Pa gymorth ariannol sydd ar gael i brentisiaid?
Fe wnaethom ni sôn yn sydyn am rai o’r manteision y mae gennych chi hawl iddynt fel prentis yn ein canllaw i gyflog prentisiaethau, ond yma byddwn yn edrych yn fwy manwl ar yr hyn y mae prentis yn ei gael fel rhan o’i gyflogaeth.
Alla i hawlio budd-daliadau wrth wneud prentisiaeth?
Mae gan brentisiaid hawl i hawlio budd-daliadau, ond bydd y swm yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Mae gwahanol fanteision ar gael, fel credyd cynhwysol i gefnogi pobl ar incwm isel, ond bydd angen i chi edrych ar y meini prawf a gwneud yn siŵr eich bod chi’n gymwys cyn gwneud cais. Mae canllaw gan y Llywodraeth o'r enw How Benefits Work, sy'n ddefnyddiol i gael cyngor pellach, gan gynnwys rhestr o gyfrifianellau budd-daliadau dibynadwy ar-lein y gallwch chi eu defnyddio.
Ydw i’n gymwys i hawlio credydau treth neu gredyd cynhwysol?
Cafodd y system credydau treth flaenorol o gredyd treth gwaith (WTC) a chredyd treth plant (CTC) eu disodli gan gredyd cynhwysol (UC), sy’n ceisio cefnogi pobl ar incwm isel a’r rheini sydd ddim yn gallu gweithio.
Mae prentisiaid yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, ond dim ond rhai sydd ar brentisiaeth gydnabyddedig sy’n gallu hawlio Credyd Cynhwysol, sy’n golygu bod yn rhaid i chi wneud y canlynol:
- Cael darparwr hyfforddiant penodol
- Gweithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig
- Cael o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer prentis.
I wybod mwy am fod yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol, ewch i https://www.gov.uk/credyd-cynhwysol/cymhwyster.
Mae yna hefyd adran ar Gyllid a Thollau EM ar sut i gyfrifo credydau treth.
I fod yn gymwys, mae’n rhaid i rai sy’n ymgeisio am Gredyd Cynhwysol fodloni rhai cyfyngiadau ar eu horiau gwaith, ond mae hyn yn wahanol i brentis. Os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol, bydd gofyn i chi gytuno ar ymrwymiad hawlydd, sy’n gysylltiedig â faint o oriau rydych chi’n eu gwneud fel rhan o’ch prentisiaeth.
Os yw eich prentisiaeth am fwy na 30 awr yr wythnos, ni ddylai fod angen i chi wneud unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi chwilio am fwy o waith ar wahân i’r gwaith rydych chi’n ei wneud fel rhan o’ch prentisiaeth. Os yw eich prentisiaeth am lai na 30 awr yr wythnos ac nad ydych chi mewn unrhyw un o’r grwpiau sy’n gallu gweithio llai o oriau, efallai y bydd gofyn i chi wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith.
Y grwpiau sydd â’r hawl i weithio llai o oriau yw’r rheini sydd ag anabledd, salwch neu ymrwymiadau gofal plant.
Oes rhaid i mi dalu’r dreth gyngor wrth ddilyn prentisiaeth?
Mae rhai myfyrwyr wedi’u heithrio rhag gorfod talu’r dreth gyngor, ond nid yw hyn yn cynnwys prentisiaid. Fodd bynnag, os mai dim ond prentisiaid neu hyfforddeion sydd ar eich aelwyd, gallwch chi wneud cais am ddisgownt o 50% ar y dreth gyngor. Gallwch chi wneud cais yma am ddisgownt ar y dreth gyngor.
Ydw i’n gymwys i gael cyllid?
Ers pandemig COVID-19, mae newid wedi bod i gyllid prentisiaethau. Cyhoeddodd y Llywodraeth y newidiadau hyn a darparodd ddogfen ategol, y gallwch chi ei darllen yn llawn yma.
