr nad yw’n cynnig profiad gwaith yn barod, gallech ysgrifennu e-bost neu lythyr eglurhaol ffurfiol atynt i esbonio pam yr hoffech wneud cais am brofiad gwaith, gan nodi eich sgiliau presennol a'r rhai yr hoffech eu datblygu.
Gallech anfon cais at fwy nag un cwmni ar y tro i wella'ch cyfleoedd, neu i'ch helpu i gael profiad gyda gwahanol gyflogwyr.
Sut mae cyflogwyr yn elwa?
Drwy gynnig profiad gwaith, gall cyflogwyr adeiladu helpu myfyrwyr i bontio’n llwyddiannus o’r ysgol i’r byd gwaith a gwella eu rhagolygon o ran swyddi.
Mae profiad gwaith yn galluogi busnesau i ddod o hyd i gronfa o dalent newydd a dylanwadu ar botensial yn gynnar, ar yr un pryd â chynnig cyfle i staff presennol ddatblygu eu sgiliau goruchwylio a mentora.
Wedi cael profiad gwaith yn barod?
Rhagor o wybodaeth am y canlynol: