Sut i wneud cais am brentisiaeth?
Mae miloedd o gyfleoedd i chi ddod o hyd i brentisiaethau a gwneud cais amdanynt, boed hynny ar-lein, wyneb yn wyneb neu glywed amdanynt ar lafar.
I ennill cyflog wrth ddysgu mewn prentisiaeth, bydd angen i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn, yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban ac nid mewn addysg amser llawn.
I wneud cais llwyddiannus, bydd angen i chi gael CV prentisiaeth a llythyr eglurhaol da.
Sut mae chwilio am brentisiaeth?
Mae llawer o ffyrdd o chwilio am brentisiaeth addas.
- Un o’r gwefannau gorau i chwilio am brentisiaethau sy’n wag ar hyn o bryd yw Talentview. Gallwch chi hidlo eich chwiliadau yn ôl swydd, lleoliad a lefelau prentisiaeth penodol
- Ewch at fusnesau bach neu fawr neu gwmnïau lleol i weld a ydyn nhw’n fodlon eich cyflogi chi. Edrychwch ar gyfleoedd prentisiaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban drwy ddilyn y dolenni isod
- Mae’r Llywodraeth yn rhedeg Gwasanaeth Prentisiaethau, lle gallwch chi chwilio am gyfleoedd prentisiaeth ar-lein
- Gallwch chi hefyd gofrestru gyda safleoedd swyddi fel Indeed neu TotalJobs. Byddwch chi’n gallu llwytho eich CV i fyny a gosod hysbysiadau swyddi i’ch helpu chi i ddod o hyd i gyfleoedd addas. Bydd cyflogwyr hefyd yn gallu cysylltu â chi’n uniongyrchol
- Edrychwch ar yr adrannau prentisiaethau neu swyddi gwag ar wefannau cwmnïau y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Gallwch chi hefyd eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf
- Cysylltwch â cholegau lleol, darparwyr hyfforddiant arbenigol neu asiantaethau rheoli prentisiaethau i gofrestru eich diddordeb. Efallai y gallan nhw eich helpu i ddod o hyd i gyflogwr
- Gofynnwch i’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cymdogion i weld a oes ganddyn nhw unrhyw gyfleoedd prentisiaeth yn eu mannau gwaith.
Beth ddylech chi ei gynnwys yn eich cais?
CV
CV cryf yw un o’r prif flaenoriaethau wrth i chi wneud cais am brentisiaeth. Dyma’r ffordd orau i chi greu argraff gyntaf dda ar gyflogwr. Bydd llawer o brentisiaethau sy’n cael eu hysbysebu ar-lein yn gofyn i chi lwytho CV i fyny fel rhan o’r broses ymgeisio.
- Darllenwch ein canllaw ar ysgrifennu CV ar gyfer prentisiaethau
Llythyr eglurhaol
Y peth hanfodol am lythyr eglurhaol da yw ei fod yn rhoi hanes eich CV – lle rydych chi’n dangos sut y gall eich profiad a’ch sgiliau eich gwneud yn ddeniadol i gyflogwr. Ceisiwch ei gadw i bedwar paragraff ac un ochr o bapur A4.
- Darllenwch ein canllaw ar ysgrifennu llythyr eglurhaol ar gyfer prentisiaethau