Mae prentisiaid yn cael cyflog wrth astudio ac mae ganddynt hawl i rai disgowntiau a buddion, ond fel arfer mae ‘cyllid’ ar gyfer prentisiaeth yn ymwneud â’r rhai sy’n cyflogi prentis, nid y prentis ei hun. Mae hyn yn caniatáu i gyflogwr gyflogi prentisiaid a’u cefnogi yn unol â hynny.
Fodd bynnag, efallai y gallwch chi wneud cais am grantiau neu gyllid yn lleol neu drwy gyllidwyr preifat, felly holwch eich coleg neu'ch Canolfan Waith leol pa gyfleoedd sydd ar gael.
Cliciwch yma i weld y grantiau prentisiaethau sydd ar gael gan CITB ar gyfer cyflogwyr.
Lwfans byw oddi cartref i brentisiaid
Ochr yn ochr â chyflog, mae rhai cyflogwyr yn cynnig buddion eraill gan gynnwys lwfans adleoli os oes rhaid i chi symud i gwblhau eich prentisiaeth. Fodd bynnag, bydd hyn yn unigryw i’ch prentisiaeth a dylech chi ei drafod cyn cytuno i unrhyw swydd gyda’r cyflogwr hwnnw.
Does dim lwfans penodol ar gyfer byw oddi cartref yn y DU (fel mewn gwledydd eraill fel Awstralia), ond efallai y gallwch chi hawlio treuliau am deithio neu eitemau penodol y byddwch chi’n eu prynu yn ystod eich prentisiaeth. Dysgu mwy am hawlio gostyngiad treth ar gyfer treuliau eich swydd.
Fel prentis, beth mae gen i hawl iddo?
Mae prentisiaid yn dod o dan rywbeth sy’n cael ei alw’n Rheoliadau Amser Gweithio 1998 sy’n golygu eu bod yn cael yr un hawliau sylfaenol â gweithwyr eraill. Beth am edrych ar hyn yn fanylach.
Grant Teithio i Hyfforddi
Mae’r grant Teithio i Hyfforddi ar gael i bob cyflogwr sydd wedi cofrestru â CITB sydd â phrentisiaid sy’n cael hyfforddiant ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Bydd y grant yn ad-dalu 80% o gostau llety prentisiaid sy’n mynychu colegau neu ddarparwyr hyfforddiant lle mae angen aros dros nos a theithio i/o westy.
Gall cyflogwyr hefyd wneud cais am gostau teithio prentisiaid os yw’r gost yn fwy na £20 yr wythnos.
Rhagor o wybodaeth am y grant Teithio i Hyfforddi
Tâl salwch
Mae gan brentisiaid hawl i gael tâl salwch. Eich cyflogwr chi sy’n pennu’r swm hwn, ond nid yw’n bosibl i hyn fod yn is na'r Tâl Salwch Statudol (SSP), sef £95.85 yr wythnos.
Hawl gwyliau a thâl
Mae gan brentisiaid yr un hawliau â gweithwyr eraill o ran cymryd gwyliau. Mae gennych chi hawl i gael o leiaf 20 diwrnod o wyliau gyda thâl bob blwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc.
Taliadau goramser
Mae goramser yn rhywbeth y mae’n rhaid cytuno arno mewn contract cyn i weithiwr ddechrau gweithio, gan nad oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwr i dalu am oriau ychwanegol. Hefyd, does dim lefelau isafswm statudol o dâl goramser.
Pensiwn cofrestru awtomatig
Dim ond i weithwyr 22 oed neu hŷn y mae cynllun y Llywodraeth i gofrestru’n awtomatig i gael pensiwn yn berthnasol. Gall prentisiaethau ddechrau pan rydych chi’n 16 oed, felly os ydych chi’n ennill £10,000 neu fwy (ym mlwyddyn dreth 2023-24), gallwch chi barhau i optio i mewn ac elwa o arian ychwanegol gan eich cyflogwr.
Ydych chi’n ystyried bod yn brentis?
Ddim yn siŵr sut beth fyddai prentisiaeth ym maes adeiladu? Dyma bopeth y mae angen i chi ei wybod.
Ydych chi’n ystyried gwneud cais am brentisiaeth yn y diwydiant adeiladu ond ddim yn siŵr sut i fynd ati? Mae gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.