Cymru
Gwneud cais am brentisiaethau yng Nghymru
Mae’n debyg eich bod wedi clywed am grefftau fel gwaith coed neu osod brics, ond mae llawer o rolau eraill nad ydych efallai wedi’u hystyried. Edrychwch isod ar amrywiaeth o rolau sydd ar gael yn y diwydiant:
Talentview yw’r lle i bobl ddod o hyd i brentisiaethau adeiladu yn Lloegr. I'r rhai sy'n byw yn yr Alban ewch i wefan Apprenticeship Scots. Dylai unigolion yng Nghymru fynd i wefan llywodraeth Gyrfa Cymru.
Gallwch chwilio am brentisiaeth ar y gwefannau hyn gan ddefnyddio’r ffurflen isod:
Byddwch yn cael eich tywys i un o'r tair gwefan isod i weld prentisiaethau sydd ar gael yn eich gwlad ar gyfer eich term chwilio.
Enw |
Lefel addysgol gyfwerth |
Llwyddo mewn 5 TGAU gyda graddau 4-9 |
|
Llwyddo mewn 2 bwnc Safon Uwch |
|
HNC, Gradd sylfaen neu flwyddyn gyntaf Gradd israddedig |
|
Gradd Anrhydedd lawn |
Fel prentis, byddwch yn cael cyflog wrth ddysgu, felly gallwch gael cymhwyster diwydiant-benodol heb fod angen benthyciad myfyriwr. Byddwch yn gyflogedig yn llawn amser (fel arfer rhwng 31-40 awr yr wythnos), sy’n cynnwys yr amser rydych yn ei dreulio gyda’ch darparwr hyfforddiant.
Mae prentisiaid yn cael cyflog ac, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol, efallai y bydd ganddynt hawl i rai budd-daliadau hefyd.
Cwestiwn da! Mae manteision i gwblhau gradd neu brentisiaeth. Mae gan gyflogwyr barch mawr at y ddau lwybr.
Mae cyrsiau prifysgol sy’n gysylltiedig ag adeiladu yn aml yn canolbwyntio ar astudiaeth ddamcaniaethol, ond mae llawer yn cynnwys profiad ymarferol ar ffurf blwyddyn yn y diwydiant. Os byddwch yn cwblhau prentisiaeth lefel uwch neu radd, bydd eich cymhwyster yn cyfateb i radd israddedig neu radd meistr, ond byddwch wedi cael llawer mwy o brofiad ymarferol.
Er mwyn dod yn brentis adeiladu, bydd angen i chi ddod o hyd i gyflogwr a all ddarparu hyfforddiant yn y gwaith. Gallai hyn fod yn fusnes bach neu fawr, yn gwmni lleol, yn aelod o'r teulu neu'n unigolyn hunangyflogedig.
Os nad oes gennych gyflogwr eto, peidiwch â phoeni. Mae yna lawer o ffyrdd i ddod o hyd i rywun sydd eisiau eich cyflogi fel prentis:
Wrth siarad â chyflogwyr, rhowch wybod iddynt, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, y gallent gael hyd at £12,000 mewn grantiau gan y llywodraeth neu Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) am eich cyflogi. Bydd hyn yn eu helpu i dalu costau eich cyflogi.
Mae cyllid hefyd ar gael drwy'r Lefi Prentisiaethau neu drwy rai cymhellion gan y llywodraeth. Bydd hyn yn eu helpu i dalu costau eich cyflogi.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich prentisiaeth adeiladu, byddwch yn cael cymhwyster diwydiant-benodol.
Efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig swydd llawn amser i chi (ar ei strwythur cyflog) neu gallwch drafod y posibilrwydd o symud ymlaen i brentisiaeth lefel uwch gyda nhw. Wrth gwrs, efallai y byddwch yn dewis edrych yn rhywle arall am waith a chael profiad gyda chyflogwr arall.
Os nad yw'r cwmni y gwnaethoch gwblhau eich prentisiaeth gyntaf ag ef yn gallu darparu'r profiad gwaith cywir i chi ar gyfer cymhwyster lefel uwch, efallai y bydd angen i chi edrych yn rhywle arall i barhau â'ch hyfforddiant.