Lloegr
Gwneud cais am brentisiaethau yn Lloegr
Mae gweithiwr tir yn paratoi’r tir cyn, yn ystod ac ar ôl prosiect adeiladu, er mwyn i grefftwyr eraill allu gwneud eu gwaith. Yn aml, nhw yw’r gweithwyr cyntaf ar safle adeiladu ac efallai y byddant yn aros yno drwy gydol y gwaith. Gallai gweithwyr tir fod yn gosod systemau draenio, yn gosod arwynebau ffyrdd, yn clirio llystyfiant ar dir, yn gosod dreifs a llwybrau troed.
Mae prentisiaeth yn un o’r llwybrau mwyaf effeithiol i fod yn weithiwr tir.
Mae prentisiaeth Gweithiwr Tir Lefel 2 yn cael ei threulio’n gweithio gyda chyflogwr, lle mae prentisiaid yn cael hyfforddiant ar y sgiliau y bydd eu hangen arnynt i wneud gwaith tir. Mae prentisiaid gwaith tir yn ennill cyflog ac yn rhoi’r hyn maen nhw’n ei ddysgu ar waith yn eu gwaith o ddydd i ddydd i’w cyflogwr.
Mae’r brentisiaeth Gweithwyr Tir Lefel 2 yn rhaglen 18 mis.
Fel prentis gwaith tir, mae gennych hawl i gael eich talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol - mae lefelau hyn yn dibynnu ar eich oedran.
Mae prentis gwaith tir yn cael ei dalu am y canlynol:
Hefyd, mae gennych hawl i’r isafswm lwfans gwyliau o 20 diwrnod y flwyddyn ynghyd â Gwyliau Banc.
Dim ond un sydd yn Lloegr – prentisiaeth Gweithiwr Tir Lefel 2. Mae hyn yn rhoi hyfforddiant i brentisiaid mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, dyletswyddau a sgiliau adeiladu, yn bennaf gallu dehongli manylebau dylunio er mwyn paratoi safle adeiladu ar gyfer gwaith adeiladu strwythurol.
Yn yr Alban, mae prentisiaethau gweithwyr tir yn cael eu cynnig fel rhan o raglenni cyffredinol Modern Apprenticeship Construction Specialist. Mae’r rhain ar Lefel 5 SCQF.
Mae’r brentisiaeth Gweithiwr Tir Lefel 2 a gynigir yn Lloegr hefyd yn cael ei chynnig yng Nghymru.
Bydd prentisiaid gwaith tir yn dysgu sut mae cyflawni’r tasgau canlynol yn ystod eu prentisiaeth, drwy eu hyfforddiant ffurfiol a thrwy gysgodi eu cydweithwyr ar safleoedd adeiladu:
Yn Lloegr, nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer prentisiaid gweithwyr tir, ond dylai ymgeiswyr feddu ar y Sgiliau Swyddogaethol Lefel 1 mewn Saesneg a Mathemateg, a dylent sefyll y prawf Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg cyn diwedd eu rhaglen brentisiaeth.
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer gwaith tir yn yr Alban, ond mae’n bosib y bydd rhai cyflogwyr yn gofyn am gymwysterau adeiladu galwedigaethol SCQF lefel 4/5.
Fel yn Lloegr, nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer prentisiaid gweithwyr tir yng Nghymru. Dylai ymgeiswyr feddu ar y cymhwyster Sgiliau Swyddogaethol Lefel 1 mewn Saesneg a Mathemateg, neu gymwysterau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg (graddau 3-1/D-G).
Bydd cwrs gwaith tir yn gofyn i brentisiaid weithio ar safleoedd adeiladu, lle bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnynt.
Gallai gweithwyr tir hyfforddedig ac uwch ddod yn oruchwylwyr safle, yn weithredwyr peiriannau neu’n arbenigwyr dymchwel. O ran enillion, gall uwch weithwyr tir ennill £25,000 - £30,000 neu fwy, a gall gweithwyr tir hunangyflogedig osod eu cyfraddau cyflog eu hunain.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am brentisiaeth gwaith tir, un o’r pethau gorau i’w wneud yw chwilio am swyddi gwag sy’n cael eu cynnig gan gwmnïau adeiladu lleol. Chwiliwch ar wefannau swyddi a defnyddiwch wasanaeth prentisiaethau y llywodraeth. Os ydych chi wedi cael rhywfaint o brofiad gwaith blaenorol mewn cwmni, gofynnwch a yw'n cyflogi unrhyw brentisiaid newydd. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am unrhyw rôl brentisiaeth, felly bydd angen i chi lunio CV, ysgrifennu llythyr eglurhaol a mynd i gyfweliad.
Gallech:
Dewiswch un o’r safleoedd postio swyddi isod i ddod o hyd i brentisiaethau gwaith tir yn Lloegr, Cymru a’r Alban.