Lloegr
Gwneud cais am brentisiaethau yn Lloegr
Bydd teilswyr waliau a lloriau yn gweithio ar safleoedd adeiladu mewn prosiectau adeiladu preswyl a masnachol newydd, ac ar gyfer cwsmeriaid preifat, yn gwneud addasiadau neu’n uwchraddio ystafelloedd ymolchi neu geginau. Mae teilswyr toeau neu weithwyr toi yn gweithio y tu allan yn bennaf, gan deilsio toeau cyflawn, neu arbenigo mewn meysydd fel gorchuddion neu gladin. Mae gweithwyr toi yn gosod teils ac yn trwsio toeau.
Prentisiaethau yw un o’r llwybrau mwyaf poblogaidd at yrfa teilsio, ond beth ddylech chi ei ddisgwyl o brentisiaeth teilsio?
Bydd prentisiaethau teilsio waliau a lloriau a phrentisiaethau teilsio toi yn rhoi’r sgiliau hanfodol i chi weithio fel teilsiwr. Mae hyn yn cynnwys defnyddio offer penodol, gweithio gyda gwahanol fathau o deils, paratoi arwynebau, torri teils ac arsylwi iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd gwaith.
Bydd hyd cyrsiau prentisiaeth teilsio yn amrywio, yn dibynnu ar faint o amser mae prentis yn ei roi i’r hyfforddiant. Yn ddelfrydol, mae prentisiaid yn treulio tua 20% (neu ddiwrnod bob wythnos) gyda’u darparwr hyfforddiant. Cynigir rhai cyrsiau mewn canolfannau hyfforddi lle gellir eu cwblhau mewn cyfnod o 6 wythnos o hyfforddiant dwys.
At ei gilydd, ystyrir mai’r rhaglenni prentisiaeth NVQ Lefel 2 yw’r prif lwybrau tuag at yrfa broffesiynol fel teilsiwr waliau a lloriau a theilsiwr toi. Bydd y cymhwyster llechi a theils to yn cymryd tua 24 mis i’w gwblhau, a bydd y brentisiaeth teilsio waliau a lloriau yn para 30-36 mis.
Mae teilswyr waliau, lloriau a thoi sydd newydd gael eu hyfforddi yn ennill tua £17,000-£20,000. Gall teilswyr profiadol ennill dros £30,000.
Dyma’r prif gymwysterau prentisiaeth NVQ teilsio waliau a lloriau, llechi toi a theilsio yn Lloegr:
Yn yr Alban, dyma’r opsiynau prentisiaeth ar gyfer teilswyr waliau a lloriau, llechi a theils:
Yng Nghymru, gall teilswyr waliau, lloriau a thoi ddilyn y prentisiaethau canlynol:
Mae’n amlwg y bydd gwahaniaethau mawr rhwng prentisiaeth teilsio waliau a lloriau, a phrentisiaeth teilsio a llechi toi, ond dyma rai o’r agweddau sylfaenol a drafodir:
Nid oes angen unrhyw bynciau penodol ar gyfer prentisiaethau mewn teilsio waliau a lloriau yn Lloegr. Fodd bynnag, mae cyflogwyr bob amser yn gwerthfawrogi Saesneg a Mathemateg yn fawr. Mae mathemateg yn ddefnyddiol i deilswyr wrth gyfrifo faint o deils sydd eu hangen.
Ar gyfer mynediad ar y cwrs teilsio Lefel 1, fel arfer bydd angen i brentisiaid gael o leiaf dwy radd TGAU 3 i 1 (D i G). Mae'r Diploma a'r Dystysgrif Lefel 2 yn gofyn am ddwy radd TGAU 9 i 3 (A* i D), neu gwblhau Lefel 1.
Yn yr Alban, cynigir prentisiaethau modern ym maes teilsio waliau a lloriau. Mae’r rhain yn arwain at gymhwyster Lefel 3 ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol yn y Gwaith, sy’n cyfateb i NVQ Lefel 3. Nid oes angen cymwysterau ffurfiol i ddechrau prentisiaeth fodern mewn teilsio waliau a lloriau.
I gael eich derbyn ar brentisiaeth ganolradd teilsio waliau a lloriau yng Nghymru, dylai ymgeiswyr feddu ar bum gradd TGAU 9 i 4 (A* i C). Ond bydd y gofynion mynediad yn amrywio ar draws darparwyr, ac nid oes angen unrhyw gymwysterau ar gyfer rhai rhaglenni prentisiaeth teilsio yng Nghymru.
Bydd pob lefel yn gofyn i brentisiaid weithio ar safleoedd adeiladu, lle bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch.
Mae angen i deilsiwr o bob math roi sylw da i fanylion, bod â sgiliau ymarferol rhagorol a lefel resymol o rifedd i gyfrifo nifer y teils sydd eu hangen ar gyfer swyddi. Mae angen i dowyr beidio â bod ofn uchder, mwynhau gweithio yn yr awyr agored a bod â lefel resymol o ffitrwydd corfforol. Mae gallu gweithio’n dda gydag eraill yn hanfodol, gan y byddwch fel arfer yn gweithio ochr yn ochr â chrefftwyr eraill.
Teilsio a thoi yw un o’r crefftau sy’n cael eu cyflogi fwyaf yn y diwydiant adeiladu, felly mae digon o waith ar gael bob amser. Gall uwch deilswyr waliau a lloriau symud ymlaen i fod yn oruchwylwyr safle, clercod gwaith, amcangyfrifwyr neu reolwyr contractau, neu weithio fel hyfforddwyr neu aseswyr ar gyrsiau teilsio. Mae teilswyr yn aml yn dechrau eu busnesau eu hunain.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am brentisiaeth teilsio , un o’r pethau gorau i’w wneud yw chwilio am swyddi gwag sy’n cael eu cynnig gan gwmnïau adeiladu neu gwmnïau teilsio lleol. Chwiliwch ar wefannau swyddi, neu os ydych chi wedi cael rhywfaint o brofiad gwaith blaenorol mewn cwmni, gofynnwch a yw'n cyflogi unrhyw brentisiaid newydd. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am unrhyw rôl brentisiaeth, felly bydd angen i chi lunio CV,a mynd i gyfweliad.
Gallech:
Dewiswch un o’r safleoedd postio swyddi isod i ddod o hyd i brentisiaethau teilsio yn Lloegr, Cymru a’r Alban.